- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, Adran 33.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)At ddibenion yr adran hon mae tir yn “safle heb ei drwyddedu” os yw’n safle rheoleiddiedig nad oes trwydded safle mewn grym ar ei gyfer.
(2)Nid yw’r un rheol gyfreithiol sy’n ymwneud â dilysrwydd neu orfodadwyedd contractau o dan amgylchiadau sy’n cynnwys anghyfreithlondeb i effeithio ar ddilysrwydd neu orfodadwyedd y canlynol—
(a)unrhyw ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i ffi am lain neu unrhyw daliad cyfnodol arall gael eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw gytundeb y mae Rhan 4 yn gymwys iddo sy’n ymwneud â safle heb ei drwyddedu, neu
(b)unrhyw ddarpariaeth arall mewn cytundeb o’r fath.
(3)Ond caniateir i symiau a delir o ran taliadau penodol o dan gytundeb o’r fath ac mewn cysylltiad ag ef gael eu hadennill yn unol ag is-adran (4).
(4)Os bydd—
(a)cais ynglŷn â safle heb ei drwyddedu yn cael ei wneud i dribiwnlys eiddo preswyl gan feddiannydd cartref symudol a osodir ar y safle, a
(b)bod y tribiwnlys wedi ei fodloni o ran y materion a grybwyllir yn is-adran (6),
caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn (“gorchymyn ad-dalu”).
(5)Mae gorchymyn ad-dalu yn orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu reolwr y safle dalu i feddiannydd y cartref symudol unrhyw symiau a bennir yn y gorchymyn o ran—
(a)unrhyw daliad a wnaed gan feddiannydd y cartref symudol (neu unrhyw berson y mae meddiannydd y cartref symudol wedi sicrhau perchnogaeth ar y cartref symudol drwyddo) i berchennog neu reolwr y safle ynglŷn â phrynu cartref symudol a osodwyd ar y safle,
(b)unrhyw gomisiwn a dalwyd i berchennog neu reolwr y safle gan unrhyw berson ynglŷn â gwerthu cartref symudol a osodwyd ar y safle,
(c)y ffi am y llain a dalwyd ynglŷn â chartref symudol o’r fath, a
(d)unrhyw daliadau cyfnodol a dalwyd ynglŷn â chartref symudol o’r fath.
(6)Rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni ynglŷn â’r materion a ganlyn—
(a)bod perchennog y safle wedi ei gollfarnu am drosedd o dan adran 5 o ran y safle,
(b)bod meddiannydd y cartref symudol (neu, yn achos taliadau y cyfeirir atynt yn is-adran (5)(a) neu (b), y person y mae’r meddiannydd wedi sicrhau perchnogaeth ar y cartref symudol drwyddo) wedi talu i berchennog neu reolwr y safle yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos bod trosedd o’r fath yn cael ei gyflawni ynddo o ran y safle, ac
(c)bod y cais wedi ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis yn dechrau â dyddiad y gollfarn.
F1(7). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(8)Y swm y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu o dan is-adran (5) yw unrhyw swm sydd (yn ddarostyngedig i is-adrannau (9) i [F2(10)] ) ym marn y tribiwnlys yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(9)Mae’r materion y mae’n rhaid i’r tribiwnlys eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar y swm y mae’n ofynnol ei dalu yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol)—
(a)cyfanswm y taliadau perthnasol a dalwyd mewn cysylltiad â bod yn berchen ar y safle yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys fod trosedd yn cael ei gyflawni ynddo gan y perchennog ynglŷn â’r safle o dan adran 5,
(b)i ba raddau y cafodd perchennog neu reolwr y safle y cyfanswm hwnnw mewn gwirionedd,
(c)a yw perchennog y safle [F3wedi ei gollfarnu yn flaenorol] am drosedd o dan adran 5 ynglŷn â’r safle,
(d)ymddygiad ac amgylchiadau ariannol perchennog neu reolwr y safle, ac
(e)ymddygiad meddiannydd y cartref symudol;
ac yn yr is-adran hon ystyr “taliadau perthnasol” yw’r taliadau hynny y cyfeirir atynt yn is-adran (5).
(10)Ni chaiff gorchymyn ad-dalu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw swm gael ei dalu sy’n ymwneud ag unrhyw amser y tu allan i’r cyfnod o 12 mis sy’n diweddu ar ddyddiad cais y meddiannydd, ac mae’r cyfnod sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-adran (9)(a) i’w gyfyngu yn unol â hyn.
(11)Mae unrhyw swm sy’n daladwy i feddiannydd cartref symudol yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu yn adenilladwy gan y meddiannydd fel dyled sy’n ddyledus i’r meddiannydd gan berchennog neu reolwr y safle.
(12)Yn yr adran hon ystyr “meddiannydd”, o ran cartref symudol a safle rheoleiddiedig, yw person sydd â hawl—
(a)i osod cartref symudol ar y safle, a
(b)i feddiannu’r cartref symudol fel unig breswylfa neu brif breswylfa’r person.
Diwygiadau Testunol
F1A. 33(7) wedi ei hepgor (1.12.2014) yn rhinwedd Deddf Tai (Cymru) 2014 (anaw 7), a. 145(3), Atod. 3 para. 30(3)(a); O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
F2Gair yn a. 33(8) wedi ei amnewid (1.12.2014) gan Deddf Tai (Cymru) 2014 (anaw 7), a. 145(3), Atod. 3 para. 30(3)(b); O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
F3Gair yn a. 33(9)(c) wedi ei amnewid (1.12.2014) gan Deddf Tai (Cymru) 2014 (anaw 7), a. 145(3), Atod. 3 para. 30(3)(c); O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2A. 33 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: