Landlord cymdeithasol cofrestredig yn hysbysu am newidiadau cyfansoddiadol, etc.
Adran 3 - Newid rheolau neu erthyglau
11.Mae adran 3 yn diwygio paragraff 9 a pharagraff 11 o Atodlen 1.
Paragraff 9 o Atodlen 1
12.Mae paragraff 9 o Atodlen 1 yn gymwys i landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gymdeithas gofrestredig o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014. Mae cymdeithasau cofrestredig wedi eu cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
13.Mae paragraff 9 o Atodlen 1 wedi ei ddiwygio i ddileu’r gofyniad i landlord cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i newid rheolau penodol, ac yn lle hynny mae’n gosod dyletswydd ar landlord cymdeithasol cofrestredig i hysbysu Gweinidogion Cymru.
14.Os yw landlord cymdeithasol cofrestredig yn newid unrhyw un neu ragor o’i reolau, gan gynnwys ei enw a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, nid oes angen iddo gael cydsyniad Gweinidogion Cymru. Rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt. I gael rhagor o wybodaeth am gyfarwyddydau hysbysu gweler paragraff 13A o Atodlen 1, a fewnosodir gan adran 5 o’r Ddeddf.
Paragraff 11 o Atodlen 1
15.Mae paragraff 11 o Atodlen 1 yn gymwys i landlord cymdeithasol cofrestredig sydd wedi ei gofrestru yn gwmni (gan gynnwys cwmni sy’n elusen gofrestredig). Caiff cofrestriad cwmnïau ei gofnodi gan y Cofrestrydd Cwmnïau. Rhaid i gwmni ffeilio Erthyglau Cymdeithasu gyda’r Cofrestrydd Cwmnïau. Dogfen yw hon sy’n nodi diben y cwmni yn ogystal â dyletswyddau a chyfrifoldebau ei aelodau. Rhaid i’r cwmni hefyd anfon copi o unrhyw benderfyniad sy’n addasu ei erthyglau at y Cofrestrydd Cwmnïau.
16.Mae paragraff 11 o Atodlen 1 wedi ei ddiwygio gan adran 3, gan ddileu’r gofyniad i landlord cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i newid rheolau penodol, ac yn lle hynny mae’n gosod dyletswydd ar landlord cymdeithasol cofrestredig i hysbysu Gweinidogion Cymru am y newidiadau hynny.
17.Os yw landlord cymdeithasol cofrestredig sydd wedi ei gofrestru yn gwmni yn gwneud newidiadau i’w enw, i gyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu i’w erthyglau cymdeithasu, nid oes angen iddo gael cydsyniad Gweinidogion Cymru, ond rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt. I gael rhagor o wybodaeth am gyfarwyddydau hysbysu gweler paragraff 13A o Atodlen 1, a fewnosodir gan adran 5 o’r Ddeddf.