Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017

(a gyflwynir gan adran 30(1))

ATODLEN 21LL+CRHYDDHAD PRYNU GORFODOL A RHYDDHAD RHWYMEDIGAETHAU CYNLLUNIO

This schedule has no associated Explanatory Notes

Rhyddhad i bryniant gorfodol sy’n hwyluso datblygiadLL+C

1(1)Mae pryniant gorfodol sy’n hwyluso datblygiad wedi ei ryddhau rhag treth.

(2)Yn y paragraff hwn—

  • mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) (gweler adran 55 o’r Ddeddf honno);

  • ystyr “pryniant gorfodol sy’n hwyluso datblygiad (“compulsory purchase facilitating development”) yw trafodiad tir y mae’r prynwr, oddi tano, yn caffael buddiant trethadwy yn unol â gorchymyn prynu gorfodol a wneir gan y prynwr at ddiben hwyluso datblygiad gan berson arall.

(3)At ddibenion is-baragraff (2), nid oes wahaniaeth sut y rhoddir effaith i’r caffaeliad (fel bod y ddarpariaeth yn gymwys pan roddir effaith i’r caffaeliad drwy gytundeb).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 21 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I2Atod. 21 para. 1 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3

Rhyddhad am gydymffurfio â rhwymedigaethau cynllunioLL+C

2(1)Mae trafodiad tir yr ymrwymir iddo er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gynllunio neu addasiad i rwymedigaeth gynllunio wedi ei ryddhau rhag treth os yw—

(a)y rhwymedigaeth gynllunio neu’r addasiad yn orfodadwy yn erbyn y gwerthwr,

(b)y prynwr yn gorff cyhoeddus, ac

(c)y dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith o fewn y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad yr ymrwymwyd i’r rhwymedigaeth gynllunio neu y’i haddaswyd.

(2)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “addasiad” (“modification”) i rwymedigaeth gynllunio yw addasiad a grybwyllir yn adran 106A(1) (addasu a chyflawni rhwymedigaethau cynllunio) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8);

  • ystyr “rhwymedigaeth gynllunio” yw rhwymedigaeth gynllunio o fewn yr ystyr a roddir i “planning obligation” gan adran 106 o’r Ddeddf honno yr ymrwymir iddi yn unol ag is-adran (9) o’r adran honno (materion sy’n ymwneud â ffurf a gweithrediad yr offeryn sy’n rhoi effaith i’r rhwymedigaeth gynllunio).

(3)Mae’r canlynol yn gyrff cyhoeddus at ddibenion y paragraff hwn—

(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);

(b)Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);

(c)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o’r Ddeddf honno;

(d)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o’r Ddeddf honno;

(e)person a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 21 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 81(2)

I4Atod. 21 para. 2 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/34, ergl. 3