xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “archwilydd meddygol” yr ystyr a roddir i “medical examiner” yn adran 48(1) o’r Ddeddf;

ystyr “Archwilydd Meddygol Cenedlaethol” (“National Medical Examiner”) yw’r person a benodir o dan adran 21(1) o’r Ddeddf;

mae i “corff GIG Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh NHS body” yn adran 18B(3) o’r Ddeddf;

ystyr “corff penodi” (“appointing body”), mewn perthynas ag archwilydd meddygol, yw’r corff GIG Cymru a benododd yr archwilydd meddygol o dan adran 18B(1) o’r Ddeddf(1);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009;

ystyr “Rheoliadau adran 20(1)” (“section 20(1) Regulations”) yw Rheoliadau Tystysgrifau Meddygol Achos Marwolaeth 2024(2);

ystyr “swyddogaeth berthnasol” (“relevant function”) yw swyddogaeth(3) a roddir i archwilwyr meddygol gan reoliad 7 o’r Rheoliadau hyn neu gan Reoliadau adran 20(1);

mae i “uwch-grwner” yr ystyr a roddir i “senior coroner” yn adran 48(1) o’r Ddeddf;

mae i “ymarferydd a fu’n gweini” yr ystyr a roddir i “attending practitioner” yn rheoliad 2 o Reoliadau adran 20(1);

ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered person” yn Neddf Meddygaeth 1983(4) ac sy’n dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;

ystyr “ymarferydd meddygol perthnasol arall” (“other relevant medical practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig nad yw, mewn perthynas â marwolaeth, yn ymarferydd perthnasol a fu’n gweini, ond sydd wedi—

(a)

gwneud hysbysiad neu atgyfeiriad at uwch-grwner o dan unrhyw ddeddfiad,

(b)

gofyn am gyngor gan archwilydd meddygol, neu

(c)

ceisio cyflawni unrhyw swyddogaeth o dan Reoliadau adran 20(1);

mae i “ymarferydd perthnasol a fu’n gweini” yr ystyr a roddir i “relevant attending practitioner” yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau adran 20(1).

(1)

Mewnosodwyd adran 18B gan adran 169(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022.

(3)

Am ystyr “function”, gweler adran 48(1) o’r Ddeddf.