Y prif ddarpariaethau
7.Mae’r Ddeddf yn gwneud y darpariaethau a ganlyn:
Darpariaeth i ddiddymu’r hawl i brynu a’r hawl i brynu a gadwyd. Ni ellir dod â’r adran sy’n diddymu’r hawliau hyn i rym yn gynharach na blwyddyn ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.
Darpariaeth i ddiddymu’r hawl i gaffael. Ni ellir dod â’r adran sy’n diddymu’r hawl hon i rym yn gynharach na blwyddyn ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.
Darpariaeth i gyfyngu ar allu tenant i arfer yr hawl i brynu, yr hawl i brynu a gadwyd a’r hawl i gaffael nes bod yr hawliau hynny wedi eu diddymu, os yw tenant yn symud i gartref sy’n rhan o stoc tai cymdeithasol newydd. Caiff yr adrannau sy’n cyfyngu ar arfer yr hawliau hyn eu dwyn i rym ddau fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol ac maent yn ddarostyngedig i eithriadau penodol. Eu bwriad yw annog landlordiaid cymdeithasol i adeiladu neu gaffael cartrefi newydd ar gyfer eu rhentu hyd yn oed cyn i’r hawliau gael eu diddymu’n llwyr.