Search Legislation

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mathau penodol o ysgol neu sefydliad arall

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 04/01/2021

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 02/11/2020. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) croes bennawd yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Close

Statws

 Nid yw'n ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn yn golygu yn gyffredinol nad oedd darpariaeth mewn grym ar gyfer y pwynt mewn amser rydych wedi dewis.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mathau penodol o ysgol neu sefydliad arallLL+C

Valid from 01/09/2021

51Dyletswydd i ffafrio addysg i blant mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelirLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac a ddylai gael ei addysgu mewn ysgol sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod addysgu’r plentyn mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yn anghydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer plant eraill;

(b)bod addysgu’r plentyn mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yn briodol er lles pennaf y plentyn ac yn gydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer plant eraill;

(c)bod rhiant y plentyn yn dymuno i’r plentyn gael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir.

(3)Ni chaiff awdurdod lleol ddibynnu ar yr eithriad yn is-adran (2)(a) oni bai nad oes unrhyw gamau rhesymol y gallai’r awdurdod eu cymryd i atal yr anghydnawsedd.

(4)Pan fo rhiant plentyn yn dymuno i’w blentyn gael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir, nid yw is-adran (2)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir.

(5)Nid yw is-adran (1) yn atal plentyn rhag cael ei addysgu mewn—

(a)ysgol annibynnol, neu

(b)ysgol a gymeradwyir o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56),

os telir y gost ac eithrio gan awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

Valid from 01/09/2021

52Plant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelirLL+C

(1)Pan fo plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei addysgu mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yng Nghymru, rhaid i’r rheini sy’n ymwneud â gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer y plentyn sicrhau bod y plentyn yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol ar y cyd â phlant nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol.

(2)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) ond yn gymwys i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol a’i bod yn gydnaws—

(a)â’r plentyn yn cael y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ei anghenion dysgu ychwanegol yn galw amdani,

(b)â darparu addysg effeithlon ar gyfer y plant y caiff ei addysgu gyda hwy, ac

(c)â’r defnydd effeithlon o adnoddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

Valid from 01/09/2021

53Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mannau ac eithrio mewn ysgolionLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol drefnu i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol y mae’n ei gynnal ar gyfer plentyn, neu i unrhyw ran o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, gael ei gwneud mewn man ac eithrio mewn ysgol.

(2)Ond ni chaiff awdurdod lleol wneud hynny ond os yw wedi ei fodloni y byddai’n amhriodol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei gwneud mewn ysgol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

54Diwygiadau i ofynion cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol yng NghymruLL+C

(1)Mae Deddf Addysg 2002 (p. 32) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 158 (cofrestrau), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4)The Welsh Ministers must publish a list of the schools included in the register of independent schools in Wales, as amended from time to time.

(5)If the Welsh Ministers have been provided with the necessary information by the proprietor of the school, the published list must specify the type or types of additional learning provision made by a school on the list for pupils with additional learning needs (if any).

(3)Yn adran 160 (ceisiadau i gofrestru), yn is-adran (2), yn lle paragraff (e) rhodder—

(e)the type or types of additional learning provision made by the school for pupils with additional learning needs (if any).

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I5A. 54 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(e)

Valid from 01/09/2021

55Amodau sy’n gymwys i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn ysgolion annibynnolLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei addysgu mewn ysgol annibynnol yng Nghymru oni bai—

(a)bod yr ysgol wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru, a

(b)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall yr ysgol wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei addysgu mewn sefydliad addysgol annibynnol yn Lloegr oni bai—

(a)bod y sefydliad wedi ei gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) (“Deddf 2008”)), a

(b)bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall y sefydliad wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.

(3)Yn yr adran hon, mae i “sefydliad addysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent educational institution” gan Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 2008.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

56Rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru a Lloegr (“y rhestr”) at ddiben is-adran (3).

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r rhestr, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

(3)Dim ond os yw sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr wedi ei gynnwys yn y rhestr y caiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau addysg neu hyfforddiant ar gyfer plentyn neu berson ifanc yn y sefydliad hwnnw, yn ddarostyngedig i unrhyw esemptiadau rhagnodedig.

(4)Dim ond ar gais perchennog sefydliad y caiff Gweinidogion Cymru gynnwys y sefydliad hwnnw yn y rhestr.

(5)Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)cynnwys y rhestr;

(b)gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy fel amod o gynnwys y sefydliad yn y rhestr;

(c)gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy tra bo’r sefydliad wedi ei restru (gan gynnwys gofynion o ran cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i drefniadau yn y sefydliad ac i newid trefniadau o’r fath);

(d)dileu’r sefydliad o’r rhestr;

(e)yr hawl i berchenogion sefydliadau apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau—

(i)i wrthod rhestru sefydliad;

(ii)i ddileu sefydliad o’r rhestr;

(iii)i beidio â chymeradwyo trefniadau yn y sefydliad neu i beidio â chymeradwyo newid iddynt.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” yw sefydliad sy’n darparu addysg neu hyfforddiant ar gyfer personau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac sydd wedi ei drefnu’n arbennig i ddarparu addysg neu hyfforddiant o’r fath ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol, ac nad yw’n—

(a)sefydliad yn y sector addysg bellach,

(b)ysgol annibynnol sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru (a gedwir o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32)),

(c)sefydliad addysgol annibynnol (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25)), sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o’r Ddeddf honno), neu

(d)Academi 16 i 19.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I8A. 56 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(f)

Valid from 01/09/2021

57Diddymu cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir yng NghymruLL+C

(1)Mae Deddf Addysg 1996 (p. 56) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 337A (dehongli’r Bennod), hepgorer y diffiniad o “the appropriate national authority”.

(3)Yn adran 342 (cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a

(ii)ar ôl “school”, y tro cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (5)(a), yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;

(c)hepgorer is-adran (6).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

Valid from 01/09/2021

58Diddymu cymeradwyo ysgolion annibynnol yng NghymruLL+C

Mae adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (cymeradwyo ysgolion annibynnol fel rhai sy’n addas i dderbyn plant â datganiadau anghenion addysgol arbennig) wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

Valid from 01/09/2021

59Darpariaeth ddysgu ychwanegol y tu allan i Gymru a LloegrLL+C

Caiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i wneud trefniadau i blentyn neu berson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol fynychu sefydliad y tu allan i Gymru a Lloegr, ond dim ond os yw’r sefydliad wedi ei drefnu i wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources