Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1 – Lefelau Staff Nyrsio

13.Mae adran 1(1) yn mewnosod adrannau newydd 25A i 25E yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1). Mae’r adrannau newydd wedi eu mewnosod yn Rhan 2 (cyrff y gwasanaeth iechyd), ym Mhennod 4 (amrywiol), cyn adran 26.

Adran 25A Dyletswydd i roi sylw i ddarparu digon o nyrsys

14.Mae adran 25A yn cyflwyno dyletswydd newydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau nyrsio.

15.Mae is-adran (1) o adran 25A yn darparu bod y ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried rhychwant y ddarpariaeth o wasanaethau nyrsio y mae ei hangen yn ei ardal i fodloni’r holl ofynion rhesymol.

16.Mae is-adran (2) o adran 25A yn gosod dyletswydd hollgyffredinol ar Fwrdd Iechyd Lleol i roi sylw i’r pwysigrwydd o ddarparu digon o nyrsys er mwyn rhoi amser i nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif. Mae’n gymwys pan fydd yn darparu’r gwasanaethau nyrsio ei hun. Pan fydd Bwrdd Iechyd Lleol yn sicrhau bod gwasanaethau nyrsio yn cael eu darparu gan drydydd parti, rhaid iddo roi sylw i’r pwysigrwydd o sicrhau bod gan y darparwr ddigon o nyrsys er mwyn rhoi amser i nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif.

17.Mae is-adran (3) o adran 25A yn darparu, pan fo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru yn darparu gwasanaethau nyrsio, fod rhaid iddi ddarparu’r gwasanaethau hynny i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn angenrheidiol er mwyn bodloni’r holl ofynion rhesymol.

18.Mae is-adran (4) o adran 25A yn gymwys pan fydd Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru yn ystyried rhychwant y ddarpariaeth o wasanaethau nyrsio. Yn unol ag is-adran (4) mae gan Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru ddyletswydd hollgyffredinol i roi sylw i’r pwysigrwydd o ddarparu digon o nyrsys er mwyn rhoi amser i nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif. Mae’n gymwys pan fydd yn darparu’r gwasanaethau nyrsio ei hun. Pan fydd Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru yn sicrhau bod gwasanaethau nyrsio yn cael eu darparu gan drydydd parti, rhaid iddi roi sylw i’r pwysigrwydd o sicrhau bod gan y darparwr ddigon o nyrsys er mwyn rhoi amser i nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif.

19.Mae’r ddyletswydd hollgyffredinol hon a osodir ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru i roi sylw i’r pwysigrwydd o ddarparu digon o nyrsys er mwyn rhoi amser i nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif yn gymwys pa bryd bynnag y bydd Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru yn darparu gwasanaethau nyrsio ei hun a phan fydd yn comisiynu neu’n cyllido gofal gan unrhyw ddarparwr trydydd parti, yng Nghymru neu mewn man arall. Mae’n gymwys, felly, er enghraifft, pan fydd Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yn ystyried y ddarpariaeth o ofal o fewn ysbytai y maent yn berchen arnynt ac yn eu rheoli; pan fyddant yn comisiynu a/neu’n darparu gofal parhaus yn uniongyrchol; a phan fyddant yn comisiynu gwasanaethau nyrsio ar gyfer eu trigolion oddi wrth ddarparwr yn Lloegr.

20.Yn ymarferol, rhagwelir, pan fydd Byrddau Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru yn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu (h.y. comisiynu gwasanaethau), y byddant, yn ystod y broses gontractio, ystyried y canlyniadau i gleifion y gall y lefelau staff nyrsio ar y wardiau lle y bydd y cleifion perthnasol yn derbyn gofal effeithio arnynt. Dyma un ffordd y gallai Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG ddangos eu bod wedi rhoi sylw i’r pwysigrwydd o sicrhau bod gan ddarparwyr trydydd parti y maent yn sicrhau’r ddarpariaeth o wasanaethau oddi wrthynt nifer digonol o nyrsys er mwyn rhoi amser i nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif.

21.Mae is-adran (5) o adran 25A yn darparu bod rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru (ymhlith pethau eraill) ymgymryd â chynllunio’r gweithlu wrth roi sylw i’r pwysigrwydd o ddarparu digon o nyrsys er mwyn rhoi amser i nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif. Mae cynllunio’r gweithlu yn cynnwys cynllunio ar gyfer recriwtio, cadw, addysgu a hyfforddi nyrsys cofrestredig.

22.Ystyrir bod cynllunio’r gweithlu o bwys sylfaenol i lwyddiant yr amcanion polisi sydd wrth wraidd y Ddeddf. Mae cynllunio’r gweithlu yn broses i sicrhau bod y nifer cywir o bobl sydd â’r sgiliau cywir yn cael eu cyflogi yn y lle cywir ar yr adeg gywir er mwyn cyflawni amcanion byrdymor a hirdymor y sefydliad. Mae’n golygu ystod o weithgareddau a all gynnwys cynllunio ar gyfer olyniaeth; rhagweld y galw a’r cyflenwad o ran llafur; cynllunio recriwtio a chadw; dadansoddi’r bylchau yn dilyn archwiliad sgiliau; cynllunio swyddi a rheoli risg. Gweler hefyd is-adran 25D(3).

Adran 25B Dyletswydd i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio

23.Mae adran 25B yn cyflwyno dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru (pan fo hynny’n gymwys) i gyfrifo a chymryd camau i gynnal lefelau staff nyrsio ac i hysbysu cleifion am y lefel honno. Dim ond i’r lleoliadau clinigol a bennir yn is-adran (3) o adran 25B y mae’r ddyletswydd hon yn gymwys.

24.Mae is-adran 25B(1) yn darparu, pan fo Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru yn darparu gwasanaethau nyrsio mewn lleoliad clinigol y mae’r adran hon yn gymwys iddo, fod rhaid iddo ddynodi person neu ddisgrifiad o berson, a adwaenir fel y “person dynodedig”. Rhaid i’r person dynodedig gyfrifo nifer y nyrsys sy’n briodol i ddarparu gofal i gleifion sy’n bodloni’r holl ofynion rhesymol yn y sefyllfa honno. Dyma’r “lefel staff nyrsio”. Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru gymryd pob cam rhesymol wedyn i gynnal y lefel honno a gwneud trefniadau i hysbysu cleifion am y lefel staff nyrsio.

25.Gallai Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG ddefnyddio dulliau amrywiol i hysbysu cleifion am y lefel staff nyrsio, megis hysbysiad yn y ward neu wybodaeth ar wefan ysbyty.

26.Mae is-adran (2) o adran 25B yn darparu bod rhaid i’r person dynodedig gyfrifo’r lefel staff nyrsio yn unol ag adran 25C.

27.Mae is-adrannau (3)(a) a (b) o adran 25B yn pennu’r mathau o leoliadau clinigol pan oedd y dyletswyddau i ddynodi person i gyfrifo lefel staff nyrsio, cymryd pob cam rhesymol i gynnal y lefel a dweud wrth gleifion amdani yn gymwys pan gafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol. Wardiau meddygol acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion a wardiau llawfeddygol acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion yw’r wardiau hyn.

28.Mae adran 25B(3)(c) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i estyn y lleoliadau y mae’r dyletswyddau o dan adran 25B yn gymwys iddynt drwy wneud rheoliadau. Rhaid i Weinidogion Cymru wneud unrhyw reoliadau o’r fath drwy ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol h.y. rhaid i’r rheoliadau gael eu cymeradwyo’n ffurfiol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn y gallant gael eu gwneud.

Adran 25C Lefelau staff nyrsio: y dull o gyfrifo

29.Mae adran 25C yn nodi’r dull y mae rhaid i berson dynodedig ei ddilyn wrth gyfrifo’r lefel staff nyrsio ac yn darparu manylion ynghylch sut y gellid defnyddio hyn. Adwaenir y dull hwn o gyfrifo yn gyffredin fel y “dull trionglog” yn y GIG yng Nghymru, oherwydd ei fod yn golygu ystyried tri math gwahanol o wybodaeth (a nodir yn (1)(a) a (b)).

30.Y cyntaf o’r rhain yw gwybodaeth sydd, ym marn broffesiynol y person sy’n mabwysiadu’r dull, yn berthnasol i’r lefel staff nyrsio. Byddai hyn yn cynnwys pethau megis y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd gan y staff, pa mor sâl yw’r cleifion ar y ward a faint o ofal y mae ei angen ar bob un ohonynt.

31.Yr ail yw cymhareb briodol a amcangyfrifir o nyrsys i gleifion sydd wedi ei chreu drwy ddefnyddio offeryn cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth. Mae amryw o offer cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth ar gael. Mae offeryn aciwtedd yn un math, sy’n cofnodi newidiadau yn lefelau aciwtedd a dibyniaeth cleifion (gweler yr eirfa) dros gyfnod diffiniedig o amser. Mae wedi ei gynllunio i gadarnhau gofyniad staffio ar gyfartaledd dros amser, er mwyn helpu Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG i gynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor; yn benodol, eu helpu i benderfynu faint o swyddi a ddylai fod ar ward.

32.Y trydydd math yw dangosyddion sensitif i nyrsys, a ddefnyddir i fesur i ba raddau y gwyddys bod llesiant cleifion yn arbennig o sensitif i’r ddarpariaeth o ofal gan nyrs. Maent yn cynnwys ffactorau megis nifer yr achosion o gwympo sydd wedi digwydd ar ward sy’n arwain at niwed, cleifion sydd wedi datblygu wlserau pwyso tra bônt yn yr ysbyty a chamgymeriadau sy’n arwain at niwed wrth roi meddyginiaeth i gleifion ar ward.

