Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 20LL+CRHYDDHAD AR GYFER CAFFAELIADAU GAN GYRFF CYHOEDDUS A CHYRFF IECHYD

This schedule has no associated Explanatory Notes

Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol sy’n ymwneud â chyrff cyhoeddusLL+C

1(1)Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo wrth ad-drefnu, o ganlyniad i ad-drefnu, neu mewn cysylltiad ag ad-drefnu, y rhoddir effaith iddo gan neu o dan ddeddfiad, wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r prynwr a’r gwerthwr ill dau yn gyrff cyhoeddus.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod trafodiad tir nad ymrwymir iddo fel a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei ryddhau rhag treth—

(a)os rhoddir effaith i’r trafodiad gan ddeddfiad a bennir yn y rheoliadau, neu oddi tano, a

(b)os yw naill ai’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff cyhoeddus.

(3)Ystyr “ad-drefnu” yw newidiadau sy’n golygu—

(a)sefydlu, diwygio neu ddiddymu un corff cyhoeddus neu ragor,

(b)creu, addasu neu ddiddymu swyddogaethau (a gyflawnir, neu sydd i’w cyflawni) gan un corff cyhoeddus neu ragor, neu

(c)trosglwyddo swyddogaethau o un corff cyhoeddus i un arall.

(4)Mae’r canlynol yn gyrff cyhoeddus at ddibenion y paragraff hwn—

(a)un o Weinidogion y Goron;

(b)Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru;

(c)Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(d)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);

[F1(da)cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;]

(e)cyngor sir neu gyngor dosbarth a gyfansoddwyd o dan adran 2 o’r Ddeddf honno;

(f)cyngor un o fwrdeistrefi Llundain;

(g)unrhyw awdurdod arall sy’n awdurdod cynllunio lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

(h)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) neu adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41);

(i)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

(j)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) neu adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41);

F2(k). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(l)person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(5)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at gorff cyhoeddus yn cynnwys—

(a)cwmni y mae corff o’r fath yn berchen ar ei holl gyfranddaliadau;

(b)is-gwmni dan berchnogaeth lwyr cwmni o’r fath.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 20 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 20 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff penodol y gwasanaeth iechydLL+C

2Mae trafodiad tir wedi ei ryddhau rhag treth os yw’r prynwr yn unrhyw un o’r canlynol⁠—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

(b)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o’r Ddeddf honno;

(c)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o’r Ddeddf honno;

(d)person a bennwyd at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 20 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 20 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3