xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 501 (Cy. 79)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2024

Gwnaed

11 Ebrill 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Ebrill 2024

Yn dod i rym

8 Mai 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(1)(a) a (2)(a), (b), (c) ac (i), a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2).

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2024.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Mai 2024.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â chwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 13.

Diwygio rheoliad 10

3.  Yn rheoliad 10(1), yn eithriad 9A, hepgorer y geiriau o “ac eithrio” hyd at y diwedd.

Diwygio rheoliad 17

4.  Yn rheoliad 17(3), ar ôl “reoliad 36” mewnosoder “neu 36A”.

Diwygio rheoliad 18

5.  Yn rheoliad 18(2)(d), yn lle “datgan” rhodder “mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024, ddatgan”.

Diwygio rheoliad 19

6.  Yn rheoliad 19(1), ar ôl “reoliad 31(4)” mewnosoder “neu 31ZA(4)”.

Diwygio rheoliadau 24, 24A a 26

7.—(1Yn rheoliad 24 (y grant sylfaenol a’r grant cyfrannu at gostau), ar ôl “dynodedig” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”.

(2Yn rheoliad 24A (amodau cymhwyso i gael grant sylfaenol)—

(a)ar ôl “chwrs dynodedig” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;

(b)hepgorer “oni bai bod y myfyriwr cymwys yn fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.

(3Yn rheoliad 26 (amodau cymhwyso i gael grant cyfrannu at gostau)—

(a)ar ôl “chwrs dynodedig” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;

(b)hepgorer “neu’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.

Diwygio rheoliad 31

8.  Yn rheoliad 31 (swm y benthyciad cyfrannu at gostau)—

(a)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;

(b)o flaen paragraff (1) mewnosoder—

(A1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024.;

(c)ym mharagraff (1) hepgorer “nad yw’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.

Mewnosod rheoliad newydd 31ZA

9.  Ar ôl rheoliad 31 (swm y benthyciad cyfrannu at gostau) mewnosoder—

Swm y benthyciad cyfrannu at gostau — cyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024

31ZA.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yw £18,950.

(3) Pan fo carcharor cymwys yn gwneud cais am fenthyciad cyfrannu at gostau, ni chaiff swm y benthyciad fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig, a

(b)£18,950.

(4) Ac eithrio pan fo rheoliad 36A(6) a (7) yn gymwys, caiff myfyriwr cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ar yr amod—

(a)nad yw cyfanred symiau’r benthyciad cyfrannu at gostau y gwneir cais amdanynt yn fwy na’r symiau cymwys a nodir ym mharagraffau (2) a (3);

(b)bod cais o’r fath yn cael ei wneud yn unol â rheoliad 18(2).

Hepgor rheoliad 31A

10.  Hepgorer rheoliad 31A.

Diwygio rheoliad 36

11.  Yn rheoliad 36 (effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys)—

(a)yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “— cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;

(b)o flaen paragraff (1) mewnosoder—

(A1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024.

Mewnosod rheoliad newydd 36A

12.  Ar ôl rheoliad 36 (effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys) mewnosoder—

Effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys — cyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024

36A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024.

(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys sy’n cael benthyciad cyfrannu at gostau yn dod yn garcharor cymwys ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)addasu taliad o’r benthyciad cyfrannu at gostau yn y dyfodol neu daliadau yn y dyfodol o randaliadau’r benthyciad cyfrannu at gostau, fel nad yw cyfanswm y cymorth a geir gan y myfyriwr cymwys yn fwy na’r swm y mae hawlogaeth gan y myfyriwr, fel carcharor cymwys, i’w gael o dan reoliad 31ZA(3), a

(b)gwneud unrhyw daliadau yn y dyfodol o’r benthyciad cyfrannu at gostau yn unol â rheoliad 33(4).

(4) Mae paragraffau (5) i (7) yn gymwys pan fo carcharor cymwys sy’n cael benthyciad cyfrannu at gostau yn peidio â bod yn garcharor cymwys ac yn aros yn fyfyriwr cymwys, ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw daliadau o’r benthyciad cyfrannu at gostau yn y dyfodol yn unol â rheoliad 33(2).

