Adran 99 - Pwerau mynediad
199.Mae’r adran hon yn galluogi cwnstabl neu swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i fangre (ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd, gweler adran 100 am ragor o wybodaeth) ar unrhyw adeg resymol, os oes seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 95 wedi ei chyflawni a bod mynd i mewn yn angenrheidiol er mwyn canfod a yw trosedd o’r fath wedi digwydd ai peidio. Mae’r cyfeiriadau yn y darpariaethau gorfodi hyn at gwnstabl yn adlewyrchu natur sensitif y drosedd, y gallai ymchwilio iddi ei gwneud yn ofynnol cael tystiolaeth ffotograffig a/neu archwiliadau personol. Nid yw’r pŵer hwn i fynd i mewn i fangre yn galluogi’r cwnstabl neu’r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn drwy rym. Os yw’n ofynnol, rhaid i swyddog awdurdodedig ddangos tystiolaeth o’i awdurdodiad gan yr awdurdod lleol cyn mynd i mewn i’r fangre. Mae’r pŵer i fynd i mewn i fangre (fel y’i darperir gan adrannau 100 i 103) yn cwmpasu unrhyw fan ac unrhyw gerbyd (ac eithrio awyren a hofrenfad), stondin neu strwythur symudol.
200.Mae adran 67(9) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 yn darparu bod rhaid i swyddogion awdurdodedig yr awdurdod gorfodi, wrth weithredu yng nghwrs eu swyddogaethau gorfodi, roi sylw i’r cod ymarfer perthnasol a wnaed o dan y Ddeddf honno. Felly, rhaid i swyddogion awdurdodedig roi sylw i God Ymarfer B Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 wrth arfer eu swyddogaethau gorfodi.