Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Pennod 2 – Gwarediadau Trethadwy
Adrannau 3 i 5 – Gwarediadau trethadwy; gwaredu deunydd drwy dirlenwi; a safleoedd tirlenwi awdurdodedig a thrwyddedau amgylcheddol

13.Mae’r adrannau hyn yn nodi beth yw gwarediad trethadwy. Mae gwarediad trethadwy yn digwydd pan fydd yr holl amodau a ganlyn wedi eu bodloni:

a.

bod deunydd yn cael ei waredu drwy dirlenwi (a ddiffinnir gan adran 4 fel pan fo’n cael ei ddodi ar wyneb y tir neu o dan wyneb y tir);

b.

bod y tir lle gwneir y gwarediad:

  • yn safle tirlenwi awdurdodedig (fel y’i diffinnir yn adran 5(1)), neu

  • nad yw’n safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath, ond bod trwydded amgylcheddol (fel y’i diffinnir yn adran 5(2)) yn ofynnol ar gyfer y gwarediad;

c.

bod y deunydd yn cael ei waredu fel gwastraff (fel y diffinnir hynny yn adrannau 6 a 7); a

d.

bod y gwarediad yn cael ei wneud yng Nghymru.

14.Caiff rheoliadau addasu ystyr gwaredu deunydd drwy dirlenwi fel y’i nodir yn adran 4.

Adran 6 – Gwaredu deunydd fel gwastraff

15.Effaith yr adran hon yw bod gwarediad deunydd yn warediad o wastraff os yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad yn bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu. Gellir dod i’r casgliad y bwriedir bwrw’r deunydd o’r neilltu ar sail amgylchiadau ei waredu, ac yn benodol ar sail y ffaith bod y deunydd wedi ei ddodi mewn man gwarediadau tirlenwi, megis gwagle a ddefnyddir yn gyffredinol ar gyfer gwarediadau tirlenwi ar safle. Un yn unig o’r pedwar amod y mae’n rhaid ei fodloni er mwyn i atebolrwydd i dreth godi (gweler adran 3) yw’r bwriad i fwrw o’r neilltu (pa un a ddeuir i gasgliad ynghylch y bwriad hwnnw ai peidio).

16.Nid yw’r ffaith bod person yn gwneud defnydd dros dro neu ddefnydd atodol o ddeunydd a ddodir mewn man gwarediadau tirlenwi, neu’n cael budd ohono (neu o unrhyw beth, megis nwy, a allyrrir ohono), yn rhwystro’r person hwnnw, o anghenraid, rhag bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu. Mae is-adran (3) yn egluro y gall person fwriadu bwrw deunydd o’r neilltu hyd yn oed os yw’n cael ei ddefnyddio. Mewn achos o’r fath (a phan fodlonir yr amodau eraill yn y adran 3), mae’r dreth i’w chodi ar waredu’r deunydd hwnnw.

17.Caiff rheoliadau addasu ystyr gwaredu deunydd fel gwastraff fel y’i nodir yn adran 6.

Adran 7 – Gwaredu deunydd fel gwastraff: person sy’n gyfrifol am warediad

18.Mae’r adran hon yn nodi’r person sy’n gyfrifol am warediad at ddibenion adran 6. Bwriad y person hwn sy’n berthnasol wrth benderfynu a yw gwarediad yn warediad deunydd fel gwastraff.

19.Mae’r adran hon yn darparu mai gweithredwr y safle tirlenwi yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad, fel arfer, os caiff ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig. Os yw’r gweithredwr yn bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu, ac y gwneir y gwarediad gyda chaniatâd y gweithredwr, bydd y gwarediad yn warediad deunydd fel gwastraff. Fodd bynnag, os caiff gwarediad ei wneud ar y safle heb ganiatâd gweithredwr y safle tirlenwi, y person sy’n gwaredu’r deunydd yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad. Os yw’r person hwnnw’n bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu, bydd y gwarediad yn warediad deunydd fel gwastraff, ni waeth beth yw bwriad y gweithredwr. Mae adran 13 (personau y mae’r dreth i’w chodi arnynt) yn ei gwneud yn glir y bydd gweithredwr safle tirlenwi yn agored i dalu treth ar warediad a wneir ar y safle, hyd yn oed os person arall a wnaeth y gwarediad. Felly, os gwneir gwarediad y tu allan i oriau arferol, heb ganiatâd gweithredwr y safle tirlenwi, gan berson a oedd yn bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu, gweithredwr y safle tirlenwi fydd yn agored i dalu’r dreth ar y gwarediad.

20.Os gwneir gwarediad heb ei awdurdodi (hynny yw, gwarediad trethadwy a wneir yn rhywle heblaw safle tirlenwi awdurdodedig – gweler adran 3) y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n gwaredu’r deunydd. Mae Rhan 4 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer codi treth mewn perthynas â gwarediadau heb eu hawdurdodi.

Adran 8 – Gweithgarwch safle tirlenwi i’w drin fel gwarediad trethadwy

21.Mae’r adran hon yn rhestru’r mathau o weithgarwch safle tirlenwi (fel y’i diffinnir yn adran 96) sydd i’w categoreiddio fel gweithgarwch safle tirlenwi penodedig, ac sydd felly’n cael eu trin fel gwarediadau trethadwy. Os yw gweithgarwch yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig fel y’i rhestrir yn adran 8(3)(a) i (i), ac y caiff ei gyflawni yng Nghymru, caiff ei drin fel gwarediad trethadwy ni waeth pa un a fyddai’r gwarediad, fel arall, wedi bodloni’r amodau a nodir yn adran 3 ai peidio. Mae’r adran hon hefyd yn darparu bod y gwarediad i’w drin fel ei fod yn cael ei gyflawni pan ddefnyddir deunydd am y tro cyntaf mewn perthynas â gweithgarwch penodedig. Felly, er enghraifft, byddai’r adeg pan ddefnyddir deunydd am y tro cyntaf i greu ffordd dros dro yn achosi gwarediad trethadwy, a phe bai deunydd pellach yn cael ei ddefnyddio wedi hynny i gynnal a chadw neu atgyweirio’r ffordd honno, byddai’r deunydd hwnnw’n destun gwarediad trethadwy ar y dyddiad y’i defnyddir.

22.Mae adran 8(3)(e) yn cyfeirio at ddefnyddio deunydd i orchuddio man gwarediadau tirlenwi yn ystod cyfnod pan fo gwarediadau tirlenwi yn dod i ben dros dro. Adwaenir hyn yn aml fel gorchudd dyddiol, a chaiff ei ddefnyddio i atal sbwriel a phlâu.

23.Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ychwanegu, addasu neu dynnu ymaith weithgarwch safle tirlenwi penodedig. Er bod y rhestr gyfredol yn adran 8(3) yn cynnwys gweithgarwch a gyflawnir ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig, gallai rheoliadau ddarparu i weithgarwch a gyflawnir ar safleoedd heb eu hawdurdodi fod yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig hefyd. Mae hyn yn darparu hyblygrwydd ychwanegol i fynd i’r afael ag unrhyw ymgais i osgoi talu treth gan y rheini sy’n gyfrifol am waredu gwastraff heb ei awdurdodi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources