Adran 2 - Y seiliau dros ymyrryd
7.Mae'r adran hon yn nodi’r wyth sail dros ymyrraeth gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru mewn ysgol a gynhelir.
8.Mae'r seiliau dros ymyrryd a nodir yn yr adran hon yn disodli'r seiliau a nodir yn adran 15(2)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (‘Deddf 1998’), gyda diwygiadau. Yn ychwanegol, mae seiliau 5 a 6 wedi eu sylfaenu ar bwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru yn adrannau 497 a 496, yn y drefn honno, o Ddeddf Addysg 1996 (gweithredu afresymol gan gorff llywodraethu neu ei fethiant i gydymffurfio â dyletswydd). Mae cynnwys darpariaethau adrannau 496 a 497 o Ddeddf Addysg 1996 fan hyn yn golygu y caiff awdurdodau lleol yn ogystal â Gweinidogion Cymru ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir ar sail methiant corff llywodraethu i gydymffurfio â dyletswydd neu weithredu afresymol ganddo. Erbyn hyn, mae seiliau 5 a 6 hefyd yn cynnwys cyfeiriad at fethiant pennaeth i gydymffurfio â dyletswydd neu weithredu afresymol ganddo.