Cyflwyniad
1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 19 Mai 2015, ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Gorffennaf 2015. Fe’u lluniwyd gan Gyfarwyddiaeth Cynllunio Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.
2.Mae system gynllunio Cymru yn rheoli datblygiad tir a’r defnydd o dir er budd y cyhoedd. Mae system gynllunio sy’n gweithredu’n dda yn hanfodol ar gyfer datblygu cynaliadwy. Rhaid iddi ddarparu ar gyfer cyflenwad digonol a pharhaus o dir, sydd ar gael ac yn addas i’w ddatblygu er mwyn diwallu anghenion cymdeithas, gan helpu i ddarparu’r cartrefi, y swyddi a’r seilwaith sydd eu hangen arnom ar y cyd ac yn unigol. Mae’r system gynllunio hefyd yn darparu amddiffyniad a chyfleoedd i wella ein hamgylchedd adeiledig a naturiol pwysicaf ac yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg.
3.Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu’r cyd-destun cyffredinol ar gyfer gweithredu’r system gynllunio drwy wneud is-ddeddfwriaeth a thrwy bennu’r fframwaith cynllunio drwy Polisi Cynllunio Cymru, nodiadau cyngor technegol, cylchlythyrau a chanllawiau. Mae gweithredu’r system gynllunio o ddydd i ddydd wedi ei freinio mewn awdurdodau cynllunio lleol sy’n gyfrifol am lunio eu cynllun datblygu lleol, am wneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio ac am gymryd camau gorfodi pan geir achosion o dorri rheolaeth gynllunio.
4.Y prif ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n berthnasol i gynllunio yng Nghymru yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Yn y Nodiadau Esboniadol hyn cyfeirir at Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel DCGTh 1990 a chyfeirir at Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 fel DCPhG 2004. Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn gwneud newidiadau i’r system gynllunio yng Nghymru drwy ddiwygio’r ddwy Ddeddf hon i raddau helaeth.
5.Mae Rhan 3 o DCGTh 1990 yn ymdrin â rheoli datblygu. Mae Rhan 6 o DCPhG 2004 yn ymdrin â chynlluniau datblygu yng Nghymru.
6.Casglwyd tystiolaeth helaeth ynghyd fel sylfaen ar gyfer nodi’r meysydd lle dylid diwygio’r system gynllunio yng Nghymru. Mae’r prif adroddiadau yn cynnwys:
Adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol - Tuag at Ddeddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol (Mehefin 2012);
Delivery of Planning Services in Statutory Designated Landscapes in Wales (Awst 2012);
A New Approach to Managing Development in Wales: Towards a Welsh Planning Act (Medi 2012);
Public Attitudes Towards the Planning System in Wales (Medi 2012);
Evaluation of Consenting Performance of Renewable Energy Schemes (Ionawr 2013);
Research into the Review of the Planning Enforcement System in Wales (Mehefin 2013);
Ymchwil i’r ffordd y mae Pwyllgorau Cynllunio yng Nghymru’n Gweithio (Gorffennaf 2013);
Adolygiad o Ddatganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru (Tachwedd 2013);
Ymchwil i Werthuso’r Broses o gael Caniatâd Cynllunio ar gyfer Tai (Ionawr 2014).
7.Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru “Cynllunio cadarnhaol: cynigion i ddiwygio’r system gynllunio yng Nghymru” ym mis Rhagfyr 2013.
8.Yn ogystal â hynny cyhoeddodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Ymchwiliad i Gynllunio yng Nghymru (Ionawr 2011);
Ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru (Mehefin 2012); ac
Evaluation of Consenting Performance of Renewable Energy Schemes (Ionawr 2013).