33.Mae is-adran 25C(2) yn caniatáu i’r person dynodedig gyfrifo lefelau staff nyrsio gwahanol ar gyfer adegau gwahanol a chan ddibynnu ar yr amodau y darperir gofal ynddynt. Mae hyn yn caniatáu i berson dynodedig gyfrifo lefel staff nyrsio sy’n ystyried nifer gwirioneddol y cleifion ar y ward a’r math a’r lefel o ofal sy’n ofynnol ar gyfer y cleifion hynny.

34.Wrth gyfrifo’r lefel staff nyrsio, gall y person dynodedig roi ystyriaeth i nifer y gweithwyr cymorth gofal iechyd sy’n darparu gofal i gleifion o dan oruchwyliaeth nyrs neu sy’n cyflawni dyletswyddau a ddirprwyir iddynt gan nyrs. Mae hyn yn bosibl gan fod is-adran (6)(a) o Adran 25A yn darparu, yn adrannau 25A i 25E yn gynhwysol, fod “references to a nurse providing care for patients include the provision of care by a person other than a nurse acting under the supervision of, or discharging duties delegated to the person by, a nurse”.

Adran 25D Lefelau staff nyrsio: canllawiau

35.Mae adran 25D yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch y dyletswyddau o dan adrannau 25B a 25C, a bod rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG y mae’r adrannau hynny’n gymwys iddynt roi sylw i’r canllawiau.

36.Mae is-adran (2) o adran 25D yn nodi rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o’r materion y caiff y canllawiau bennu y dylai person dynodedig eu hystyried wrth arfer ei farn broffesiynol.

37.Er enghraifft, gallai’r canllawiau nodi ei bod yn berthnasol ystyried ffactorau megis a yw’r nyrsys yn rhai sydd newydd gymhwyso neu faint o flynyddoedd o brofiad cyffredinol neu arbenigol sydd ganddynt (gweler (2)(a)). Gallai hefyd ddarparu y dylai person dynodedig ystyried y gofal a ddarperir i gleifion gan weithwyr iechyd proffesiynol eraill neu staff a fydd yn bresennol ar ward a’u cymwyseddau a’u profiad e.e. ffisiotherapyddion, meddygon dan hyfforddiant neu fyfyrwyr nyrsio.

38.Mae is-adran (3) o adran 25D yn darparu y caiff y canllawiau hefyd wneud darpariaeth ynghylch cynllunio’r gweithlu y caiff Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG ymgymryd ag ef, er mwyn eu galluogi i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan adrannau 25B a 25C.

39.Mae is-adran (4) o adran 25D yn rhagnodi’r personau y mae rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â hwy cyn dyroddi canllawiau. Yn ei hanfod, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phersonau a sefydliadau y mae’r canllawiau yn debygol o effeithio arnynt. Yn benodol, y personau a’r sefydliadau hyn yw Byrddau Iechyd Lleol ac unrhyw Ymddiriedolaeth GIG sydd o dan ddyletswydd i roi sylw i’r canllawiau; y sefydliadau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau unrhyw ddarparwyr cartrefi gofal neu ddarparwyr ysbytai annibynnol yng Nghymru y mae’r canllawiau yn debygol o effeithio arnynt; sefydliadau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau unrhyw bersonau eraill (h.y. ac eithrio darparwyr cartrefi gofal ac ysbytai annibynnol), y mae’r canllawiau yn debygol o effeithio arnynt ac unrhyw bersonau eraill y mae’r canllawiau yn debygol o effeithio arnynt ac y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Adran 25E Lefelau staff nyrsio: adroddiadau

40.Mae adran 25E yn nodi’r gofynion adrodd ar gyfer y Ddeddf.

41.Mae is-adran (1) o adran 25E yn darparu bod rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol, ac unrhyw Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru y mae’r ddyletswydd i gyfrifo lefel staff nyrsio yn adran 25B yn gymwys iddi, ddarparu adroddiad ar lefelau staff nyrsio yn unol â darpariaethau adran 25E. Gall yr adroddiad hwn fod yn adroddiad ar wahân neu gellir ei ymgorffori mewn adroddiad ehangach.

42.Mae is-adran (2) o adran 25E yn darparu bod rhaid i adroddiad ar lefelau staff nyrsio gwmpasu cyfnod adrodd (“reporting period”) ac mae’n rhestru’r tri math penodol o wybodaeth y mae rhaid eu cwmpasu mewn adroddiad o’r fath sef: (a) i ba raddau y mae lefelau staff nyrsio wedi eu cynnal; (b) yr effaith y mae’r Bwrdd neu’r Ymddiriedolaeth yn ystyried bod peidio â chynnal lefelau staff nyrsio wedi ei chael ar y gofal a ddarperir i gleifion (mae is-adran (2)(b) yn rhoi enghreifftiau o’r mathau o wybodaeth a allai gael eu cynnwys o dan y pennawd hwn) ac (c) unrhyw gamau a gymerir mewn ymateb i beidio â chynnal lefelau staff nyrsio.

43.Caiff Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG ddewis darparu gwybodaeth ychwanegol yn yr adroddiad ar lefelau staff nyrsio.

44.Mae is-adran (3) o adran 25E yn darparu bod rhaid cyflwyno pob adroddiad ar lefelau staff nyrsio i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 30 o diwrnodau ar ôl diwrnod olaf y cyfnod adrodd. Mae’r cyfnod adrodd wedi ei osod yn unol â darpariaethau is-adran (5).

45.Mae is-adran (4) o adran 25E yn darparu, ar ôl i bob cyfnod adrodd ddod i ben, fod rhaid i Weinidogion Cymru (a) llunio a chyhoeddi dogfen sy’n crynhoi cynnwys yr adroddiadau ar lefelau staff nyrsio a gyflwynir mewn cysylltiad â’r cyfnod adrodd hwnnw, a (b) gosod pob adroddiad a gyflwynir iddynt yn y cyfnod hwnnw gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

46.Mae gosod adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn golygu bod rhaid rhoi copi o’r adroddiad i’r Swyddfa Gyflwyno yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Swyddfa Gyflwyno yn cyhoeddi pob dogfen a osodir yn swyddogol gerbron y Cynulliad yn yr adran Dogfennau a Osodwyd ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, lle y gellir eu gweld a’u lawrlwytho.

47.Mae is-adran (5) o adran 25E yn sefydlu cylch adrodd tair blynedd ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar lefelau staff nyrsio. Y cyfnod adrodd cychwynnol (“initial reporting period”), h.y. y cyfnod cyntaf o dair blynedd y mae rhaid iddo fod yn destun adroddiad ar lefelau staff nyrsio, yw’r cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â chychwyn adran 25E. Mae pob cyfnod adrodd dilynol yn rhedeg am y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod olaf yn y cyfnod adrodd blaenorol.

48.Rhagwelir y bydd Gweinidogion Cymru yn dewis cychwyn adran 25E a thrwy hynny yn sbarduno dechrau’r “cyfnod adrodd cychwynnol” ar ddyddiad a fydd yn ei gysoni â chylchoedd cynllunio ac adrodd presennol yn y GIG yng Nghymru.

49.Ynghyd â’r gofyniad yn is-adran (3) i bob adroddiad gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 30 o ddiwrnodau ar ôl diwrnod olaf y cyfnod adrodd, bydd Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG (pan fo’n gymwys) oll yn cyflwyno eu hadroddiadau ar lefelau staff nyrsio ar gyfer yr un cyfnod o dair blynedd yn ôl yr un terfyn amser.

50.Mae is-adran (6) o adran 25E yn diffinio Rheoliadau Cwynion (“Complaints Regulations”) at ddibenion y Ddeddf hon. Mae cwynion a wneir yn unol â’r Rheoliadau Cwynion ynghylch gofal a ddarperir i gleifion gan nyrsys yn enghraifft o’r wybodaeth a all gael ei chynnwys mewn adroddiad ar lefelau staff nyrsio o dan adran 25E(2)(b).

51.Mae adran 1(2) o’r Ddeddf yn diwygio adran 203(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Effaith y diwygiad yw gwneud rheoliadau o dan adran 25B(3)(c) yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol.

52.Mae adran 1(3) o’r Ddeddf yn diwygio adran 207 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i ychwanegu “lefel staff nyrsio” at y mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio yn y Ddeddf honno.

Adran 2 – Cychwyn

53.Mae adran 2 yn darparu y daw darpariaethau’r Ddeddf i rym pan roddir y Cydsyniad Brenhinol iddi, ac eithrio adran 1, a gaiff ei chychwyn drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru. Mae adran 1 yn cynnwys y darpariaethau sylweddol yn y Ddeddf. Adran 1 sy’n mewnosod yr adrannau newydd 25A i 25E yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae adran 2 yn rhoi’r hyblygrwydd i Weinidogion Cymru i benderfynu pa bryd y maent am gychwyn adran 1 drwy ddefnyddio gorchymyn cychwyn. Caiff y gorchymyn cychwyn gychwyn rhannau gwahanol o adran 1 ar adegau gwahanol ac at ddibenion gwahanol a gwneud darpariaethau canlyniadol, darfodol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf i rym.

Adran 3 – Enw byr

54.Mae'r adran hon yn cadarnhau mai enw'r Ddeddf yw Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources