Offerynnau Statudol Cymru
2024 Rhif 502 (Cy. 80)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio) (Cymru) 2024
Gwnaed
11th April 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
12 Ebrill 2024
Yn dod i rym
28 Ebrill 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(1).
O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodwyd paragraff 11A yn Atodlen 2 gan reoliad 2(2) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639) (Cy. 344) ac mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio, addasu neu ddirymu unrhyw fân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd a wnaed o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC sy’n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu’r broses o gynhyrchu, prosesu, dosbarthu a chyflwyno cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i’w bwyta gan bobl (OJ Rhif L 18, 23.1.2003, t. 11) (“Cyfarwyddeb 2002”). Mae O.S. 2021/1 (Cy. 1), a ddiwygir gan reoliad 3 o’r offeryn hwn, yn addasu Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC sy’n gosod amodau iechyd anifeiliaid a’r cyhoedd ac ardystiad milfeddygol ar gyfer mewnforio briwgig a pharatoadau cig o drydydd gwledydd (EUDN 2000/572). Mabwysiadwyd Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC (OJ Rhif L 240, 23.9.2000, t. 19) o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 94/65/EC sy’n gosod y gofynion ar gyfer cynhyrchu a gosod ar y farchnad friwgig a pharatoadau cig (OJ Rhif L 368, 31.12.1994, t. 10) (“Cyfarwyddeb 1994”), ond mae i’w ddehongli fel pe bai’n cael ei wneud o dan Gyfarwyddeb 2002 yn rhinwedd darpariaeth yng Nghyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 157, 30.4.2004, t. 33) (“Cyfarwyddeb 2004”). Bu i Gyfarwyddeb 2004, a ddiddymodd Gyfarwyddeb 1994, ddarparu yn Erthygl 4 y dylid dehongli cyfeiriadau at Gyfarwyddebau penodol, gan gynnwys Cyfarwyddeb 1994, fel pe baent yn cael eu gwneud, yn ôl y cyd-destun, at Gyfarwyddeb 2002; yn unol â hynny, mae’r rheol ddehongli honno yn cael yr effaith bod y pŵer ym mharagraff 11A o Atodlen 2 i O.S. 2011/2379 (Cy. 252) i addasu mân ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a wnaed o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb 2002 yn ymestyn i addasu Penderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC.