Diwygio rheoliadau 24, 24A a 267
1
Yn rheoliad 24 (y grant sylfaenol a’r grant cyfrannu at gostau), ar ôl “dynodedig” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”.
2
Yn rheoliad 24A (amodau cymhwyso i gael grant sylfaenol)—
a
ar ôl “chwrs dynodedig” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;
b
hepgorer “oni bai bod y myfyriwr cymwys yn fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.
3
Yn rheoliad 26 (amodau cymhwyso i gael grant cyfrannu at gostau)—
a
ar ôl “chwrs dynodedig” mewnosoder “sy’n dechrau cyn 1 Awst 2024”;
b
hepgorer “neu’n fyfyriwr gofal cymdeithasol ôl-raddedig”.