Search Legislation

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ATODLEN 1 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 11 Mai 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

(a gyflwynwyd gan adran 18)

ATODLEN 1LL+CCYRFF LLYWODRAETHU SYDD WEDI EU FFURFIO O AELODAU GWEITHREDIAETH INTERIM

This schedule has no associated Explanatory Notes

Dehongli’r AtodlenLL+C

1(1)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “yr awdurdod priodol” (“the appropriate authority”)—

    (a)

    pan fo’r Atodlen hon yn gymwys drwy rinwedd hysbysiad o dan adran 7, yw’r awdurdod lleol a roes yr hysbysiad, a

    (b)

    pan fo’r Atodlen hon yn gymwys drwy rinwedd hysbysiad o dan adran 14, yw Gweinidogion Cymru;

  • ystyr “corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal” (“a normally constituted governing body”) yw corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed yn rhinwedd adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 (cyrff llywodraethu);

  • ystyr “y cyfnod interim” (“the interim period”), o ran ysgol y mae hysbysiad o dan adran 7 neu 14 wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yw’r cyfnod y mae’r corff llywodraethu wedi ei gyfansoddi ynddo yn unol â’r Atodlen hon;

  • ystyr “llywodraethwyr presennol” (“existing governors”), o ran ysgol y mae hysbysiad o dan adran 7 neu 14 wedi ei roi mewn cysylltiad â hi, yw’r llywodraethwyr sy’n dal swydd yn union cyn y daw’r corff llywodraethu’n gyfansoddedig yn unol â’r Atodlen hon.

(2)Yn yr Atodlen hon mae unrhyw gyfeiriad at derfynu ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Y corff llywodraethu i gael ei ffurfio o aelodau a benodir gan awdurdod priodolLL+C

2(1)Mae corff llywodraethu’r ysgol i gael ei ffurfio o aelodau a benodir gan yr awdurdod priodol, yn lle cael ei gyfansoddi’n unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd adran 19 o Ddeddf Addysg 2002.

(2)Yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon—

(a)cyfeirir at y corff llywodraethu fel y’i cyfansoddir yn unol â’r Atodlen hon fel “y bwrdd gweithrediaeth interim”, a

(b)cyfeirir at aelodau’r corff llywodraethu fel y’u cyfansoddir felly fel “aelodau gweithrediaeth interim”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Effaith hysbysiad o dan adran 7 neu 14LL+C

3(1)Ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14, mae’r llywodraethwyr presennol yn gadael eu swydd.

(2)Nid yw is-paragraff (1) yn atal llywodraethwr presennol rhag cael ei benodi’n aelod gweithrediaeth interim.

(3)Yn ystod y cyfnod interim, mae unrhyw gyfeiriad mewn unrhyw ddarpariaeth sydd yn y Deddfau Addysg, neu sydd wedi ei gwneud oddi tanynt, at lywodraethwr neu lywodraethwr sefydledig ysgol yn cael effaith, o ran yr ysgol, fel cyfeiriad at aelod gweithrediaeth interim.

(4)Yn ystod y cyfnod interim, mae adran 83 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (addasu’r darpariaethau sy’n gwneud llywodraethwyr ysgol sefydledig neu wirfoddol yn ymddiriedolwyr ex officio) yn cael effaith o ran yr ysgol drwy roi yn lle paragraffau (a) i (c) gyfeiriad at yr aelodau gweithrediaeth interim.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Nifer yr aelodau gweithrediaeth interimLL+C

4(1)Rhaid i nifer yr aelodau gweithrediaeth interim beidio â bod yn llai na dau.

(2)Rhaid i benodiad cychwynnol aelodau gweithrediaeth interim gael ei wneud yn y fath fodd ag i ddod yn weithredol ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14.

(3)Caiff yr awdurdod priodol benodi aelodau gweithrediaeth interim pellach ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod interim.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Telerau penodi aelodau gweithrediaeth interimLL+C

5(1)Rhaid i bob penodiad aelod gweithrediaeth interim gael ei wneud drwy offeryn ysgrifenedig yn gosod telerau’r penodiad.

(2)O ran aelod gweithrediaeth interim—

(a)mae’n dal swydd yn unol â thelerau’r penodiad ac yn ddarostyngedig i baragraff 16, a

(b)caniateir iddo gael ei symud o’i swydd gan yr awdurdod priodol am anghymhwyster neu gamymddygiad.

(3)Caiff telerau penodi aelod gweithrediaeth interim ddarparu i’r penodiad fod yn derfynadwy gan yr awdurdod priodol drwy hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Dyletswydd yr awdurdod priodol i hysbysu personau eraillLL+C

6(1)Rhaid i’r awdurdod priodol roi copi o’r hysbysiad o dan adran 7 neu 14 ac o bob offeryn penodi aelod gweithrediaeth interim—

(a)i bob aelod gweithrediaeth interim,

(b)i bob llywodraethwr presennol yr ysgol,

(c)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priodol, i Weinidogion Cymru,

(d)os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol, i’r awdurdod lleol, ac

(e)yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—

(i)i’r person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, i’r corff crefyddol priodol.

(2)Nid yw methiant â chydymffurfio ag is-baragraff (1) yn annilysu’r hysbysiad na’r penodiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Pŵer i bennu hyd cyfnod interimLL+C

7Caiff yr awdurdod priodol bennu hyd y cyfnod interim yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

CadeiryddLL+C

8Caiff yr awdurdod priodol enwebu un o’r aelodau gweithrediaeth interim i fod yn gadeirydd y bwrdd gweithrediaeth interim.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Cydnabyddiaeth a lwfansauLL+C

9Caiff yr awdurdod priodol dalu i unrhyw aelod gweithrediaeth interim unrhyw gydnabyddiaeth a lwfansau y bydd yr awdurdod priodol yn eu penderfynu, yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan baragraff 13(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Dyletswydd y bwrdd gweithrediaeth interimLL+C

10(1)Yn ystod y cyfnod interim, rhaid i’r bwrdd gweithrediaeth interim redeg yr ysgol yn y fath fodd ag i sicrhau, cyhyd â’i bod yn ymarferol gwneud hynny, bod sail gadarn yn cael ei darparu ar gyfer gwella yn y dyfodol y modd y mae’r ysgol yn cael ei rhedeg.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar ddyletswyddau eraill y bwrdd gweithrediaeth interim fel corff llywodraethu.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I20Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Trafodion y bwrdd gweithrediaeth interimLL+C

11(1)Caiff y bwrdd gweithrediaeth interim benderfynu ei weithdrefn ei hun.

(2)Caiff y bwrdd gweithrediaeth interim wneud unrhyw drefniadau y gwêl yn dda i unrhyw berson arall gyflawni ei swyddogaethau.

(3)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan baragraff 13(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I22Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Effaith ar atal dros dro gyllideb ddirprwyedigLL+C

12(1)Os nad oes gan yr ysgol, yn union cyn y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 7 neu 14, gyllideb ddirprwyedig, mae ataliad dros dro ar hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig wedi ei ddirymu yn rhinwedd yr is-baragraff hwn o’r dyddiad hwnnw.

(2)Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (atal cyllideb ddirprwyedig dros dro am gamreoli etc) wedi ei roi i’r corff llywodraethu cyn y dyddiad a bennwyd mewn hysbysiad o dan adran 7 neu 14 ond nad yw wedi dod yn weithredol eto, mae effaith yr hysbysiad yn peidio ar y dyddiad hwnnw.

(3)Yn ystod y cyfnod interim, ni chaiff yr awdurdod lleol arfer y pŵer a roddir gan adran 8 (pŵer i atal dros dro hawl i gael cyllideb ddirprwyedig).

(4)Mae is-baragraff (1) i’w ddehongli’n unol ag adran 49(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I24Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Eithrio darpariaethau statudol penodolLL+C

13(1)Nid yw rheoliadau a wneir o dan adran 19(2) neu (3) o Ddeddf Addysg 2002 (cyrff llywodraethu) yn gymwys mewn perthynas â’r bwrdd gweithrediaeth interim.

(2)Ond caniateir i reoliadau a wneir o dan adran 19(3)(f), (g), (i), (j), (k) neu (l) o Ddeddf Addysg 2002 (ac eithrio rheoliadau o dan adran 19(3)(l) sy’n ymwneud â chyfansoddiad cyrff llywodraethu) gael eu cymhwyso mewn perthynas â’r bwrdd (gydag addasiadau neu hebddynt) drwy reoliadau.

(3)Nid yw offeryn llywodraethu’r ysgol yn cael effaith mewn perthynas â’r bwrdd gweithrediaeth interim i’r graddau y mae’n ymwneud â chyfansoddiad y corff llywodraethu.

(4)Yn ystod y cyfnod interim—

(a)ni chaiff yr awdurdod lleol arfer unrhyw bwer a roddir gan adran 6 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol), a

(b)ni chaiff Gweinidogion Cymru arfer unrhyw bwer a roddir gan adran 13 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol).

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I26Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Cau’r ysgolLL+C

14(1)Ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod interim, caiff y bwrdd gweithrediaeth interim, os gwêl yn dda, wneud adroddiad i’r awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru yn argymell y dylai’r ysgol gael ei therfynu, a chan ddatgan y rhesymau dros yr argymhelliad hwnnw.

(2)Ni chaiff y bwrdd gweithrediaeth interim—

(a)cyhoeddi o dan adran 43 gynigion i derfynu’r ysgol, na

(b)cyflwyno hysbysiad o dan adran 80.

(3)Bydd is-baragraff (4) yn gymwys os, yn ystod y cyfnod interim—

(a)bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 16 neu 81 mewn perthynas â’r ysgol, neu

(b)bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu terfynu’r ysgol.

(4)Mae’r cyfnod interim i barhau tan y dyddiad terfynu, hyd yn oed pan fyddai’n dod i ben fel arall cyn y dyddiad hwnnw.

(5)Yn y paragraff hwn ystyr “y dyddiad terfynu” yw un o’r canlynol (yn ôl fel y digwydd)—

(a)y dyddiad y bydd cynigion i derfynu’r ysgol yn cael eu gweithredu arno o dan Ran 1 o Atodlen 3;

(b)y dyddiad y caiff yr ysgol ei therfynu arno o dan adran 80;

(c)y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 16 neu 81(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I28Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Hysbysu bod y corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal wedi ailddechrau llywodraethuLL+C

15(1)Bydd yr is-baragraff canlynol yn gymwys—

(a)os nad yw’r hysbysiad o dan adran 7 neu 14 yn pennu hyd y cyfnod interim, a

(b)os nad yw paragraff 14(4) yn gymwys.

(2)Caiff yr awdurdod priodol roi hysbysiad i’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (3) yn pennu dyddiad pan fydd y corff llywodraethu’n dod yn gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal.

(3)Y personau hynny yw’r canlynol—

(a)pob aelod gweithrediaeth interim,

(b)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priodol, Gweinidogion Cymru,

(c)os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol, yr awdurdod lleol, a

(d)yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I30Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Yr amser pan fydd aelodau gweithrediaeth interim yn peidio â dal eu swyddLL+C

16(1)Mae aelodau gweithrediaeth interim i adael eu swydd—

(a)mewn achos lle y mae is-baragraff (4) o baragraff 14 yn gymwys, ar y dyddiad terfynu o fewn ystyr y paragraff hwnnw,

(b)mewn achos lle nad yw’r is-baragraff hwnnw yn gymwys a bod yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14 yn pennu hyd y cyfnod interim, ar ddiwedd y cyfnod penodedig, ac

(c)mewn unrhyw achos arall, ar y dyddiad a bennir o dan baragraff 15(2).

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn atal terfynu penodiad aelod gweithrediaeth interim ynghynt o dan baragraff 5(2)(b) neu’n unol â thelerau ei benodiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I32Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Sefydlu corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normalLL+C

17(1)Pan fo aelodau gweithrediaeth interim i adael eu swydd ar y dyddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 16(1)(b) neu (c), rhaid i’r awdurdod lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer cyfansoddi’r corff llywodraethu ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud, drwy reoliadau, ddarpariaeth ynglyn â’r trosi o fwrdd gweithrediaeth interim i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal, a chânt, mewn cysylltiad â’r trosi hwnnw—

(a)addasu unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan unrhyw un neu rai o adrannau 19, 20 a 23 o Ddeddf Addysg 2002 neu gan Atodlen 1 i’r Ddeddf honno,

(b)cymhwyso unrhyw ddarpariaeth o’r fath gydag addasiadau neu hebddynt, ac

(c)gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth o’r fath neu’n gyffelyb iddi.

(3)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-baragraff (2) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth sy’n galluogi llywodraethwyr i gael eu hethol neu eu penodi, ac i arfer swyddogaethau, cyn diwedd y cyfnod interim.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I34Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources