Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) yn darparu ar gyfer gwneud grantiau a benthyciadau i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy’n ymgymryd â chyrsiau gradd feistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2019 i ddarparu na fydd y grant sylfaenol na’r grant cyfrannu at gostau ar gael i fyfyrwyr sy’n dechrau cyrsiau ar neu ar ôl 1 Awst 2024. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael i fyfyrwyr o’r fath o dan Reoliadau 2019, sy’n cyfateb i gyfanswm y cymorth sy’n daladwy i garfanau blaenorol o fyfyrwyr.

Mae rheoliad 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch dod â’r Rheoliadau hyn i rym a’u cymhwyso.

Mae rheoliad 7 yn diwygio’r amodau cymhwyso i gael y grant sylfaenol a’r grant cyfrannu at gostau er mwyn darparu na fydd myfyrwyr cymwys ond yn cymhwyso i gael cymorth o’r fath mewn perthynas â chyrsiau dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024.

Mae rheoliad 9 yn mewnosod rheoliad newydd 31ZA yn Rheoliadau 2019 i ddarparu ar gyfer swm y benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyrwyr cymwys sy’n dechrau cyrsiau dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2024. Mae’r ddarpariaeth hon yn adlewyrchu’r ffaith bod cymorth grant wedi ei ddileu ac yn cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sydd ar gael.

Mae rheoliad 12 yn mewnosod rheoliad newydd 36A yn Rheoliadau 2019 i ddarparu ar gyfer yr effaith ar hawlogaeth myfyriwr cymwys i gael cymorth wrth iddo ddod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys, pan fo’r myfyriwr cymwys yn dechrau cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2024. Mae’r ddarpariaeth hon yn adlewyrchu’r ffaith bod cymorth grant wedi ei ddileu a’r cynnydd yn uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau.

Mae rheoliadau 3, 7(2)(b) a (3)(b), 8(c), 10 a 13 yn hepgor darpariaethau diangen sy’n ymwneud â myfyrwyr gofal cymdeithasol ôl-raddedig. Mae swm y cymorth a roddir i fyfyrwyr o’r fath neu a delir iddynt o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn fwy nag uchafswm y benthyciad cyfrannu at gostau sy’n daladwy i fyfyrwyr o’r fath o dan reoliad 31A o Reoliadau 2019. Mae rheoliad 31A a darpariaethau cysylltiedig eraill o’r herwydd yn ddiangen.

Mae rheoliadau 4 a 6 yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau a wneir gan reoliadau 12 a 9 yn y drefn honno. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ddeilliadol i adlewyrchu’r ffaith bod cymorth grant wedi ei ddileu. Mae rheoliadau 8 ac 11 yn datgymhwyso rheoliadau 31 ac 36 o Reoliadau 2019 yn y drefn honno mewn perthynas â chyrsiau dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.