(6) Pan fo myfyriwr cymwys (“P”) yn peidio â bod yn garcharor cymwys caiff P, yn ddarostyngedig i baragraff (7), wneud cais i swm y benthyciad cyfrannu at gostau gael ei gynyddu.

(7) Cyfrifir yr uchafswm cynnydd ym menthyciad cyfrannu at gostau P y caiff P wneud cais amdano o dan baragraff (6) drwy gyfeirio at y fformiwla a ganlyn—

Formula

pan fo—

  • Q yn gyfwerth â £18,950;

  • F yn gyfwerth â swm y benthyciad cyfrannu at gostau y mae P yn cymhwyso i’w gael fel carcharor cymwys;

  • T yn gyfwerth â chyfanswm nifer y diwrnodau y mae’r cwrs dynodedig yn para;

  • R yn gyfwerth â nifer y diwrnodau o’r cwrs dynodedig sy’n weddill pan fydd P yn peidio â bod yn garcharor cymwys.

Diwygio Atodlen 1

13.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3(1), hepgorer y diffiniad o “myfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.

Lynne Neagle

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

11 Ebrill 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) yn darparu ar gyfer gwneud grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2019 i ddarparu na fydd y grant sylfaenol na’r grant cyfrannu at gostau ar gael i fyfyrwyr sy’n dechrau cyrsiau ar neu ar ôl 1 Awst 2024. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyrwyr o’r fath o dan Reoliadau 2019, sy’n cyfateb i gyfanswm y cymorth sy’n daladwy i garfanau blaenorol o fyfyrwyr.

Mae rheoliad 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch dod â’r Rheoliadau hyn i rym a’u cymhwyso.

Mae rheoliad 7 yn diwygio’r amodau cymhwyso i gael y grant sylfaenol a’r grant cyfrannu at gostau er mwyn darparu na fydd myfyrwyr cymwys ond yn cymhwyso i gael cymorth o’r fath mewn perthynas â chyrsiau dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024.

Mae rheoliad 9 yn mewnosod rheoliad newydd 31ZA yn Rheoliadau 2019 i ddarparu ar gyfer swm y benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyrwyr cymwys sy’n dechrau cyrsiau dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2024. Mae’r ddarpariaeth hon yn adlewyrchu’r ffaith bod cymorth grant wedi ei ddileu ac yn cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael.

Mae rheoliad 12 yn mewnosod rheoliad newydd 36A yn Rheoliadau 2019 i ddarparu ar gyfer yr effaith ar hawlogaeth myfyriwr cymwys i gael cymorth wrth iddo ddod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dechrau cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2024. Mae’r ddarpariaeth hon yn adlewyrchu’r ffaith bod cymorth grant wedi ei ddileu a’r cynnydd yn uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau.

Mae rheoliadau 3, 7(2)(b) a (3)(b), 8(c), 10 a 13 yn hepgor darpariaethau diangen sy’n ymwneud â myfyrwyr gofal cymdeithasol ôl-raddedig. Mae swm y cymorth a roddir i fyfyrwyr o’r fath neu a delir iddynt o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn fwy nag uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyrwyr o’r fath o dan reoliad 31A o Reoliadau 2019. Mae rheoliad 31A a darpariaethau cysylltiedig eraill o’r herwydd yn ddiangen.

Mae rheoliadau 4 a 6 yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau a wneir gan reoliadau 12 a 9 yn y drefn honno. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ddeilliadol i adlewyrchu’r ffaith bod cymorth grant wedi ei ddileu. Mae rheoliadau 8 ac 11 yn datgymhwyso rheoliadau 31 ac 36 o Reoliadau 2019 yn y drefn honno mewn perthynas â chyrsiau dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(1) gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146(2)(a). Diwygiwyd adran 22(2)(i) gan Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 43(2). Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(1)(a) a (2)(b) ac (i) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru, gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Darparodd adran 44 o’r Ddeddf honno hefyd fod y swyddogaethau yn adran 22(2)(a) ac (c) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i fod i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.