Search Legislation

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaeth

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 2 Chapter 2 Crossheading Darpariaeth-ddysgu-ychwanegol-ar-gyfer-personau-syn-cael-eu-cadwn-gaeth:

  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/373 by S.I. 2021/735 art. 2
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/373 by S.I. 2021/938 art. 2
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/381 by S.I. 2021/516 art. 2
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/381 by S.I. 2021/516 art. 3
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/381 by S.I. 2021/735 art. 3
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/383 by S.I. 2021/735 art. 4
  • specified provision(s) coming into force by S.I. 2021/381 art. 2 3 (This commencement not applied to legislation.gov.uk. S.I. 2021/381 revoked (12.8.2021) by S.I. 2021/938, art. 3)
  • specified provision(s) coming into force by S.I. 2021/383 art. 2 3 (This commencement not applied to legislation.gov.uk. S.I. 2021/383 revoked (12.8.20210) by S.I. 2021/938, art. 4)

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaethLL+C

39Ystyr “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” a thermau allweddol eraillLL+C

(1)At ddibenion y Ddeddf hon—

  • mae i “awdurdod cartref” yr ystyr a roddir i “home authority” gan adran 562J o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56), yn ddarostyngedig i reoliadau o dan is-adran (2);

  • mae i “dechrau’r cyfnod o gadw person yn gaeth” yr ystyr a roddir i “beginning of the detention” gan adran 562J o Ddeddf Addysg 1996;

  • mae i “llety ieuenctid perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant youth accommodation” gan adran 562(1A)(b) o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “person sy’n cael ei gadw’n gaeth” (“detained person”) yw plentyn neu berson ifanc—

    (a)

    sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

    (b)

    sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr,

    ac mewn darpariaethau sy’n gymwys pan gaiff person ei ryddhau mae’n cynnwys person a oedd, yn union cyn ei ryddhau, yn berson a oedd yn cael ei gadw’n gaeth.

(2)Caiff rheoliadau ddarparu—

(a)i baragraff (a) o’r diffiniad o “home authority” yn adran 562J(1) o Ddeddf Addysg 1996 (awdurdod cartref plentyn sy’n derbyn gofal) fod yn gymwys gydag addasiadau at ddibenion y Rhan hon;

(b)i ddarpariaeth mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 562J(4) o Ddeddf Addysg 1996 fod yn gymwys gydag addasiadau neu hebddynt at ddibenion y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 39 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(d)

40Dyletswydd i lunio cynlluniau datblygu unigol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaethLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod cartref yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall—

(a)y gall fod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, a

(b)nad oes cynllun datblygu unigol yn cael ei gadw gan awdurdod lleol o dan adran 42.

(2)Rhaid i’r awdurdod—

(a)penderfynu a oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, a

(b)os yw’n penderfynu bod gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol, benderfynu yn unol â rheoliadau o dan adran 46 a fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau er mwyn diwallu anghenion rhesymol y person sy’n cael ei gadw’n gaeth am addysg neu hyfforddiant.

(3)Cyn i’r awdurdod cartref wneud ei benderfyniad rhaid iddo wahodd y person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol i fod yn rhan o’r penderfyniad ac, os oes angen cynllun datblygu unigol, yn rhan o’r gwaith o lunio cynllun datblygu unigol.

(4)Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu nad oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol neu na fydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau, rhaid iddo hysbysu’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol am y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad.

(5)Os yw’r awdurdod cartref yn penderfynu bod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol ac y bydd angen cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei ryddhau, rhaid iddo—

(a)llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a

(b)rhoi copi o’r cynllun i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, a’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol.

(6)Os yw’r awdurdod cartref yn llunio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo—

(a)penderfynu a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a

(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.

(7)Os na fydd yn bosibl diwallu anghenion rhesymol y person sy’n cael ei gadw’n gaeth am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol pan gaiff ei ryddhau oni bai bod yr awdurdod cartref hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (8), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun.

(8)Y mathau o ddarpariaeth yw—

(a)lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;

(b)bwyd a llety.

(9)O ran y ddyletswydd yn is-adran (7)—

(a)nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;

(b)mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I4A. 40 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, ergl. 5

I5A. 40 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I6A. 40 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I7A. 40 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I8A. 40 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I9A. 40 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(e), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I10A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(e), 3

I11A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I12A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(e)

I13A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(e), 4

I14A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I15A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I16A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, erglau. 3, 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I17A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-22)

41Amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd yn adran 40(2) yn gymwysLL+C

(1)Nid yw’r ddyletswydd yn adran 40(2) yn gymwys os yw’r un neu’r llall o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn berson ifanc nad yw’n cydsynio i benderfyniad o dan adran 40(2)(a) gael ei wneud neu i gynllun gael ei lunio;

(b)bod yr awdurdod cartref wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol a’i fod wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y person sy’n cael ei gadw’n gaeth wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar benderfyniad o dan adran 40(2)(a) neu (b).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I19A. 41 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I20A. 41 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, ergl. 5

I21A. 41 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I22A. 41 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I23A. 41 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(e), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I24A. 41 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I25A. 41 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I26A. 41 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(e), 4

I27A. 41 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 3 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I28A. 41 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(e), 3

I29A. 41 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I30A. 41 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I31A. 41 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(e)

I32A. 41 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I33A. 41 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-22)

42Dyletswydd i gadw cynlluniau datblygu unigol ar gyfer personau sy’n cael eu cadw’n gaethLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn union cyn dechrau’r cyfnod o gadw’r person yn gaeth—

(a)gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru o dan adran 12, neu

(b)gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 14 neu 19.

(2)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys pan fo cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio o dan adran 40(5).

(3)Os yw’r awdurdod cartref ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn awdurdod cartref yng Nghymru, rhaid i’r awdurdod cartref gadw’r cynllun datblygu unigol ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.

(4)Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys pan fo’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn berson ifanc nad yw’n cydsynio i’r cynllun datblygu unigol gael ei gadw.

(5)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (3) yn gymwys ychwaith mewn perthynas â chynllun datblygu unigol a oedd yn cael ei gynnal gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gan awdurdod lleol ac eithrio’r awdurdod cartref, oni ddygir y ffaith bod y cynllun yn cael ei gynnal i sylw’r awdurdod cartref.

(6)Rhaid i’r awdurdod cartref roi gwybod i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth a rhiant person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn ei fod yn cadw cynllun datblygu unigol tra bo’r person yn cael ei gadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol.

(7)Rhaid i’r awdurdod cartref roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r person a chanddo gyfrifoldeb am y llety ieuenctid perthnasol.

(8)Pan fo awdurdod cartref yn cadw cynllun datblygu unigol, rhaid iddo—

(a)trefnu i ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol gael ei darparu i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth, a

(b)os yw’r cynllun yn pennu y dylai’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol yn cael ei darparu yn Gymraeg i’r person sy’n cael ei gadw’n gaeth.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol briodol” yw—

(a)y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun datblygu unigol,

(b)os ymddengys i’r awdurdod cartref nad yw’n ymarferol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun gael ei darparu, darpariaeth addysgol sy’n cyfateb mor agos â phosibl i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, neu

(c)os ymddengys i’r awdurdod cartref nad yw’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir yn y cynllun yn briodol mwyach ar gyfer y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, darpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’r awdurdod cartref yn ystyried ei bod yn briodol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I35A. 42 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I36A. 42 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, ergl. 5

I37A. 42 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I38A. 42 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I39A. 42 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(e), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I40A. 42 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I41A. 42 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 3 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I42A. 42 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I43A. 42 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I44A. 42 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(e)

I45A. 42 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(e), 4

I46A. 42 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I47A. 42 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I48A. 42 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(e), 3

I49A. 42 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-22)

43Rhyddhau person sy’n cael ei gadw’n gaethLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os—

(a)yw person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn cael ei ryddhau,

(b)yw awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y person ar y dyddiad rhyddhau, ac

(c)oedd cynllun datblygu unigol yn cael ei gadw ar gyfer y person o dan adran 42 yn ystod y cyfnod o gadw’r person yn gaeth.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol gynnal y cynllun; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 19(4) neu 40(7) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 14(6).

(3)Ond mae is-adran (4) yn gymwys yn lle is-adran (2)—

(a)os yw’r person sydd wedi ei ryddhau yn blentyn, a

(b)os yw’r plentyn, yn union wedi iddo gael ei ryddhau, yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru.

(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gynnal y cynllun; ac mae’r cynllun i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan adran 19 at ddibenion y Rhan hon, gydag unrhyw ddarpariaeth a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag adran 14(6) neu 40(7) yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei disgrifio yn unol ag adran 19(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I51A. 43 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I52A. 43 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, ergl. 5

I53A. 43 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I54A. 43 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I55A. 43 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I56A. 43 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(e), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I57A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(e), 4

I58A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I59A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(e)

I60A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 3 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I61A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(e), 3

I62A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I63A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I64A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I65A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-22)

44Darpariaethau penodol Rhan 2 nad ydynt i fod yn gymwys i blant a phersonau ifanc sy’n cael eu cadw’n gaethLL+C

(1)Mae’r dyletswyddau a osodir gan y darpariaethau yn is-adran (2) ar y cyrff a ganlyn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n cael ei gadw’n gaeth o ddechrau’r cyfnod o gadw’r person hwnnw yn gaeth—

(a)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(b)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach;

(c)awdurdod lleol;

[F1(d)corff GIG.]

(2)Y darpariaethau yw—

(a)adran 11 (dyletswydd corff llywodraethu i benderfynu);

(b)adran 12 (dyletswydd corff llywodraethu i lunio a chynnal cynllun);

(c)adran 13 (dyletswydd awdurdod lleol i benderfynu);

(d)adran 14 (dyletswydd awdurdod lleol i lunio a chynnal cynllun);

[F2(da)adran 20(5)(a) ac (c) (dyletswydd corff GIG i sicrhau triniaeth neu wasanaeth ac i gymryd pob cam rhesymol i’w sicrhau yn Gymraeg);]

(e)adran 26 (dyletswydd awdurdod lleol i ailystyried penderfyniad corff llywodraethu);

(f)adran 30(2) (dyletswydd corff llywodraethu i atgyfeirio pan fo plentyn neu berson ifanc wedi ei gofrestru neu wedi ymrestru mewn mwy nag un sefydliad);

(g)adran 47(2) (dyletswydd corff llywodraethu i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol).

(3)Nid yw’r dyletswyddau a osodir gan y darpariaethau yn is-adran (4) ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ar gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc ar unrhyw adeg tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw—

(a)yn ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

(b)wedi ei gadw’n gaeth mewn llety ac eithrio llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr.

(4)Y darpariaethau yw—

(a)adran 11 (dyletswydd i benderfynu);

(b)adran 12 (dyletswydd i lunio a chynnal cynllun);

(c)adran 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn);

(d)adran 30(2) (dyletswydd i atgyfeirio pan fo plentyn neu berson ifanc wedi ei gofrestru neu wedi ymrestru mewn mwy nag un sefydliad);

(e)adran 47(2) (dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol).

(5)Mae is-adran (6) yn gymwys hyd nes bod adran 49 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) (cymhwyso darpariaethau i bersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol) yn dod i rym yn llawn o ran Cymru.

(6)Mae adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i gael effaith at ddiben y pwerau a’r dyletswyddau a roddir neu a osodir gan neu o dan y Rhan hon ar awdurdodau lleol fel pe bai adran 49 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) mewn grym yn llawn o ran Cymru.

(7)At ddibenion y Rhan hon, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) o adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) at lety ieuenctid perthnasol i gael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I66A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I67A. 44 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I68A. 44 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I69A. 44 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, ergl. 5

I70A. 44 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I71A. 44 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I72A. 44 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(e), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I73A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(e)

I74A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I75A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I76A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I77A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(e), 4

I78A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 3 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I79A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I80A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(e), 3

I81A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

45Cadw’n gaeth o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983LL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan, oherwydd adran 44 neu adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56), na fo pwerau neu ddyletswyddau a roddir neu a osodir gan neu o dan y Rhan hon i neu ar awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir neu sefydliadau yn y sector addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc—

(a)sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a

(b)sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20).

(2)Caiff rheoliadau ddarparu i’r pwerau neu’r dyletswyddau hynny gael eu cymhwyso, gydag addasiad neu hebddo, mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc.

Gwybodaeth Cychwyn

I82A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I83A. 45 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(e)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources