Search Legislation

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: RHAN 4

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, RHAN 4 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 29 Mai 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 4:

  • specified provision(s) savings for amendments by 2018 anaw 1, s. 6, Sch. 6 by S.I. 2019/110 reg. 5

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

RHAN 4LL+CCYFLWR ANHEDDAU

PENNOD 1LL+CRHAGARWEINIAD

89Cymhwyso’r RhanLL+C

(1)Mae Pennod 2 yn gymwys mewn perthynas â phob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd (gweler adran 90).

(2)Mae Pennod 3 yn gymwys mewn perthynas â phob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 89 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

90Contractau safonol cyfnod penodol: canfod hyd y cyfnodLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion canfod am ba hyd y gwneir contract safonol cyfnod penodol.

(2)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn denantiaeth, mae i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod sy’n dechrau pan gafodd y denantiaeth ei rhoi.

(3)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn drwydded, mae i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract.

(4)Mae contract safonol cyfnod penodol i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod o lai na saith mlynedd os yw’n opsiwn i’r landlord ei derfynu cyn diwedd y cyfnod o saith mlynedd sy’n dechrau pan fydd cyfnod y contract yn dechrau.

(5)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn rhoi opsiwn i ddeiliad y contract adnewyddu’r contract am gyfnod a fyddai, o’i gyfuno â chyfnod gwreiddiol y contract, yn dod i saith mlynedd neu ragor, nid yw i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod o lai na saith mlynedd (oni bai bod is-adran (4) yn gymwys).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 90 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 2LL+CCYFLWR ANHEDDAU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT DIOGEL, POB CONTRACT SAFONOL CYFNODOL A PHOB CONTRACT SAFONOL CYFNOD PENODOL A WNEIR AM GYFNOD O LAI NA SAITH MLYNEDD)

Rhwymedigaethau’r landlord o ran cyflwr anneddLL+C

91Rhwymedigaeth y landlord: annedd ffit i bobl fyw ynddiLL+C

(1)Rhaid i’r landlord o dan gontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd sicrhau bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi—

(a)ar ddyddiad meddiannu’r contract, a

(b)tra pery’r contract.

(2)Mae’r cyfeiriad at yr annedd yn is-adran (1) yn cynnwys, os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, strwythur yr adeilad a’r tu allan i’r adeilad, ynghyd â’r rhannau cyffredin.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6A. 91 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

92Rhwymedigaeth y landlord i gadw annedd mewn cyflwr daLL+C

(1)Rhaid i’r landlord o dan gontract diogel, contract safonol cyfnodol neu gontract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd—

(a)cadw’r strwythur a’r tu allan i’r annedd (gan gynnwys draeniau, landeri a phibellau allanol) mewn cyflwr da, a

(b)cadw’r gosodiadau gwasanaeth yn yr annedd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn.

(2)Os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, rhaid i’r landlord—

(a)cadw’r strwythur a’r tu allan i unrhyw ran arall o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi (gan gynnwys draeniau, landeri a phibellau allanol) mewn cyflwr da, a

(b)cadw unrhyw osodiadau gwasanaeth sy’n gwasanaethu’r annedd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac sydd naill ai—

(i)yn ffurfio rhan o unrhyw ran o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi, neu

(ii)yn eiddo i’r landlord neu o dan reolaeth y landlord,

mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn.

(3)Y safon sy’n ofynnol yn ôl is-adrannau (1) a (2), o ran cyflwr yr annedd, yw’r hyn sy’n rhesymol o ystyried oed a chymeriad yr annedd, a’r cyfnod y mae’r annedd yn debygol o fod ar gael i’w meddiannu fel cartref.

(4)Yn y Rhan hon, ystyr “gosodiad gwasanaeth” yw gosodiad i gyflenwi dŵr, nwy neu drydan, ar gyfer glanweithdra, i gynhesu lle neu i gynhesu dŵr.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8A. 92 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

93Rhwymedigaethau o dan adrannau 91 a 92: atodolLL+C

(1)Rhaid i’r landlord unioni unrhyw ddifrod a achosir gan waith ac atgyweiriadau a wneir er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau’r landlord o dan adran 91 neu 92.

(2)Ni chaiff y landlord osod unrhyw rwymedigaeth ar ddeiliad y contract os bydd deiliad y contract yn gorfodi neu’n dibynnu ar rwymedigaethau’r landlord o dan adran 91 neu 92.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I10A. 93 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

94Penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddiLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi materion ac amgylchiadau y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu, at ddibenion adran 91(1), a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio.

(2)Wrth arfer y pŵer yn is-adran (1), caiff Gweinidogion Cymru ragnodi materion ac amgylchiadau—

(a)drwy gyfeirio at unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34) (ystyr perygl categori 1 (“category 1 hazard”) a pherygl categori 2 (“category 2 hazard”));

(b)a allai godi oherwydd methiant i gydymffurfio â rhwymedigaeth o dan adran 92.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud y canlynol drwy reoliadau—

(a)gosod gofynion ar landlordiaid at ddiben atal unrhyw faterion neu amgylchiadau rhag codi a allai olygu nad yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi;

(b)rhagnodi, os na chydymffurfir â gofynion a osodir o dan baragraff (a) mewn cysylltiad ag annedd, bod yr annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I12A. 94 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I13A. 94 mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Cyfyngiadau ar rwymedigaethau’r landlord o dan y Bennod honLL+C

95Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: cyffredinolLL+C

(1)Nid yw adran 91(1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar landlord mewn perthynas ag annedd nad yw’r landlord yn gallu ei gwneud yn ffit i bobl fyw ynddi am gost resymol.

(2)Nid yw adrannau 91(1) a 92(1) yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord—

(a)cadw mewn cyflwr da unrhyw beth y mae gan ddeiliad y contract hawl mynd ag ef o’r annedd, na

(b)ailadeiladu neu adfer cyflwr yr annedd neu unrhyw ran ohoni, os caiff ei dinistrio neu ei difrodi gan achos perthnasol.

(3)Os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, nid yw adrannau 91(1) a 92(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord ailadeiladu nac adfer cyflwr unrhyw ran arall o’r adeilad y mae gan y landlord ystad neu fuddiant ynddi, os caiff ei dinistrio neu ei difrodi gan achos perthnasol.

(4)Tân, storm, llifogydd neu unrhyw ddamwain anochel arall yw’r achosion perthnasol.

(5)Nid yw adran 92(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord wneud gwaith nac atgyweiriadau oni bai bod y methiant i gadw mewn cyflwr da, neu’r methiant i gadw mewn cyflwr sy’n gweithio’n iawn, yn effeithio ar fwynhad deiliad y contract—

(a)o’r annedd, neu

(b)o’r rhannau cyffredin y mae gan ddeiliad y contract hawl i’w defnyddio o dan y contract meddiannaeth.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Aau. 95-97 wedi eu cymhwyso (gydag addasiadau) (1.12.2022) gan 2002 c. 15, Atod. 7 para. 3A(5) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 27(2)(b))

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 95 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I15A. 95 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

96Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: bai deiliad y contractLL+C

(1)Nid yw adran 91(1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar y landlord os nad yw’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi yn llwyr neu’n bennaf oherwydd gweithred neu anwaith (gan gynnwys gweithred neu anwaith sy’n gyfystyr â diffyg gofal) ar ran deiliad y contract neu feddiannydd a ganiateir i feddiannu’r annedd.

(2)Nid oes rhwymedigaeth ar y landlord yn sgil adran 92(1) na (2) i wneud gwaith nac atgyweiriadau os gellir priodoli’r methiant i gadw mewn cyflwr da, neu fethiant gosodiad gwasanaeth i weithio, yn llwyr neu’n bennaf i ddiffyg gofal ar ran deiliad y contract neu feddiannydd a ganiateir i feddiannu’r annedd.

(3)Ystyr “diffyg gofal” yw methu â gofalu’n briodol—

(a)am yr annedd, neu

(b)os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, am y rhannau cyffredin y mae gan ddeiliad y contract hawl i’w defnyddio o dan y contract meddiannaeth.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Aau. 95-97 wedi eu cymhwyso (gydag addasiadau) (1.12.2022) gan 2002 c. 15, Atod. 7 para. 3A(5) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 27(2)(b))

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I17A. 96 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

97Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: hysbysiadLL+C

(1)Nid yw rhwymedigaethau’r landlord o dan adrannau 91(1)(b) a 92(1) a (2) yn codi hyd nes bod y landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) yn dod i wybod bod angen gwaith neu atgyweiriadau.

(2)Mae’r landlord yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau o dan y darpariaethau hynny os yw’n gwneud y gwaith neu’r atgyweiriadau angenrheidiol o fewn cyfnod rhesymol ar ôl y diwrnod y daw’r landlord i wybod bod ei angen neu eu hangen.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys—

(a)os yw’r landlord (yr “hen landlord”) yn trosglwyddo buddiant yr hen landlord yn yr annedd i berson arall (y “landlord newydd”), a

(b)os yw’r hen landlord (neu os dau neu ragor o bersonau ar y cyd yw’r hen landlord, unrhyw un ohonynt) yn gwybod cyn dyddiad y trosglwyddiad bod gwaith neu atgyweiriadau’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio ag adran 91(1) neu 92(1) neu (2).

