Crynodeb a’R Cefndir
4.Hon yw’r drydedd o blith tair eitem o ddeddfwriaeth gysylltiedig. Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (DCRhT) oedd y cyntaf o’r darnau hynny o ddeddfwriaeth ac mae’n gosod y fframwaith cyfreithiol sy’n angenrheidiol ar gyfer y gyfundrefn o drethi datganoledig yng Nghymru, sy’n cwmpasu’r trefniadau ar gyfer casglu a rheoli trethi, gan gynnwys sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Prif swyddogaeth ACC fydd casglu a rheoli trethi datganoledig Cymru. Mae DCRhT hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch:
y camau y gellir eu cymryd mewn perthynas â ffurflenni treth, gan gynnwys diwygiadau, ymholiadau ac asesiadau;
dyletswyddau personau sy’n dychwelyd ffurflen dreth o ran cadw cofnodion;
pwerau ymchwilio ACC;
cosbau a llog;
talu a gorfodi;
adolygiadau ac apelau; ac
pwerau sy’n ymwneud ag ymchwilio i droseddau.
5.Yr ail eitem o ddeddfwriaeth drethi yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (DTTT). Mae’r Ddeddf DTTT yn darparu y bydd Treth Trafodiadau Tir yn disodli Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru. TTT yw’r cyntaf o’r trethi datganoledig i ddod yn rhan o gylch gwaith ACC. Mae DTTT hefyd yn gwneud diwygiadau i DCRhT, gan gynnwys diwygiadau sy’n berthnasol i’r Ddeddf hon. Mae’r diwygiadau hynny’n cynnwys diwygiadau ym meysydd gohirio adennill trethi datganoledig; cosbau taliadau hwyr a llog taliadau hwyr; a chyflwyno Rheol Gyffredinol yn Erbyn Osgoi Trethi mewn perthynas â’r holl drethi datganoledig.
6.Mae’r Ddeddf hon yn darparu ar gyfer sefydlu Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), y rhagwelir y bydd yn disodli Treth Dirlenwi (TD) yng Nghymru o fis Ebrill 2018. Nodwyd y cyd-destun a’r cefndir i’r Ddeddf hon ym Mhennod 1 o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, Datblygu Treth Gwarediadau Tirlenwi, a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2015 (1).
7.Yn gryno, mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i godi treth Gymreig ar warediadau tirlenwi yng Nghymru. At hynny, mae’n:
sefydlu TGT ac yn nodi pryd y gwneir gwarediad trethadwy;
darparu’r fframwaith statudol ar gyfer cyfrifoldebau trethdalwyr i ddychwelyd ffurflenni treth a chyfrifo eu rhwymedigaeth dreth;
nodi’r rhyddhadau a’r esemptiadau sydd ar gael rhag y dreth sydd i’w chodi, ac yn grymuso Gweinidogion Cymru i greu credydau treth drwy reoliadau;
nodi manylion y deunyddiau a’r cymysgeddau o ddeunyddiau a gaiff fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd dreth is os bodlonir amodau penodol;
nodi’r cosbau am beidio â chydymffurfio;
sefydlu trefn lle caniateir codi TGT ar warediad deunydd fel gwastraff a wneir mewn man heblaw safle tirlenwi awdurdodedig pe bai wedi bod yn ofynnol cael trwydded amgylcheddol ar gyfer y gwarediad o dan sylw (“gwarediad heb ei awdurdodi”);
grymuso cyrff a enwir i rannu gwybodaeth gydag ACC i’w gynorthwyo i arfer ei swyddogaethau;
ehangu’r pwerau ymchwilio a roddir i ACC gan DCRhT fel y gall ACC gyflawni’r mathau o ymchwiliadau a all fod yn angenrheidiol er mwyn casglu TGT;
gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, wrth iddynt arfer eu pwerau neu eu dyletswyddau o dan y Ddeddf hon, i roi sylw i’r amcan o leihau gwarediadau tirlenwi yng Nghymru; a
gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a’i gyhoeddi.