Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Newid o ysgol sefydledig i ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolirLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

18(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.

(2)Mae unrhyw dir, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol sefydledig, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(h)