(4)Mae’r landlord newydd i’w drin fel pe bai’n dod i wybod bod angen y gwaith hwnnw neu’r atgyweiriadau hynny ar ddyddiad y trosglwyddiad, ond nid cyn hynny.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Aau. 95-97 wedi eu cymhwyso (gydag addasiadau) (1.12.2022) gan 2002 c. 15, Atod. 7 para. 3A(5) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 27(2)(b))

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I19A. 97 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Mynediad i anheddau a hawliau meddianwyr a ganiateirLL+C

98Hawl y landlord i fynd i’r anneddLL+C

(1)Caiff y landlord fynd i’r annedd ar unrhyw adeg resymol at ddiben—

(a)arolygu ei stad ac arolygu a yw mewn cyflwr da, neu

(b)gwneud gwaith neu atgyweiriadau y mae angen ei wneud neu eu gwneud er mwyn cydymffurfio ag adran 91 neu 92.

(2)Rhaid i’r landlord roi o leiaf 24 awr o rybudd i ddeiliad y contract cyn arfer yr hawl honno.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys—

(a)pan fo’r annedd yn ffurfio rhan o adeilad yn unig, a

(b)os oes angen i’r landlord wneud gwaith neu atgyweiriadau mewn rhan arall o’r adeilad er mwyn cydymffurfio ag adran 91 neu 92.

(4)Nid yw’r landlord yn atebol am fethu â chydymffurfio ag adran 91 neu 92 os nad oes gan y landlord hawliau digonol dros y rhan arall honno o’r adeilad i allu gwneud y gwaith neu’r atgyweiriadau, ac os nad oedd yn gallu cael yr hawliau hynny ar ôl gwneud ymdrech resymol i’w cael.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C2A. 98 wedi ei addasu (1.12.2022) gan 2002 c. 15, Atod. 7 para. 3A(6) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 27(2)(b))

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I21A. 98 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

99Hawliau meddianwyr a ganiateir i orfodi’r BennodLL+C

(1)Caiff meddiannydd a ganiateir sy’n cael anaf personol, neu’n dioddef colled neu ddifrod i eiddo personol o ganlyniad i fethiant y landlord i gydymffurfio ag adran 91 neu 92, orfodi’r adran berthnasol yn ei hawl ei hun drwy ddod ag achos mewn cysylltiad â’r anaf, y golled neu’r difrod.

(2)Ond os yw meddiannydd a ganiateir yn lletywr neu’n isddeiliad, ni chaiff wneud hynny oni chaniateir i’r lletywr fyw yn yr annedd, neu oni wneir y contract isfeddiannaeth, yn unol â’r contract meddiannaeth.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I23A. 99 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

PENNOD 3LL+CAMRYWIOL(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

100Cyflawni rhwymedigaethau atgyweirio yn llythrennolLL+C

(1)Mewn unrhyw achos am dorri rhwymedigaeth atgyweirio o dan gontract meddiannaeth, caiff y llys orchymyn bod y rhwymedigaeth yn cael ei chyflawni’n llythrennol er gwaethaf unrhyw reol ecwitïol sy’n cyfyngu ar argaeledd y rhwymedi hwnnw.

(2)Y rhwymedigaethau atgyweirio yw—

(a)rhwymedigaethau i atgyweirio unrhyw eiddo (neu i gadw eiddo mewn cyflwr da neu sicrhau ei fod ar gael mewn cyflwr da), neu i’w gynnal, ei adnewyddu, ei adeiladu neu ei amnewid, a

(b)rhwymedigaethau i gadw unrhyw annedd mewn cyflwr ffit i bobl fyw ynddi sut bynnag y mynegir hynny,

ac maent yn cynnwys rhwymedigaethau’r landlord o dan adrannau 91 a 92.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 100 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I25A. 100 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

101Gwast ac ymddwyn fel tenantLL+C

(1)Nid yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn atebol am unrhyw wast o ran yr annedd.

(2)Nid yw’r rheol gyfreithiol bod dyletswydd oblygedig ar denant i ymddwyn fel tenant wrth ddefnyddio annedd sydd ar les (yn yr ystyr sydd i “tenant-like user” yn ôl y gyfraith gyffredin) yn gymwys i ddeiliad contract os yw’r denantiaeth yn gontract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I27A. 101 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources