Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Rhagfyr 2017 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018. Fe’u lluniwyd gan Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

2.Ni fwriedir i’r Nodiadau Esboniadol fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf. Os ymddengys nad oes angen rhoi esboniad neu sylw ar ddarpariaeth unigol o’r Ddeddf, nis rhoddir.

3.Yn y Nodiadau Esboniadol hyn, ystyr ‘Deddf 1996’ yw Deddf Addysg 1996 ac ystyr ‘Deddf 2000’ yw Deddf Dysgu a Sgiliau 2000. Mae cyfeiriadau at awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir a sefydliadau yn y sector addysg bellach yn gyfeiriadau at y rheini yng Nghymru oni nodir fel arall. Mae cyfeiriadau at adrannau a Rhannau yn gyfeiriadau at yr adrannau hynny a’r Rhannau hynny o’r Ddeddf, oni nodir fel arall. Mae byrfoddau cyffredin eraill a ddefnyddir yn y nodiadau hyn wedi eu nodi o dan ‘Trosolwg cyffredinol o’r Ddeddf’.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources