Adran 49 - Costau ceisiadau, apelau a chyfeiriadau
178.Mae’r adran hon yn mewnosod adran 322C i DCGTh 1990. Mae adran 322C yn disodli amryw o ddarpariaethau presennol yn ymwneud â chostau ceisiadau ac apelau cynllunio a ystyrir gan Weinidogion Cymru, yn enwedig darpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn adrannau 320, 322 a 322A o DCGTh 1990 a pharagraff 6 o Atodlen 6. Mae’r darpariaethau hynny yn cymhwyso adrannau 250(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sy’n ymwneud â chostau ymchwiliadau lleol, i achosion cynllunio at ddibenion penodol. Mae adran 250(4) a (5) yn ymdrin â phwerau Gweinidogion i’w gwneud yn ofynnol i’r partïon yn yr achos dalu costau Gweinidogion, a’i gwneud yn ofynnol i un parti dalu’r costau yr aed iddynt gan y llall.
179.Mae adran 322C yn dod â’r holl ddarpariaethau sy’n ymwneud â chostau gweithdrefnau cynllunio at ei gilydd mewn un lle ac mae’n gymwys pa un a yw materion yn symud ymlaen ar ffurf sylwadau ysgrifenedig, gwrandawiad neu ymchwiliad. Mae’r adran yn caniatáu i Weinidogion Cymru adennill yr holl gostau gweinyddol yr aed iddynt, gan gynnwys costau staff cyffredinol a gorbenion. Mae’r adran hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi swm dyddiol safonol.
180.Darpariaeth annibynnol yw hon ar gyfer dyfarnu costau sy’n deillio o gais, apêl neu gyfeiriad at Weinidogion Cymru. Mae is-adran (2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod eu costau hwy eu hunain yn cael eu hadennill gan yr awdurdod cynllunio lleol neu barti mewn apêl. Mae is-adran (3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru adfer costau gweinyddol yr eir iddynt. Mae is-adran (4) yn caniatáu i Weinidogion Cymru adfer costau mewn cysylltiad ag ymchwiliad neu wrandawiad nad yw’n cael ei gynnal a chostau yr eir iddynt wrth adolygu ymrwymiadau cynllunio. Mae is-adran (5) yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ragnodi swm dyddiol safonol ar gyfer costau. Mae is-adran (6) yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion ar gyfer costau. Golyga hyn y gellir gorchymyn bod un parti yn talu costau parti arall.