Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag archwilwyr meddygol a benodir gan gorff GIG Cymru i gyflawni’r swyddogaethau a roddir i archwilwyr meddygol gan neu o dan Bennod 2 o Ran 1 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 (p. 25) (“y Ddeddf”). Mae’r swyddogaethau hynny yn cynnwys swyddogaethau sy’n ymwneud ag ardystio’n feddygol achos marwolaethau y mae’n ofynnol eu cofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953 (p. 20).

Mae rheoliad 3 yn nodi darpariaethau ynghylch telerau mandadol sydd i’w cynnwys yn nhelerau penodi archwilwyr meddygol ac ynghylch terfynu penodiad, ac yn caniatáu cynnwys unrhyw delerau eraill y cytunir arnynt rhwng y corff penodi a’r archwilydd meddygol (fel y’u diffinnir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn).

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i gorff penodi dalu tâl, treuliau, ffioedd, digollediad am derfynu penodiad, pensiynau, lwfansau neu arian rhodd i archwilwyr meddygol.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r hyfforddiant sydd i’w ddilyn gan archwilwyr meddygol.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i archwilwyr meddygol ddilyn camau penodol pan na fo’r archwilydd meddygol, mewn perthynas â marwolaeth y mae’n ofynnol ei chofrestru, yn ddigon annibynnol o fewn ystyr y rheoliad hwnnw, oherwydd cysylltiad a oedd gan yr archwilydd meddygol â’r person ymadawedig, yr ymarferydd perthnasol a fu’n gweini neu unrhyw ymarferydd meddygol perthnasol arall ar adeg y farwolaeth. Mae’r camau hyn yn cynnwys gwrthod arfer swyddogaethau mewn perthynas â marwolaeth, a hysbysu eu corff penodi.

Mae rheoliad 7 yn rhoi swyddogaethau i archwilwyr meddygol sy’n ychwanegol at eu swyddogaethau sy’n ymwneud â’r dystysgrif feddygol achos marwolaeth o dan reoliadau a wneir o dan adran 20(1) o’r Ddeddf.

Mae rheoliad 8 yn darparu nad yw cyflenwi unrhyw wybodaeth o dan y Rheoliadau hyn yn torri unrhyw rwymedigaeth o ran cyfrinachedd. Mae hefyd yn darparu nad yw’r Rheoliadau hyn yn gweithredu i’w gwneud yn ofynnol nac i awdurdodi datgelu na defnyddio gwybodaeth a fyddai’n torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.