- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, RHAN 2.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
2(1)Mae GCC i gael—
(a)aelod i gadeirio GCC (“yr aelod-gadeirydd”), a
(b)dim mwy na 14 o aelodau eraill.
(2)Gweinidogion Cymru sydd i benodi aelodau GCC.
(3)Ni chaniateir i berson sy’n aelod o staff GCC gael ei benodi’n aelod o GCC ac ni chaiff person o’r fath ddal swydd fel aelod o GCC.
(4)Mae aelodau GCC i ddal swydd ar unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau eraill yn yr Atodlen hon.
(5)Cyn gwneud penodiad o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
(6)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb penodi aelodaeth amrywiol sydd â mwyafrif o bersonau nad ydynt, ac nad ydynt wedi bod, yn weithwyr gofal cymdeithasol neu’n gynrychiolwyr gweithwyr gofal cymdeithasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
3(1)Caiff GCC dalu i’w haelodau unrhyw dâl, treuliau a lwfansau y mae Gweinidogion yn penderfynu arnynt.
(2)Mae GCC i dalu, neu wneud darpariaeth ar gyfer talu, unrhyw bensiwn, lwfans neu arian rhodd y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt i berson sy’n aelod o GCC, neu sydd wedi bod yn aelod o GCC, neu mewn cysylltiad â pherson o’r fath.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod amgylchiadau arbennig sy’n ei gwneud yn iawn i berson sy’n peidio â dal swydd fel aelod-gadeirydd GCC gael digollediad, rhaid i GCC dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu i’r person unrhyw ddigollediad y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arno.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I4Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
4Mae person a benodir yn aelod o GCC yn dal swydd am unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arno wrth wneud y penodiad; ond ni chaniateir i’r cyfnod hwnnw fod yn hwy na 4 blynedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I6Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
5(1)Caiff yr aelod-gadeirydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(2)Caiff ymddiswyddo—
(a)fel aelod-gadeirydd, neu
(b)fel aelod-gadeirydd ac fel aelod.
(3)Caiff aelod o GCC nad yw’n aelod-gadeirydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I8Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
6(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ddiswyddo’r aelod-gadeirydd os ydynt wedi eu bodloni—
(a)ei fod yn anaddas i barhau’n aelod-gadeirydd, neu
(b)nad yw’n gallu gweithredu fel aelod-gadeirydd neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.
(2)Cânt ddiswyddo’r aelod-gadeirydd o’i swydd—
(a)fel aelod-gadeirydd, neu
(b)fel aelod-gadeirydd ac fel aelod.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ddiswyddo aelod o GCC nad yw’n aelod-gadeirydd os ydynt wedi eu bodloni—
(a)ei fod yn anaddas i barhau’n aelod, neu
(b)nad yw’n gallu gweithredu fel aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I10Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: