Search Legislation

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: RHAN 10

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, RHAN 10 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 31 Mai 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 10:

  • specified provision(s) savings for amendments by 2018 anaw 1, s. 6, Sch. 6 by S.I. 2019/110 reg. 5

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

RHAN 10LL+CAMRYWIOL

PENNOD 1LL+CDARPARIAETHAU PELLACH YN YMWNEUD Â CHONTRACTAU MEDDIANNAETH

Effaith cyrraedd 18LL+C

233Effaith cyrraedd 18LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i denantiaeth neu drwydded nad yw’n gontract meddiannaeth am fod paragraff 7(2) o Atodlen 2 (pob un o’r rheini y gwneir tenantiaeth neu drwydded â hwy o dan 18) yn gymwys iddi.

(2)Pan fydd y person perthnasol yn cyrraedd 18 oed, rhaid ateb y cwestiynau canlynol fel pe bai’r denantiaeth neu’r drwydded wedi ei gwneud ar y diwrnod y mae’r person yn cyrraedd yr oed hwnnw—

(a)pa un a yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth,

(b)pwy yw deiliaid y contract o dan y contract, ac

(c)a yw’n gontract diogel neu’n gontract safonol.

(3)Y person perthnasol—

(a)os gwneir y denantiaeth neu’r drwydded gydag un person, yw’r person hwnnw, a

(b)os gwneir y denantiaeth neu’r drwydded gyda mwy nag un person, yw’r cyntaf ohonynt i gyrraedd 18 oed.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 233 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 233 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Rhwymedigaethau landlordiaid cymunedol i ymgynghoriLL+C

234Trefniadau ymgynghoriLL+C

(1)Rhaid i landlord cymunedol wneud a chynnal unrhyw drefniadau sy’n briodol yn ei farn⁠—

(a)er mwyn hysbysu deiliaid contract o dan gontractau meddiannaeth gyda’r landlord am gynigion perthnasol ar faterion rheoli tai, a

(b)er mwyn rhoi cyfle rhesymol i ddeiliaid contract wneud sylwadau ar y cynigion.

(2)Nid yw’r dyletswyddau yn is-adran (1)—

(a)ond yn gymwys pan fo cynnig perthnasol ar fater rheoli tai yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr holl ddeiliaid contract o dan gontractau meddiannaeth gyda’r landlord, neu ar grŵp perthnasol o ddeiliaid contract o’r fath, a

(b)ond yn gymwys mewn perthynas â’r deiliaid contract sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol.

(3)Cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar gynnig perthnasol ar fater rheoli tai, rhaid i’r landlord ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan ddeiliaid contract yn unol â’r trefniadau.

(4)Ystyr “cynnig perthnasol ar fater rheoli tai” yw cynnig sydd, ym marn y landlord, yn ymwneud â—

(a)rhaglen newydd i gynnal, gwella neu ddymchwel anheddau sy’n ddarostyngedig i gontractau meddiannaeth, neu

(b)newid arferion neu bolisi’r landlord o ran rheoli, cynnal, gwella neu ddymchwel anheddau o’r fath.

(5)Ond nid yw cynnig yn gynnig perthnasol ar fater rheoli tai i’r graddau y mae’n ymwneud ag—

(a)y rhent sy’n daladwy neu gydnabyddiaeth arall sy’n ddyledus i’r landlord, neu

(b)tâl a godir am wasanaethau a chyfleusterau a ddarperir gan y landlord.

(6)Ystyr “grŵp perthnasol” yw grŵp sy’n—

(a)ffurfio grŵp cymdeithasol penodol, neu

(b)meddiannu anheddau sy’n ffurfio dosbarth penodol (boed drwy gyfeiriad at y math o annedd, neu’r ystad dai neu ardal arall mwy o faint y maent wedi eu lleoli ynddi).

(7)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i baragraff 12(7) yn Rhan 2 o Atodlen 8 (cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 234 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 234 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

235Datganiad o drefniadau ymgynghoriLL+C

(1)Rhaid i landlord y mae’n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan adran 234 baratoi a chyhoeddi datganiad o’r trefniadau.

(2)Os yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, rhaid iddo sicrhau bod copi o’r datganiad ar gael i’w archwilio gan aelodau’r cyhoedd ar bob adeg resymol, yn ddi-dâl, ym mhrif swyddfa’r landlord.

(3)Os yw’r landlord yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, rhaid iddo anfon copi o’r datganiad at Weinidogion Cymru a’r awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r anheddau wedi ei lleoli ynddi.

(4)Rhaid i awdurdod tai lleol yr anfonir copi ato o dan is-adran (3) sicrhau ei fod ar gael i’w archwilio gan aelodau’r cyhoedd ar bob adeg resymol, yn ddi-dâl, yn ei brif swyddfa.

(5)Rhaid i’r landlord roi copi o’r datganiad—

(a)i unrhyw ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth gyda’r landlord sy’n gofyn am un, yn ddi-dâl, a

(b)i unrhyw berson arall sy’n gofyn am un, o dalu ffi resymol.

(6)Rhaid i’r landlord hefyd—

(a)paratoi crynodeb o’r datganiad, a

(b)darparu copi o’r crynodeb yn ddi-dâl i unrhyw berson sy’n gofyn am un.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 235 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6A. 235 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraillLL+C

236Ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall (gan gynnwys copi o ddogfen) y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir ei roi neu ei wneud (neu ei rhoi neu ei gwneud) gan y Ddeddf hon neu oherwydd y Ddeddf hon.

(2)Rhaid i’r hysbysiad neu’r ddogfen fod mewn ysgrifen.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi ffurf yr hysbysiad neu’r ddogfen, ac oni bai bod y rheoliadau yn darparu fel arall, nid oes unrhyw effaith i hysbysiad neu ddogfen nad yw yn y ffurf ragnodedig.

(4)Caiff yr hysbysiad neu’r ddogfen fod ar ffurf electronig (yn ddarostyngedig i adran 237(4)) ar yr amod—

(a)ei fod neu ei bod yn cynnwys llofnod electronig ardystiedig pob person y mae’n ofynnol iddo ei lofnodi neu ei gyflawni (neu ei llofnodi neu ei chyflawni), a

(b)ei fod neu ei bod yn cydymffurfio ag unrhyw amodau eraill a gaiff eu rhagnodi.

(5)Mae hysbysiad neu ddogfen o fewn is-adran (4) i’w drin neu ei thrin fel pe bai wedi ei lofnodi neu ei gyflawni (neu ei llofnodi neu ei chyflawni) gan bob person y mae ei lofnod electronig [F1ardystiedig] arno neu arni.

(6)Os yw hysbysiad neu ddogfen ar ffurf electronig yn cael ei ddilysu neu ei dilysu gan berson fel asiant, mae i’w hystyried at ddibenion unrhyw ddeddfiad fel pe bai wedi ei ddilysu neu ei dilysu gan y person hwnnw o dan awdurdod ysgrifenedig pennaeth y person hwnnw.

(7)Mae cyfeiriadau at lofnod electronig ac at ardystio llofnod o’r fath i’w darllen yn unol ag adran 7(2) a (3) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 (p. 7).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 236 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8A. 236(1)(2), (5)-(7) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I9A. 236(3)(4) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I10A. 236(3)(4) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

237Rhoi hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi person—

(a)i hysbysu person am rywbeth, neu

(b)i roi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

(2)Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen i berson—

(a)drwy ei ddanfon neu ei danfon i’r person,

(b)drwy ei adael neu ei gadael yn, neu ei bostio neu ei phostio i, un o’r mannau a grybwyllir yn is-adran (3), neu

(c)os bodlonir yr amodau yn is-adran (4), drwy ei anfon neu ei hanfon at y person ar ffurf electronig.

(3)Y mannau yw—

(a)preswylfa neu fan busnes hysbys olaf y person,

(b)unrhyw fan a bennir gan y person fel rhywle y gellir rhoi hysbysiadau neu ddogfennau i’r person, neu

(c)os rhoddir yr hysbysiad neu’r ddogfen i berson yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ddeiliad contract, yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth.

(4)Caniateir rhoi hysbysiad neu ddogfen i berson drwy ei anfon neu ei hanfon ar ffurf electronig os yw’n bodloni’r amodau yn adran 236(4), ac unrhyw amodau a wneir o dan yr is-adran honno, ac—

(a)bod y person wedi nodi parodrwydd i dderbyn yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig,

(b)bod y testun yn cael ei dderbyn gan y person ar ffurf ddarllenadwy, ac

(c)y gellir defnyddio’r testun er mwyn cyfeirio ato yn ddiweddarach.

(5)Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen i gorff corfforaethol drwy ei roi neu ei rhoi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.

(6)Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yn unrhyw un o’r mannau a grybwyllir yn is-adran (3) i’w drin neu i’w thrin fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi ar yr adeg y’i gadawyd yn y fan honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 237 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I12A. 237 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 2LL+CTRESMASWYR: TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU GOBLYGEDIG

238Tenantiaethau a thrwyddedau goblygedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os yw annedd nad yw’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth yn cael ei meddiannu fel cartref gan berson (“T”) sy’n dresmaswr mewn perthynas â’r annedd honno, a

(b)os yw T yn gwneud taliadau mewn perthynas â’i feddiannaeth o’r annedd i berson (“P”) y byddai ganddo hawl (boed ar ei ben ei hun neu ar y cyd) i ddod ag achos yn erbyn T i’w droi allan fel tresmaswr.

(2)Os yw P yn derbyn taliadau o’r fath gan T—

(a)gan wybod bod T yn dresmaswr mewn perthynas â’r annedd, neu

(b)ar adeg pan ddylai P wybod yn rhesymol bod T yn dresmaswr mewn perthynas â’r annedd,

mae P i’w drin fel pe bai wedi gwneud contract cyfnodol â T yn union ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol.

(3)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf y mae P yn derbyn taliad oddi wrth T fel y crybwyllir yn is-adran (2).

(4)Nid yw is-adran (2) yn gymwys os yw P, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, yn dod ag achos yn erbyn T i’w droi allan fel tresmaswr neu’n dangos bwriad i drin T fel tresmaswr mewn ffordd arall.

(5)Mae contract o dan is-adran (2) naill ai’n denantiaeth neu’n drwydded.

(6)Mae’r denantiaeth neu’r drwydded yn rhoi’r hawl i T feddiannu’r annedd fel cartref o’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(7)Mae swm y rhent a’r cyfnodau rhentu i’w pennu gan roi sylw i swm ac amlder y taliad neu’r taliadau a wneir gan T ac unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill.

(8)Ni chaiff tenantiaeth neu drwydded sy’n rhoi’r hawl i T feddiannu’r annedd fel cartref oddi tani fod yn oblygedig ac eithrio fel y darperir yn yr adran hon; ond nid oes dim yn yr adran hon yn atal P a T rhag gwneud tenantiaeth neu drwydded ffurfiol o’r fath cyn diwedd y cyfnod perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 238 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I14A. 238 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 3LL+CTENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU SY’N BODOLI CYN I’R BENNOD HON DDOD I RYM

239Diddymu tenantiaethau sicr, tenantiaethau diogel a thenantiaethau eraillLL+C

(1)Ar y diwrnod penodedig ac ar ôl hynny, ni all unrhyw denantiaeth na thrwydded (pryd bynnag y’i gwnaed) fod yn—

(a)contract cyfyngedig;

(b)tenantiaeth fyrddaliol warchodedig;

(c)tenantiaeth ddiogel;

(d)tenantiaeth sicr (sy’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr);

(e)tenantiaeth ragarweiniol;

(f)tenantiaeth isradd.

(2)Pe gallai’r landlord o dan denantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol, yn union cyn y diwrnod penodedig, fod wedi adennill meddiant o’r tŷ annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth o dan Achos 19 o Atodlen 15 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (tenantiaethau byrddaliol gwarchodedig blaenorol), mae’r denantiaeth yn peidio â bod yn denantiaeth warchodedig neu’n denantiaeth statudol ar y diwrnod penodedig.

(3)Nid oes dim yn yr adran hon yn terfynu tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn is-adran (1) neu (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 239 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I16A. 239 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F2239APŵer i wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau penodolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon at ddiben—

(a)darparu nad yw darpariaethau penodol yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded y mae is-adran (2) yn gymwys iddi;

(b)gwneud darpariaeth newydd nad yw ond yn gymwys i denantiaeth neu drwydded y mae is-adran (2) yn gymwys iddi;

(c)gwneud darpariaeth mewn perthynas â diwedd cyfnod tenantiaeth hir (o fewn ystyr paragraff 8 o Atodlen 2).

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw denantiaeth neu drwydded a fyddai, oni bai am adran 239, wedi bod yn denantiaeth neu’n drwydded o’r math a restrir yn is-adran (1) o’r adran honno, neu a fyddai wedi ei thrin fel tenantiaeth neu drwydded o’r math hwnnw;

(3)Caiff Rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau neu drwyddedau nad ydynt yn gontractau meddiannaeth, ac nad ydynt yn gallu bod yn gontract o’r fath.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 239A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

240Trosi tenantiaethau a thrwyddedau sydd yn bodoli cyn i’r Bennod ddod i rymLL+C

(1)At ddibenion penderfynu ar y materion yn is-adran (2), mae tenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig i’w thrin fel pe bai wedi ei gwneud ar y diwrnod penodedig.

(2)Y materion yw—

(a)pa un a yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth,

(b)pwy yw deiliaid y contract o dan y contract, ac

(c)a yw’r contract yn gontract diogel neu’n gontract safonol.

(3)Mae is-adrannau (4) i (7) yn gymwys i denantiaeth neu drwydded sy’n dod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.

(4)Mae’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i’r contract wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract.

(5)Mae telerau presennol y contract yn parhau i gael effaith, ac eithrio i’r graddau y maent⁠—

(a)yn anghydnaws â darpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract, neu

(b)yn delerau’r contract oherwydd deddfiad a ddiddymir neu a ddirymir o dan y Ddeddf hon.

(6)Mae’r darpariaethau atodol sy’n gymwys i’r contract wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract, ac eithrio i’r graddau y maent yn anghydnaws â thelerau presennol y contract.

(7)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i Atodlen 12 (sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau sydd eisoes yn bodoli, sy’n addasu’r modd y cymhwysir y Ddeddf hon, ac sy’n cynnwys darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol penodol).

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 240 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I19A. 240 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

241Contractau sydd eisoes yn bodoliLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan wneir, ar neu ar ôl y diwrnod penodedig, denantiaeth neu drwydded yn unol â chontract a wnaed cyn y diwrnod y gwneir y gorchymyn sy’n pennu’r diwrnod penodedig gan Weinidogion Cymru.

(2)Mae adran 240 ac Atodlen 12 yn gymwys i’r denantiaeth neu’r drwydded—

(a)fel pe bai wedi ei gwneud ar y diwrnod penodedig, a

(b)fel pe bai, yn union cyn y diwrnod hwnnw, yn denantiaeth neu’n drwydded o’r math y byddai wedi bod ar y diwrnod hwnnw oni bai am y Ddeddf hon.

(3)Nid yw paragraffau 2(3), 4(1) a (3), 11, 12, 13 a 23(3) a (7) o Atodlen 12 yn gymwys mewn perthynas â’r denantiaeth neu’r drwydded.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 241 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I21A. 241 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

242Dehongli’r BennodLL+C

Yn y Bennod hon—

  • “y diwrnod penodedig” (“the appointed day”) yw’r diwrnod a bennir o dan adran 257 fel y diwrnod y daw adran 239 i rym;

  • mae i “tenantiaeth ddiogel” yr ystyr sydd i “secure tenancy” yn Neddf Tai 1985 (p. 68) F3... o fewn ystyr adran 86 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42);

  • mae i “tenantiaeth fyrddaliol sicr” yr ystyr sydd i “assured shorthold tenancy” yn Neddf Tai 1988 (p. 50)

  • mae i “tenantiaeth fyrddaliol warchodedig”, “tenantiaeth warchodedig”, “contract cyfyngedig” a “tenantiaeth statudol” yr ystyr sydd i “protected shorthold tenancy”, “protected tenancy”, “restricted contract” a “statutory tenancy” yn Neddf Rhenti 1977;

  • ystyr “tenantiaeth isradd” (“demoted tenancy”) yw tenantiaeth y mae adran 143A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) yn berthnasol iddi;

  • mae i “tenantiaeth ragarweiniol” yr ystyr sydd i “introductory tenancy”yn Neddf Tai 1996;

  • mae i “tenantiaeth sicr” yr ystyr sydd i “assured tenancy”yn Neddf Tai 1988 (ac mae’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 242 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I23A. 242 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources