Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 19LL+CRHYDDHAD I GWMNÏAU BUDDSODDI PENAGORED

This schedule has no associated Explanatory Notes

Rhyddhad rhag treth trafodiadau tir: trosi ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig yn gwmni buddsoddi penagoredLL+C

1(1)Mae trafodiad tir sy’n trosglwyddo unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaethau ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig (“yr ymddiriedolaeth darged”) i gwmni buddsoddi penagored (“y cwmni caffael”) wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r amodau a nodir yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod y trosglwyddiad yn rhan o drefniant ar gyfer trosi ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig yn gwmni buddsoddi penagored, ac o ganlyniad i hynny, daw’r holl eiddo sydd ar gael gan yr ymddiriedolaeth darged yn holl eiddo’r cwmni caffael,

(b)bod yr holl unedau yn yr ymddiriedolaeth darged yn cael eu diddymu o dan y trefniant,

(c)bod y gydnabyddiaeth o dan y trefniant ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau neu’n cynnwys dyroddi cyfranddaliadau (“cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth”) yn y cwmni caffael i’r personau a oedd yn dal yr unedau a ddiddymwyd,

(d)bod cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth yn cael eu dyroddi i’r personau hynny yn ôl y gyfran o’r unedau a ddiddymwyd yr oeddent yn eu dal, ac

(e)nad yw’r gydnabyddiaeth o dan y trefniant yn cynnwys unrhyw beth arall, ar wahân i ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth darged gan y cwmni caffael.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 19 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 19 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad rhag treth trafodiadau tir: cyfuno ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig gyda chwmni buddsoddi penagoredLL+C

2(1)Mae trafodiad tir sy’n trosglwyddo unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaethau ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig (“yr ymddiriedolaeth darged”) i gwmni buddsoddi penagored (“y cwmni caffael”) wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r amodau a nodir yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni.

(2)Yr amodau yw—

(a)bod y trosglwyddiad yn rhan o drefniant ar gyfer cyfuno ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig gyda chwmni buddsoddi penagored, ac o ganlyniad i hynny, daw’r holl eiddo sydd ar gael gan yr ymddiriedolaeth darged yn rhan o eiddo’r cwmni caffael (ond nid ei holl eiddo),

(b)bod yr holl unedau yn yr ymddiriedolaeth darged yn cael eu diddymu o dan y trefniant,

(c)bod y gydnabyddiaeth o dan y trefniant ar ffurf dyroddi cyfranddaliadau neu’n cynnwys dyroddi cyfranddaliadau (“cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth”) yn y cwmni caffael i’r personau a oedd yn dal yr unedau a ddiddymwyd,

(d)bod cyfranddaliadau’r gydnabyddiaeth yn cael eu dyroddi i’r personau hynny yn ôl y gyfran o’r unedau a ddiddymwyd yr oeddent yn eu dal, ac

(e)nad yw’r gydnabyddiaeth o dan y trefniant yn cynnwys unrhyw beth arall, ar wahân i ysgwyddo neu gyflawni rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth darged gan y cwmni caffael.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 19 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 19 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

DehongliLL+C

3(1)At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “yr holl eiddo sydd ar gael gan yr ymddiriedolaeth darged” yw’r holl eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaethau’r ymddiriedolaeth darged, ar wahân i unrhyw eiddo a gedwir at ddiben cyflawni rhwymedigaethau ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth darged (ac mae i “ymddiriedolaeth darged” yr ystyr a roddir gan baragraff 1 neu 2, yn ôl y digwydd).

(2)At ddibenion yr Atodlen hon, ystyrir bod pob un o rannau cynllun ambarél (ac nid y cynllun yn ei gyfanrwydd) yn ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig; ac mae gan “cynllun ambarél” yr un ystyr ag “umbrella scheme” yn adran 619 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4).

(3)Yn yr Atodlen hon, ystyr “ymddiriedolaeth unedau awdurdodedig” (“authorised unit trust”) yw cynllun ymddiriedolaeth unedau y mae gorchymyn o dan adran 243 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (p. 8) mewn grym ar ei gyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 19 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I6Atod. 19 para. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3