Search Legislation

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: PENNOD 4

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, PENNOD 4. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

PENNOD 4LL+CARCHWILIO MANGREOEDD AC EIDDO ARALL

103Pŵer i archwilio mangre busnesLL+C

(1)Os oes gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio mangre busnes person at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person, caiff ACC fynd i’r fangre ac archwilio—

(a)y fangre;

(b)asedau busnes sydd yn y fangre;

(c)dogfennau busnes sydd yn y fangre (ond gweler adran 110).

(2)Ond ni chaiff ACC gynnal archwiliad o’r fath onid yw wedi cael—

(a)cytundeb meddiannydd y fangre, neu

(b)cymeradwyaeth y tribiwnlys.

(3)Caniateir cynnal archwiliad—

(a)ar adeg a gytunwyd â meddiannydd y fangre, neu

(b)os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad—

(i)ar adeg resymol a bennir mewn hysbysiad a ddyroddwyd i’r meddiannydd o leiaf 7 niwrnod cyn yr adeg honno, neu

(ii)ar unrhyw adeg resymol os yw’r tribiwnlys, pan fydd yn cymeradwyo’r archwiliad, yn fodlon bod gan ACC sail dros gredu y byddai hysbysu’r meddiannydd yn niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.

(4)Os yw ACC yn ceisio cynnal archwiliad heb—

(a)cytundeb y meddiannydd, neu

(b)dyroddi hysbysiad o dan is-adran (3)(b)(i),

rhaid i ACC ddarparu hysbysiad ar yr adeg y bydd yr archwiliad i gychwyn.

(5)Rhaid i hysbysiad a ddarperir o dan is-adran (4)—

(a)os yw meddiannydd y fangre yno, gael ei roi i’r meddiannydd;

(b)os nad yw’r meddiannydd yno ond bod yno berson yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfrifol am y fangre, gael ei roi i’r person hwnnw;

(c)mewn unrhyw achos arall, gael ei adael mewn lle amlwg yn y fangre.

(6)Rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan is-adran (3)(b)(i), neu a ddarperir o dan is-adran (4), ddatgan—

(a)bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, a

(b)canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.

(7)Nid yw’r pwerau o dan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i unrhyw ran o’r fangre, nac i archwilio unrhyw ran ohoni, a ddefnyddir fel annedd yn unig.

[F1(8)Ni chaniateir cynnal archwiliad o fangre o dan yr adran hon os oes gan ACC y pŵer i gynnal yr archwiliad o dan adran 103B.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I2A. 103 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

[F2103APŵer pellach i archwilio mangre busnes: treth gwarediadau tirlenwiLL+C

(1)Os oes gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni, caiff ACC fynd i fangre busnes person ac archwilio—

(a)y fangre;

(b)asedau busnes sydd yn y fangre;

(c)dogfennau busnes perthnasol sydd yn y fangre (ond gweler adran 110).

(2)Yr amod cyntaf yw bod y person yn ymwneud neu wedi ymwneud mewn unrhyw rinwedd â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy.

(3)Yr ail amod yw bod yr archwiliad o’r fangre yn ofynnol at ddiben gwirio sefyllfa person arall o ran treth gwarediadau tirlenwi mewn cysylltiad â’r gwarediad o dan sylw.

(4)Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 103 yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan adran 103(1).

(5)Yn yr adran hon, ystyr “dogfennau busnes perthnasol” yw dogfennau busnes sy’n ymwneud â materion sy’n berthnasol i sefyllfa person o ran treth gwarediadau tirlenwi.

(6)Mae’r amgylchiadau pan fo ACC i’w drin fel pe bai ganddo sail dros gredu bod yr amod cyntaf wedi ei fodloni yn cynnwys (er enghraifft) amgylchiadau pan fo gan ACC sail dros gredu—

(a)bod y person, neu y bu’r person, yn ymwneud mewn unrhyw rinwedd â chael, â chludo neu â chyflenwi unrhyw ddeunydd at ddibenion sy’n gysylltiedig â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy, neu sy’n baratoad ar gyfer hynny, neu

(b)bod y person, neu y bu’r person, yn ymwneud mewn unrhyw rinwedd â gwneud unrhyw ddeunydd yn destun unrhyw weithdrefn neu ddefnydd, neu fel arall ag ymdrin ag unrhyw ddeunydd neu wneud trefniadau mewn perthynas ag ef, at ddibenion sy’n gysylltiedig â gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy, neu sy’n baratoad ar gyfer hynny.

(7)Ni chaniateir cynnal archwiliad o fangre o dan yr adran hon os oes gan ACC y pŵer i gynnal yr archwiliad o dan adran 103B.

(8)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriadau at warediad deunydd yn cynnwys cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig mewn perthynas â deunydd;

(b)mae i “deunydd”, “gweithgarwch safle tirlenwi penodedig” a “gwarediad trethadwy” yr un ystyr ag a roddir iddynt yn DTGT.

103BPŵer pellach i archwilio mangre: gwarediadau trethadwy a wneir yn rhywle ac eithrio safleoedd tirlenwi awdurdodedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan ACC sail dros gredu—

(a)bod gwarediad deunydd sy’n warediad trethadwy neu a allai fod yn warediad trethadwy wedi ei wneud yn rhywle nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, a

(b)ei bod yn ofynnol archwilio mangre sydd o fewn is-adran (3) at un neu ragor o’r dibenion a restrir yn is-adran (4).

(2)Caiff ACC fynd i’r fangre ac archwilio—

(a)y fangre, a

(b)unrhyw beth sydd yn y fangre (gan gynnwys dogfennau).

(3)Mae mangre o fewn yr is-adran hon os oes gan ACC reswm i gredu—

(a)y gwnaed y gwarediad ynddi, neu

(b)bod meddiannydd y fangre yn bodloni, neu y gallai fodloni, yr amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad.

(4)Y dibenion yw—

(a)penderfynu a wnaed y gwarediad yn y fangre;

(b)canfod natur neu darddiad y deunydd a waredwyd;

(c)canfod ar ba ddyddiad y gwnaed y gwarediad;

(d)penderfynu a yw’r gwarediad yn warediad trethadwy;

(e)pennu pwysau’r deunydd a waredwyd;

(f)pennu swm unrhyw dreth arfaethedig sydd i’w godi ar y gwarediad o dan DTGT;

(g)canfod person sy’n bodloni, neu a allai fodloni, yr amod ar gyfer codi treth mewn cysylltiad â’r gwarediad.

(5)Mae is-adrannau (2) i (7) o adran 103 yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn cysylltiad ag archwiliad o dan adran 103(1).

(6)Yn yr adran hon—

(a)mae i “safle tirlenwi awdurdodedig”, “deunydd” a “gwarediad trethadwy” yr un ystyron ag a roddir iddynt yn DTGT;

(b)mae i gyfeiriadau at berson yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth yr un ystyr ag ym Mhennod 2 o Ran 4 o DTGT.

104Cynnal archwiliadau o dan adran 103 [F3, 103A neu 103B] : darpariaeth bellachLL+C

(1)Wrth gynnal archwiliad o dan adran 103, [F4103A neu 103B,] mae gan ACC y pwerau a ganlyn.

(2)Wrth fynd i’r fangre F5..., caiff ACC

(a)os oes ganddo sail dros gredu y caiff ei rwystro’n ddifrifol wrth gynnal yr archwiliad, gael cwnstabl yno gydag ef, a

(b)cael person a awdurdodwyd gan ACC yno gydag ef.

(3)Caiff ACC wneud unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae’n ystyried bod ei angen o dan yr amgylchiadau.

(4)Caiff ACC roi cyfarwyddyd bod y fangre, neu unrhyw ran ohoni, neu unrhyw beth sydd ynddi, i’w gadael neu i’w adael yn union fel y mae (naill ai yn gyffredinol neu o ran agweddau penodol) cyhyd ag y bo angen at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o’r fath.

(5)Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, gymryd samplau o ddeunydd o’r fangre.

(6)Mae’r pŵer i gymryd samplau yn cynnwys pŵer—

(a)i dyllu tyllau arbrofol neu i wneud gwaith arall yn y fangre, a

(b)i osod, i gadw neu i gynnal cyfarpar monitro a chyfarpar arall yn y fangre.

(7)Rhaid cael gwared ag unrhyw sampl a gymerir o dan is-adran (5) mewn unrhyw fodd a bennir gan ACC.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I4A. 104 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

105Cynnal archwiliadau o dan adran 103 [F6, 103A neu 103B] : defnyddio offer a deunyddiauLL+C

(1)Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, fynd ag unrhyw offer neu ddeunyddiau sydd eu hangen at ddiben archwiliad o dan adran [F7103, 103A neu 103B i’r fangre] sy’n cael ei harchwilio.

(2)Caiff ACC, neu berson sydd yno gydag ACC, fynd ag offer neu ddeunyddiau i’r fangre—

(a)ar adeg y mae meddiannydd y fangre yn cytuno iddi, neu

(b)ar unrhyw adeg resymol, os bodlonir y naill neu’r llall o’r amodau a ganlyn—

(i)y dyroddwyd hysbysiad o dan adran 103(3)(b)(i) a bod yr hysbysiad yn pennu bod yr offer neu’r deunyddiau i’w dygyd i’r fangre, neu

(ii)bod gan ACC sail dros gredu y byddai dyroddi hysbysiad o’r fath yn niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn ddifrifol.

(3)Os dygir offer neu ddeunyddiau i’r fangre—

(a)heb gytundeb y meddiannydd, neu

(b)heb i hysbysiad gael ei ddyroddi yn unol ag is-adran (2)(b)(i),

rhaid i ACC ddarparu hysbysiad ar yr adeg y mae’r offer neu’r deunyddiau i’w dygyd i’r fangre.

(4)Rhaid i’r hysbysiad—

(a)os yw meddiannydd y fangre yno, gael ei roi i’r meddiannydd;

(b)os nad yw’r meddiannydd yno ond bod yno berson yr ymddengys i ACC ei fod yn gyfrifol am y fangre, gael ei roi i’r person hwnnw;

(c)mewn unrhyw achos arall, gael ei adael mewn lle amlwg yn y fangre.

(5)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.

(6)Os yw’r tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, neu’r defnydd o offer neu ddeunyddiau, rhaid i’r hysbysiad ddatgan hynny.

[F8(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at hysbysiad a ddyroddir o dan adran 103(3)(b)(i) yn cynnwys hysbysiad a ddyroddir o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan adrannau 103A(4) a 103B(5).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I6A. 105 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

106Pŵer i archwilio mangre neu eiddo er mwyn prisio etc.LL+C

(1)Caiff ACC fynd i fangre ac archwilio’r fangre ac unrhyw eiddo yn y fangre at ddiben prisio, mesur neu bennu cymeriad y fangre neu’r eiddo—

(a)os oes angen prisio, mesur neu bennu cymeriad at ddibenion gwirio sefyllfa dreth unrhyw berson, a

(b)os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni.

(2)Amod 1 yw—

(a)bod yr archwiliad yn cael ei gynnal ar adeg a gytunwyd gan berson perthnasol, a

(b)bod hysbysiad sy’n nodi’r amser a gytunwyd ar gyfer cynnal yr archwiliad wedi ei ddyroddi i’r person perthnasol.

(3)Amod 2 yw—

(a)bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad, a

(b)bod hysbysiad sy’n nodi’r amser y cynhelir yr archwiliad wedi ei ddyroddi i berson perthnasol a bennir gan y tribiwnlys o leiaf 7 niwrnod cyn yr amser hwnnw.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol” yw—

(a)meddiannydd y fangre, neu

(b)os na ellir dweud pwy yw’r meddiannydd neu os yw’r fangre yn wag, person sy’n rheoli’r fangre.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (2)(b) neu (3)(b) ddatgan canlyniadau posibl rhwystro person sy’n arfer swyddogaethau ACC.

(6)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (3)(b) hefyd ddatgan bod y tribiwnlys wedi cymeradwyo’r archwiliad.

(7)Os yw ACC o’r farn bod angen hynny i gynorthwyo â’r archwiliad, caiff ACC gael person a awdurdodwyd gan ACC yno gydag ef.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I8A. 106 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

107Dangos awdurdodiad i gynnal archwiliadauLL+C

Os nad yw person sy’n cynnal archwiliad o dan adran 103 [F9, 103A, 103B] neu 106 yn gallu dangos tystiolaeth o’i awdurdod i gynnal yr archwiliad pan ofynnir iddo—

(a)gan feddiannydd y fangre, neu

(b)gan unrhyw berson arall yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am y fangre, neu’n rheoli’r fangre,

rhaid dod â’r archwiliad i ben ac ni chaniateir iddo barhau hyd oni ddangosir tystiolaeth o’r fath.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I10A. 107 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

108Cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwilio mangreLL+C

(1)Caiff ACC ofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo—

(a)archwiliad o dan adran 103 [F10, 103A, 103B] neu 106, neu

(b)arfer pwerau o dan adran 104 neu 105 mewn perthynas ag archwiliad o dan adran 103 [F11, 103A neu 103B] y mae meddiannydd y fangre wedi cytuno iddo.

(2)Mae cymeradwyaeth y tribiwnlys i archwiliad o dan adran 103 [F12, 103A neu 103B] yn cynnwys cymeradwyo arfer y pwerau o dan adran 104 neu 105 yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan y tribiwnlys wrth gymeradwyo’r archwiliad.

(3)Caniateir gwneud cais am gymeradwyaeth o dan is-adran (1) heb anfon hysbysiad am y cais at—

(a)y person y mae ei sefyllfa dreth yn destun yr archwiliad arfaethedig, neu

(b)meddiannydd y fangre.

(4)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adran [F13103, 103A neu 103B—

(a) onid yw’n fodlon bod y gofyniad cymwys wedi ei fodloni, a

(b)os gwnaed y cais am gymeradwyaeth heb roi hysbysiad, oni fo’n fodlon y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig.

[F14(4A)Y gofyniad cymwys yw—

(a)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103, bod gan ACC sail dros gredu ei bod yn ofynnol archwilio’r fangre at ddiben gwirio sefyllfa dreth y person;

(b)yn achos archwiliad o fangre busnes person o dan adran 103A, bod gan ACC sail dros gredu bod yr amodau a nodir yn is-adrannau (2) a (3) o’r adran honno wedi eu bodloni;

(c)yn achos archwiliad o fangre o dan adran 103B, bod gan ACC sail dros gredu’r materion a nodir yn is-adran (1) o’r adran honno.]

(5)Ni chaiff y tribiwnlys gymeradwyo archwiliad o dan adran 106 oni fo’n fodlon bod angen yr archwiliad at ddiben gwirio sefyllfa dreth unrhyw berson ac—

(a)os gwnaed y cais am gymeradwyaeth heb roi hysbysiad, ei fod yn fodlon y gallai anfon hysbysiad am y cais fod wedi niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig, neu

(b)mewn unrhyw achos arall—

(i)y rhoddwyd cyfle rhesymol i’r person y mae ei sefyllfa dreth yn destun yr archwiliad arfaethedig wneud sylwadau i ACC ynghylch yr archwiliad,

(ii)y rhoddwyd cyfle rhesymol i feddiannydd y fangre wneud sylwadau o’r fath, a

(iii)y darparwyd crynodeb i’r tribiwnlys o unrhyw sylwadau a wnaed.

(6)Nid yw is-adran (5)(b)(ii) yn gymwys os yw’r tribiwnlys yn fodlon na ellir dweud pwy yw meddiannydd y fangre.

(7)Pan fo’r tribiwnlys wedi cymeradwyo archwiliad o dan is-adran (1)(a) neu wedi cymeradwyo arfer pŵer o dan is-adran (1)(b) rhaid i ACC gynnal yr archwiliad neu arfer y pŵer—

(a)yn ddim hwyrach na 3 mis ar ôl y diwrnod y rhoddodd y tribiwnlys ei gymeradwyaeth, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan y tribiwnlys wrth roi’r gymeradwyaeth.]

109Pŵer i farcio asedau a chofnodi gwybodaethLL+C

Mae’r pwerau o dan adrannau 103 i 106 yn cynnwys—

(a)pŵer i farcio asedau busnes, ac unrhyw beth sy’n cynnwys asedau busnes, at ddiben dangos eu bod wedi eu harchwilio, a

(b)pŵer i gael a chofnodi gwybodaeth (boed yn electronig neu fel arall) sy’n ymwneud â’r fangre, yr eiddo, yr asedau a’r dogfennau a archwiliwyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I14A. 109 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

110Cyfyngiad ar archwilio dogfennauLL+C

Ni chaiff ACC archwilio dogfen o dan y Bennod hon os (neu i’r graddau), yn rhinwedd Penodau 2 a 3, na allai hysbysiad gwybodaeth a ddyroddwyd i feddiannydd y fangre ar adeg yr archwiliad ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd gyflwyno’r ddogfen.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I16A. 110 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

111Dehongli Pennod 4LL+C

[F15(1)] Yn y Bennod hon—

  • ystyr “asedau busnes” (“business assets”) yw asedau y mae gan ACC reswm i gredu eu bod yn eiddo, ar les neu’n cael eu defnyddio gan unrhyw berson mewn cysylltiad â rhedeg busnes, ond nid yw’n cynnwys dogfennau;

  • ystyr “dogfennau busnes” (“business documents”) yw dogfennau (neu gopïau o ddogfennau) sy’n ymwneud â rhedeg busnes gan unrhyw berson;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur, unrhyw dir ac unrhyw ddull trafnidiaeth;

  • ystyr “mangre busnes” (“business premises”), mewn cysylltiad â pherson, yw mangre (neu unrhyw ran o fangre) y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn cael ei defnyddio mewn cysylltiad â rhedeg busnes gan y person neu ar ran y person.]

[F16(2)At ddibenion y diffiniad o “mangre” yn is-adran (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi, mae “tir” yn cynnwys deunydd (o fewn ystyr DTGT) y mae gan ACC sail dros gredu ei fod wedi ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu o dan wyneb y tir.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 194(2)

I18A. 111 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/33, ergl. 2(c)

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources