Search Legislation

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 2 Chapter 2 Crossheading Llunio-a-chynnal-cynlluniau-datblygu-unigol:

  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/373 by S.I. 2021/735 art. 2
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/373 by S.I. 2021/938 art. 2
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/381 by S.I. 2021/516 art. 2
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/381 by S.I. 2021/516 art. 3
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/381 by S.I. 2021/735 art. 3
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/383 by S.I. 2021/735 art. 4
  • specified provision(s) coming into force by S.I. 2021/381 art. 2 3 (This commencement not applied to legislation.gov.uk. S.I. 2021/381 revoked (12.8.2021) by S.I. 2021/938, art. 3)
  • specified provision(s) coming into force by S.I. 2021/383 art. 2 3 (This commencement not applied to legislation.gov.uk. S.I. 2021/383 revoked (12.8.20210) by S.I. 2021/938, art. 4)

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

Llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigolLL+C

10Cynlluniau datblygu unigolLL+C

At ddibenion y Ddeddf hon, dogfen sy’n cynnwys y canlynol yw cynllun datblygu unigol—

(a)disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person;

(b)disgrifiad o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anhawster dysgu neu anabledd y person yn galw amdani;

(c)unrhyw beth arall sy’n ofynnol neu sydd wedi ei awdurdodi gan neu o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 10 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I3A. 10 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I4A. 10 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I5A. 10 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I6A. 10 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(b), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I7A. 10 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I8A. 10 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(b)

I9A. 10 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I10A. 10 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I11A. 10 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I12A. 10 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(b), 3

I13A. 10 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(b), 4

I14A. 10 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

11Dyletswydd i benderfynu: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellachLL+C

(1)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.

(2)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan berson ifanc sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr yn y sefydliad anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo benderfynu a oes gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.

(3)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan y Rhan hon;

(b)bod y corff llywodraethu wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol a bod y corff llywodraethu wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;

(c)bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud;

(d)bod y plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach) a bod awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc;

(e)bod awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.

(4)Os yw’r corff llywodraethu yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gweler adran 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod sy’n gofalu am blentyn)), oni bai bod y plentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I16A. 11 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I17A. 11 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I18A. 11 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I19A. 11 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I20A. 11 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(b), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I21A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I22A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I23A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(b), 4

I24A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I25A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I26A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(b), 3

I27A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(b)

I28A. 11 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

12Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau: ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellachLL+C

(1)Os yw corff llywodraethu yn penderfynu o dan adran 11 fod gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol, rhaid iddo—

(a)llunio cynllun datblygu unigol ar ei gyfer, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys, a

(b)cynnal y cynllun, oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y corff llywodraethu yn ystyried bod gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol—

(i)a all alw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol na fyddai’n rhesymol i’r corff llywodraethu ei sicrhau,

(ii)na all y corff llywodraethu bennu eu graddau neu eu natur yn ddigonol, neu

(iii)na all y corff llywodraethu bennu darpariaeth ddysgu ychwanegol ar eu cyfer yn ddigonol,

a bod y corff llywodraethu yn atgyfeirio achos y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc i’r awdurdod benderfynu yn ei gylch o dan adran 13(1);

(b)bod y cynllun yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r cynllun gael ei lunio neu ei gynnal;

(c)bod y corff llywodraethu yn gofyn i awdurdod lleol yn Lloegr sicrhau asesiad o dan adran 39(1) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a bod yr awdurdod, yn rhinwedd y cais neu fel arall, yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 24(1) o’r Ddeddf honno);

(d)bod awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc.

(3)Pan fo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi ei gyfarwyddo i lunio a chynnal, neu i gynnal, cynllun datblygu unigol ar gyfer person o dan adran 14(2)(b), 14(4) neu 27(6)(a), rhaid i’r corff llywodraethu lunio a chynnal, neu gynnal, y cynllun (yn ôl y digwydd), oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.

(4)Pan fo corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach wedi cytuno i gais o dan adran 36(2) i ddod yn gyfrifol am gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc, neu pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan adran 36(4) y dylai’r corff llywodraethu gynnal y cynllun, rhaid i’r corff llywodraethu gynnal y cynllun oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.

(5)Os yw’r corff llywodraethu, yn dilyn cais o dan is-adran (2)(c), yn cael ei hysbysu gan yr awdurdod lleol yn Lloegr nad yw’n ofynnol iddo sicrhau cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, rhaid i’r corff llywodraethu lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, oni bai bod yr amgylchiadau ym mharagraff (b) neu (d) o is-adran (2) yn gymwys.

(6)Rhaid i gorff llywodraethu sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc—

(a)ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, a

(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.

(7)Rhaid i gorff llywodraethu—

(a)sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol y mae’n ei gynnal o dan y Rhan hon, a

(b)os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I30A. 12 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I31A. 12 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I32A. 12 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I33A. 12 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I34A. 12 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(b), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I35A. 12 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(b), 4

I36A. 12 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I37A. 12 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(b)

I38A. 12 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I39A. 12 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I40A. 12 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I41A. 12 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(b), 3

I42A. 12 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-22)

13Dyletswydd i benderfynu: awdurdodau lleolLL+C

(1)Pan fo’n cael ei dwyn i sylw awdurdod lleol neu pan fo’n ymddangos iddo fel arall y gall fod gan blentyn neu berson ifanc y mae’n gyfrifol amdano anghenion dysgu ychwanegol, rhaid i’r awdurdod benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc o dan y Rhan hon;

(b)bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol a’i fod wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y plentyn neu’r person ifanc wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw;

(c)bod adran 11(1) yn gymwys a bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod penderfyniad ynghylch pa un a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol ai peidio yn cael ei wneud o dan yr adran honno;

(d)bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r penderfyniad gael ei wneud;

(e)bod y penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc—

(i)sy’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, a

(ii)nad yw hefyd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad arall yn y sector addysg bellach neu’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol,

ac na wnaed cais mewn cysylltiad â’r person ifanc i’r awdurdod lleol o dan adran 12(2)(a).

(3)Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol rhaid iddo hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, am—

(a)y penderfyniad, a

(b)y rhesymau dros y penderfyniad.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gweler adrannau 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod sy’n gofalu am blentyn) ac 18 (dyletswydd i benderfynu a oes gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol)).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C5A. 13(1): rhoddwyd pŵer i addasu (dd.) (1.9.2021) gan 2020 c. 7, Atod. 17 para. 7(5) (fel y’i diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 (O.S. 2021/861), rhlau. 1, 11(2))

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I44A. 13 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I45A. 13 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I46A. 13 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(b), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I47A. 13 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I48A. 13 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I49A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I50A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I51A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(b)

I52A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I53A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I54A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(b), 3

I55A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I56A. 13 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(b), 4

14Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau: awdurdodau lleolLL+C

(1)Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc ac—

(a)yn achos plentyn, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 13 fod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol,

(b)yn achos person ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sydd wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 13 fod gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, neu

(c)yn achos unrhyw berson ifanc arall, os yw’r awdurdod lleol—

(i)yn penderfynu o dan adran 13 fod gan y person ifanc anghenion dysgu ychwanegol, a

(ii)yn penderfynu yn unol â rheoliadau o dan adra 46 fod angen llunio a chynnal cynllun o dan yr adran hon ar gyfer y person ifanc i ddiwallu ei anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)llunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw, neu

(b)os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig, neu i fod yn ddisgybl cofrestredig, mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru a bod yr awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol—

(i)llunio cynllun datblygu unigol a chyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i gynnal y cynllun, neu

(ii)cyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i lunio a chynnal cynllun.

(3)Ond nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw’r cynllun yn ymwneud â pherson ifanc ac nad yw’r person ifanc yn cydsynio i’r cynllun gael ei lunio neu ei gynnal.

(4)Caiff awdurdod lleol sy’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i gynnal y cynllun.

(5)Rhaid i awdurdod leol sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, neu sy’n ailystyried cynllun o dan adran 27—

(a)ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc, a

(b)os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.

(6)Os na ellir diwallu anghenion rhesymol plentyn neu berson ifanc am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol oni bai bod awdurdod lleol hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (7), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun.

(7)Y mathau o ddarpariaeth yw—

(a)lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;

(b)bwyd a llety.

(8)O ran y ddyletswydd yn is-adran (6)—

(a)nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;

(b)mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.

(9)Os yw’r ddyletswydd yn is-adran (6) yn gymwys i awdurdod lleol, ni chaiff roi cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(b) neu (4).

[F1(9A)Os yw’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol yn cynnwys darpariaeth o’r math a grybwyllir yn adran 41(1) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, ni chaiff awdurdod lleol roi cyfarwyddydau i gorff llywodraethu ysgol o dan is-adran (2)(b) neu (4) mewn perthynas â’r cynllun.]

(10)Pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc, rhaid i’r awdurdod—

(a)sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun,

(b)sicrhau unrhyw ddarpariaeth arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag is-adran (6), ac

(c)os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn neu’r person ifanc.

Diwygiadau Testunol

F1A. 14(9A) wedi ei fewnosod (30.4.2021) gan Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (asc 4), a. 84(1), Atod. 2 para. 74 (ynghyd â arbedion a darpariaethau trosiannol yn O.S. 2022/111, rhlau. 1, 3)

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C10A. 14(10): rhoddwyd pŵer i addasu (dd.) (1.9.2021) gan 2020 c. 7, Atod. 17 para. 7(5) (fel y’i diwygiwyd gan Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 (O.S. 2021/861), rhlau. 1, 11(2))

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I58A. 14 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I59A. 14 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I60A. 14 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I61A. 14 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(b), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I62A. 14 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I63A. 14 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I64A. 14 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I65A. 14 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I66A. 14 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I67A. 14 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(b)

I68A. 14 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I69A. 14 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(b), 4

I70A. 14 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(b), 3

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources