Pennod 2 – Y Weithdrefn ar gyfer Codi’r Dreth
Adran 47 – Yr amod ar gyfer codi treth
87.Mae is-adran (1) yn nodi o dan ba amgylchiadau y bydd person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth, sy’n berthnasol i ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol a hysbysiad codi treth. Mae person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth os gwnaeth y gwarediad neu os achosodd neu y caniataodd y gwarediad trethadwy, a hynny o fwriad.
88.Mae is-adran (2) yn datblygu ar is-adran (1)(b) ac yn darparu, oni bai bod person yn gallu bodloni ACC neu (ar apêl) y tribiwnlys fel arall, y caiff ei drin fel pe bai wedi achosi neu ganiatáu i’r gwarediad gael ei wneud, a hynny o fwriad, os oedd y person, pan wnaed y gwarediad:
yn rheoli cerbyd modur neu drelar y gwnaed y gwarediad ohono, neu mewn sefyllfa i’w reoli; ac
yn berchennog, yn lesddeiliad neu’n feddiannydd y tir lle gwnaed y gwarediad.
89.Wrth ystyried a yw person o’r fath wedi gwrthdroi’r rhagdybiaeth ei fod yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth, rhagwelir y gall ACC neu’r tribiwnlys ystyried:
a wnaeth y person ymdrech resymol i rwystro dympio’r gwastraff ar ei dir (e.e. ffensys cadarn);
a wnaeth y person ymdrech resymol i symud y gwastraff (e.e. cysylltu â chludwr gwastraff cofrestredig i’w symud);
a fu’r person yn cynorthwyo gydag unrhyw gamau amgylcheddol (posibl) yn erbyn y troseddwyr (e.e. cysylltu â’r heddlu, yr awdurdod lleol, neu Gyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r gwastraff, a/neu’n helpu gyda’u hymholiadau);
nad oedd y person yn gwybod am y gwastraff, ac na fyddai’n rhesymol iddo wybod amdano (e.e. o ystyried ymhle y cafodd y gwastraff ei waredu, maint yr ystâd ac ati);
os oedd y person yn wael, neu fel arall yn analluog.
90.Mae is-adran (3) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch yr amgylchiadau pan fo person i’w drin (neu nad yw i’w drin) fel pe bai’n bodloni’r amod ar gyfer codi’r dreth, a materion sydd i’w hystyried wrth bennu a yw person yn bodloni’r amod hwnnw ai peidio.
Adran 48 – Pŵer i ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol
91.Caiff ACC ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol i berson os yw’n ymddangos i ACC bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud y tu allan i safle tirlenwi awdurdodedig a bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth ar y gwarediad hwnnw (hynny yw, bod y person wedi achosi neu ganiatáu gwneud y gwarediad, a hynny o fwriad). Caiff yr hysbysiad rhagarweiniol ymwneud â mwy nag un gwarediad trethadwy. Rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a restrir yn is-adran (2) a rhoi gwybod i’r person am y materion a restrir yn is-adran (3). Ni chaniateir dyroddi hysbysiad rhagarweiniol fwy na 4 blynedd ar ôl i ACC ddod i wybod am y gwarediad trethadwy, a dim mwy nag 20 mlynedd ar ôl yr adeg y mae ACC yn credu i’r gwarediad trethadwy gael ei wneud, beth bynnag.
Adrannau 49 a 50 – Pŵer i ddyroddi hysbysiad codi treth ar ôl dyroddi hysbysiad rhagarweiniol a heb ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol
92.Ar ôl i gyfnod o 45 o ddiwrnodau o leiaf fynd heibio ers dyroddi hysbysiad rhagarweiniol mewn perthynas â gwarediad, ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig gan y sawl a gafodd yr hysbysiad rhagarweiniol, rhaid i ACC naill ai ddyroddi:
hysbysiad codi treth i’r person mewn perthynas â’r gwarediad; neu
hysbysiad i’r person sy’n datgan nad yw’n bwriadu dyroddi hysbysiad codi treth mewn perthynas â’r gwarediad.
93.Dim ond os yw’n fodlon bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud y tu allan i safle tirlenwi awdurdodedig y caiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth. Rhaid iddo hefyd fod yn fodlon bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn perthynas â’r gwarediad. Rhaid i hysbysiad codi treth gynnwys y materion a restrir yn 49(5).
94.Caiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth heb iddo fod wedi dyroddi hysbysiad rhagarweiniol os yw’n meddwl, yn ogystal â bod wedi ei fodloni ynghylch y materion uchod, ei bod yn debygol y caiff treth ei cholli os yw ACC yn dyroddi hysbysiad rhagarweiniol (oherwydd, er enghraifft, y posibilrwydd y gallai’r person fynd i ddwylo’r gweinyddwyr). Yn yr amgylchiadau hynny, rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys rhesymau ACC dros ddyroddi hysbysiad codi treth heb iddo fod wedi dyroddi hysbysiad rhagarweiniol.
Adran 51 – Talu treth
95.Mae’r adran hon yn gosod rhwymedigaeth ar y sawl sy’n cael hysbysiad codi treth i dalu’r dreth y mae’r hysbysiad hwnnw’n ei godi o fewn 30 o ddiwrnodau. Pan gaiff hysbysiadau codi treth eu dyroddi i fwy nag un person mewn cysylltiad â’r un gwarediad trethadwy, mae’r holl bersonau hynny’n atebol ar y cyd ac yn unigol (hynny yw, bydd ACC yn gallu adennill treth gan bob un ohonynt neu gan unrhyw un neu ragor ohonynt).
Adran 52 – Pŵer i wneud darpariaeth bellach
96.Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol (gan gynnwys drwy ddiwygio deddfiad) ynghylch y gweithdrefnau ar gyfer dyroddi hysbysiadau rhagarweiniol a hysbysiadau codi treth; talu swm o dreth y mae hysbysiad codi treth yn ei godi; ac unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â chodi treth neu dalu swm o dreth o dan y bennod hon, neu’n deillio o hynny.
Adran 53 – Llog taliadau hwyr
97.Mae’r adran hon yn diwygio adran 157 o DCRhT i sicrhau y gellir codi llog taliadau hwyr pan na fo treth sy’n ddyledus o dan hysbysiad codi treth, a ddyroddir o dan adran 49 neu 50, wedi ei thalu.