Nodiadau Esboniadol i Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 Nodiadau Esboniadol

Adran 74 - Rheoliadau ynghylch apelau a cheisiadau

163.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n cynnwys darpariaeth bellach ynghylch apelau a cheisiadau i’r Tribiwnlys o dan Ran 2, gan gynnwys, er enghraifft, ynghylch materion eraill sy’n ymwneud â CDU y gellir dwyn apêl yn eu herbyn, ynghylch gwneud apelau neu geisiadau a phenderfynu arnynt, rhoi pwerau pellach i’r Tribiwnlys wrth benderfynu ar apêl neu gais, ac apelau neu geisiadau heb wrthwynebiad.

Back to top