Rhan 6 – Darpariaethau Terfynol
Adran 93 – Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.
171.Mae adran 93 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed y maent yn meddwl ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani, mewn cysylltiad â darpariaeth o’r fath, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi.
172.Mae rheoliadau a wneir o dan adran 93 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol, ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r rheoliadau yn gwneud darpariaeth a all greu neu gynyddu treth sydd i’w chodi. Os gall treth fod i’w chodi o ganlyniad i reoliadau er na fyddai fel arall, neu os gall rheoliadau gynyddu swm y dreth sydd i’w chodi, bydd y rheoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol. Nodir hyn yn adran 94.
173.O ystyried na ellir gwneud y rheoliadau o dan y weithdrefn negyddol o dan adran 93 oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad oes potensial iddynt effeithio ar atebolrwydd person i dreth, mae’r weithdrefn hon ond yn debygol o gael ei defnyddio mewn amgylchiadau cyfyngedig yn unig: er enghraifft pan fo angen gwneud diwygiad canlyniadol i’r wybodaeth sy’n ofynnol ar anfoneb dirlenwi. I’r gwrthwyneb, gwneir rheoliadau o dan adran 93 o dan y weithdrefn gadarnhaol os oes potensial i unrhyw ddarpariaeth o fewn y rheoliadau hynny greu neu gynyddu rhwymedigaeth dreth person, er enghraifft, darpariaeth a allai effeithio ar hawlogaeth person i un o’r rhyddhadau neu’r esemptiadau.
Adrannau 94 i 98 – Rheoliadau o dan y Ddeddf hon: cyffredinol; rheoliadau sy’n newid cyfraddau treth; dehongli; dod i rym; ac enw byr
174.Mae adrannau 94 a 95 yn nodi’r gweithdrefnau sy’n gymwys i arfer yr amrywiol bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir gan y Ddeddf. Mae adran 96 yn rhoi ystyr amrywiol dermau a ddefnyddir yn y Ddeddf. Nodir y sefyllfa mewn perthynas â chychwyn darpariaethau’r Ddeddf yn adran 97 ac mae adran 98 yn nodi mai enw byr y Ddeddf yw Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.