Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Atodlen 1 - Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol a Diddymiadau

206.Mae paragraffau 1-24 o Atodlen 1, fel y bo’n briodol, yn diddymu darpariaethau mewn deddfwriaeth sylfaenol sydd wedi eu disodli gan ddarpariaethau a gynhwysir yn y Ddeddf hon (gan gynnwys, er enghraifft, y cyfan o Bennod 1 o Ran 4 (plant yng Nghymru ag anghenion addysgol arbennig) o DDeddf 1996), yn disodli cyfeiriadau at dermau a wneir yn ddarfodedig gan y Ddeddf hon ac yn eu lle yn rhoi’r termau y mae’n eu cyflwyno (er enghraifft, rhoi cyfeiriadau at anghenion dysgu ychwanegol yn lle anghenion addysgol arbennig), ac yn rhoi cyfeiriadau at ddarpariaethau cyfatebol yn y Ddeddf yn lle cyfeiriadau at ddarpariaethau sydd wedi eu diddymu neu eu diwygio.

207.Yn ogystal, mae’r Atodlen yn gwneud y mân ddiwygiadau a ganlyn.

208.Mewn perthynas â’r darpariaethau sy’n ymwneud â gorchmynion mynychu’r ysgol yn Neddf 1996, mae paragraff 4, is-baragraffau (14), (15), (17) a (18), yn addasu’r prosesau perthnasol fel bod y dewis cyfatebol mwyaf priodol yng nghyd-destun gorchmynion o’r fath yn cael ei roi yn lle cyfeiriad at ddatganiadau anghenion addysgol arbennig, hynny yw cynlluniau datblygu unigol sy’n enwi ysgol benodol (ni fydd pob cynllun datblygu unigol yn enwi ysgol benodol).

209.Mae paragraff 4, is-baragraff (30) yn diwygio Deddf 1996 fel y bydd offeryn statudol sydd i gael ei wneud sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 562J(4) o DDeddf 1996 ac adran 39(2) (y mae’r ddau ohonynt yn ymwneud ag ystyr “awdurdod cartref” mewn cysylltiad â phersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth) yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yn hytrach na’r weithdrefn penderfyniad negyddol.

210.Mae is-baragraff (30) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod rheoliadau sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch ystyr cyfeiriadau yn Neddf 1996 at berson sydd “yn ardal” awdurdod lleol yng Nghymru (mewn rheoliadau o dan is-adran (3C) o adran 579 o’r Ddeddf honno fel y’i mewnosodir gan adran 95(c)) yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol yn hytrach na’r weithdrefn penderfyniad negyddol.

211.Mae paragraff 5 yn diwygio adran 333(5) o DDeddf 1996 fel nad yw’n ofynnol cael cytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol mwyach ar gyfer rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â TAAAC. Darpariaeth drosiannol yw hon na fydd ei hangen pan fydd Rhan 3 (Tribiwnlys Addysg Cymru) yn dod i rym. Mae paragraff 6(t) felly yn darparu i baragraff 5 gael ei hepgor pan fydd adran 333(5) o DDeddf 1996 wedi ei diddymu o dan baragraff 4(9).

212.Mae paragraff 9, is-baragraff (2) yn mewnosod dyletswydd yn adran 153(2) o Ddeddf Addysg 2002 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r trefniadau y mae darparwyr addysg feithrin nas cynhelir wedi eu cyllido odanynt gan awdurdodau lleol gynnwys gofyniad ar y darparwyr i roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol yn y cod ADY. Mae adran 153 eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y darparwyr addysg feithrin hynny yn bodloni’r gofynion a osodir arnynt gan yr awdurdod lleol.

213.Mae paragraff 12 yn mewnosod cyfeiriad at adran 61 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae hyn yn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng y system ADY yng Nghymru a’r system anghenion addysgol arbennig yn Lloegr mewn perthynas â’r pŵer i ddarparu ar gyfer archwiliad meddygol a thriniaeth feddygol disgyblion sy’n mynychu sefydliadau addysgol ac eithrio ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol.

214.Mae paragraff 14, is-baragraff (4) yn rhoi cyfeiriad at ‘anhawster dysgu’ yn lle’r term ‘anghenion addysgol arbennig’ yn adran 14 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sydd â’r effaith o’i gwneud yn ofynnol i anawsterau dysgu yn gyffredinol gael eu hystyried mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â thynnu’n ôl drefniadau teithio.

215.Mae paragraff 19, is-baragraff (5)(f) yn mewnosod paragraff newydd yn Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn ei gwneud yn glir ar wyneb Deddf Cydraddoldeb 2010 y caiff unrhyw barti i drafodion ar hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd i’r Tribiwnlys Addysg apelio i’r Uwch Dribiwnlys ar unrhyw bwynt cyfreithiol sy’n deillio o benderfyniad gan y Tribiwnlys Addysg. Mae is-baragraffau (g) a (h) yn rhoi paragraff 6A newydd yn lle paragraff 6A presennol ac yn mewnosod paragraff newydd 6F yn Atodlen 17 sy’n delio yn eu tro â chyfeillion achos a galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol. Mae hyn yn sicrhau bod y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwneud hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd i’r Tribiwnlys Addysg yn parhau i fod yn gydnaws â’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwneud apelau i’r Tribiwnlys Addysg o dan y Ddeddf.

216.Mae paragraff 23, is-baragraff (3) yn diwygio adran 43(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 fel nad yw ysgolion yng Nghymru o dan ddyletswydd i dderbyn plentyn am fod yr ysgol wedi ei henwi mewn Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal (cynllun AIG). Mae paragraff 21, is-baragraff (5) yn diwygio adran 83(6) o’r Ddeddf honno fel bod i’r diffiniad o “yn ardal” (“in the area of”) awdurdod lleol a gynhwysir yn adran ddehongli’r Ddeddf honno yr un ystyr â’r term hwnnw yn adran 579 o DDeddf 1996 (fel y’i diwygir gan adran 95 o’r Ddeddf hon).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources