Diwygio rheoliad 49

6.  Ar ôl rheoliad 49 (cymhwyso Rhan 13) mewnosoder—

Ailgyflunio mangre

49A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth—

(a)sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth, a

(b)nad oedd Rhan 13 yn gymwys iddo mewn perthynas â’r man hwnnw yn ystod cyfnod pan oedd y gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bedwar neu lai o unigolion.

(2)  Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cael caniatâd am amrywiad i’w amodau cofrestru ar neu ar ôl 31 Mawrth 2024 o ganlyniad i ailgyflunio mangre a ddefnyddir mewn perthynas â’r man, ac mai effaith yr amrywiad yw y gellir darparu llety yn y man hwnnw i bump neu ragor o unigolion, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gydymffurfio â gofynion rheoliadau 50 i 54 mewn cysylltiad â’r man hwnnw.

(3) Nid yw’r gofyniad i gydymffurfio â rheoliadau 50 a 51 mewn perthynas â’r man hwnnw ond yn gymwys i unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol ar gyfer unigolion.

(4) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 49B—

ystyr “ailgyflunio mangre” (“reconfiguration of premises”) yw ad-drefnu neu newid cynllun ffisegol presennol y fangre er mwyn cynyddu nifer yr unigolion y gellir darparu llety iddynt yn y gwasanaeth.

49B.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth—

(a)sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth, a

(b)nad oedd Rhan 13 yn gymwys iddo mewn perthynas â’r man hwnnw yn ystod cyfnod pan nad oedd y fangre a ddefnyddir gan y gwasanaeth yn dod o fewn Categori A, B nac C a phan oedd yn cynnwys darparu llety i bump neu ragor o unigolion.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cael caniatâd am amrywiad i’w amodau cofrestru ar neu ar ôl 31 Mawrth 2024 o ganlyniad i ailgyflunio mangre a ddefnyddir mewn perthynas â’r man, ac mai effaith yr amrywiad yw bod nifer yr unigolion y gellir darparu llety ar eu cyfer yn y man hwnnw wedi ei gynyddu, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gydymffurfio â gofynion rheoliadau 50 i 54 mewn cysylltiad â’r man hwnnw.

(3) Nid yw’r gofyniad i gydymffurfio â rheoliadau 50 a 51 mewn perthynas â’r man hwnnw ond yn gymwys i unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol ar gyfer unigolion.