Geirfa
56.Yn y Nodiadau Esboniadol hyn, mae gan y termau yng ngholofn chwith y tabl isod yr ystyron a briodolir iddynt yng ngholofn dde’r tabl isod.
Term | Disgrifiad |
---|---|
dangosydd sensitif i nyrsys | Dangosydd sy’n adlewyrchu i ba raddau y gwyddys bod llesiant cleifion yn arbennig o sensitif i’r ddarpariaeth o ofal gan nyrs. |
dibyniaeth | Faint o ofal y mae ei angen ar glaf. |
dull trionglog | Techneg ar gyfer cyfrifo nifer y nyrsys sydd i gael eu rhoi mewn lleoliad gofal sy’n defnyddio barn broffesiynol, data o offeryn aciwtedd perthnasol, a’r lefelau o ddangosyddion sensitif i nyrsys. |
lefel staff nyrsio | Dyma’r disgrifiad a roddir gan y Ddeddf ar gyfer nifer y nyrsys sy’n briodol i ddarparu gofal i gleifion, sy’n bodloni’r holl ofynion rhesymol yn y sefyllfa honno. |
nyrs | Dyma nyrs gofrestredig. Yn unol ag adran 5 o Ddeddf Dehongli 1978(2) ac Atodlen 1 iddi ystyr nyrs gofrestredig yw nyrs sydd wedi ei chofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(3) yn rhinwedd cymwysterau mewn nyrsio neu fydwreigiaeth yn ôl y digwydd. |
person dynodedig | Person neu ddisgrifiad o berson y caniateir iddo, at ddibenion y Ddeddf, gael ei ddynodi i gyfrifo nifer y nyrsys sy’n briodol i ddarparu gofal i gleifion sy’n bodloni’r holl ofynion rhesymol yn y sefyllfa honno. |