Pennod 2 - Ymyrryd mewn Awdurdodau Lleol
31.Mae'r Bennod hon yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru ymyrryd yn y ffordd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau addysg (sef y swyddogaethau hynny a nodir yn Atodlen 36A i Ddeddf Addysg 1996).
Adran 21 – Y seiliau dros ymyrryd
32.Mae'r adran hon yn nodi'r seiliau dros ymyrryd y mae'n rhaid iddynt fodoli i Weinidogion Cymru ymyrryd mewn awdurdod lleol. Mae'r seiliau hyn yn disodli'r seiliau dros ymyrryd mewn awdurdodau lleol a nodir yn adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996 o ran Cymru. Os yw un neu ragor o'r seiliau hyn yn bodoli, caiff Gweinidogion Cymru ddechrau'r broses ymyrryd.
33.Ni fydd adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996 bellach yn gymwys ond i awdurdodau lleol yn Lloegr.
Adran 22 – Hysbysiad rhybuddio
34.Mae'r adran hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, os yw un neu ragor o'r tair sail a nodir yn adran 21 yn bodoli, ddyroddi hysbysiad rhybuddio i'r awdurdod lleol, ac mae'n pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid i hysbysiad rhybuddio ei chynnwys. Rhaid i'r hysbysiad rhybuddio, ymhlith pethau eraill, esbonio pam y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y seiliau dros ymyrryd yn bodoli a'r hyn y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ei wneud i ymdrin â hwy. Yn gyffredinol, dechrau'r broses ymyrryd gan Weinidogion Cymru mewn awdurdod lleol yw hysbysiad rhybuddio, a gall arwain at bwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru yn cael eu harfer.
Adran 23 – Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd
35.Mae'r adran hon yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau i ymyrryd mewn awdurdod lleol. Nodir y pwerau ymyrryd yn adrannau 24 i 28.
36.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o seiliau 1 i 3 yn bodoli, a’u bod wedi cydymffurfio â'r weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad rhybuddio a nodir yn adran 22, yna cânt arfer eu pwerau ymyrryd. Fodd bynnag, os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod un neu ragor o seiliau 1 i 3 yn bodoli a bod risg gysylltiedig i iechyd a diogelwch unrhyw berson a honno'n risg sy'n galw am weithredu brys, neu fod yr awdurdod lleol yn annhebyg o allu cydymffurfio neu sicrhau cydymffurfedd â hysbysiad rhybuddio, yna nid oes rhaid iddynt gydymffurfio â'r weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad rhybuddio cyn arfer eu pwerau ymyrryd.
Adran 24 – Pŵer i'w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghori
37.Mae'r adran hon yn disodli'r pŵer ymyrryd yn adran 63 o Ddeddf Addysg 2002 ac yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod lleol i gael gwasanaethau cynghori gan drydydd parti.
Adran 25 – Pŵer i'w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran awdurdod
38.Mae'r adran hon yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol i ddefnyddio gwasanaethau trydydd parti i gyflawni ei swyddogaethau.
Adran 26 – Pŵer i'w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai
39.Mae'r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo bod swyddogaethau awdurdod lleol yn cael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir gan Weinidogion Cymru.
Adran 27 – Pŵer i gyfarwyddo'r modd y mae swyddogaethau addysg eraill yn cael eu harfer
40.Mae adran 27 yn galluogi Gweinidogion Cymru, wrth ddyroddi cyfarwyddiadau o dan adran 25 neu 26, i gynnwys cyfarwyddiadau sy'n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau addysg yr awdurdod lleol, ac nid yn unig y swyddogaethau hynny y mae'r pwerau ymyrryd yn ymwneud â hwy.
Adran 28 – Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau
41.Pan fo'r pŵer i ymyrryd yn bodoli, mae'r adran hon yn darparu pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau i awdurdod lleol, a chymryd camau mewn perthynas ag ef. Mae cymryd camau yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud pethau eraill y maent yn ystyried y gallent helpu i ymdrin â'r seiliau dros ymyrryd, ac eithrio gwneud cyfarwyddyd.
Adran 30 – Dyletswydd i gydweithredu
42.Mae'r adran hon, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu gynorthwyo gyda'r camau y mae'n ofynnol eu cymryd i gydymffurfio â chyfarwyddiadau, yn disodli adran 497AA o Ddeddf Addysg 1996 (pŵer i sicrhau bod swyddogaethau'n cael eu cyflawni’n briodol: dyletswydd awdurdod pan fo cyfarwyddiadau'n cael eu hystyried) gyda rhai diwygiadau.
Adran 31 – Pwerau mynd i mewn ac arolygu
43.Mae'r adran hon, sy'n nodi hawliau mynediad mewn cysylltiad â chyflawni cyfarwyddiadau, yn disodli adran 497B o Ddeddf Addysg 1996 (pŵer i sicrhau bod swyddogaethau'n cael eu cyflawni’n briodol: darpariaethau pellach) gyda rhai diwygiadau.