Pwerau sy’n arferadwy mewn cysylltiad â swyddogion a rheolaeth landlord cymdeithasol cofrestredig
Adran 6 – Diswyddo neu benodi swyddog landlord cymdeithasol cofrestredig
42.Mae adran 6 yn diwygio paragraffau 4 a 6 i 8 o Atodlen 1.
Paragraff 4 o Atodlen 1
43.Gwneir diwygiadau i baragraff 4 o Atodlen 1 i ddiwygio’r trothwy lle y gall Gweinidogion Cymru ddiswyddo swyddog o dan baragraff 4(2)(g). O ganlyniad, mae’r sefyllfa fel a ganlyn:
Gall Gweinidogion Cymru ddiswyddo swyddog landlord cymdeithasol cofrestredig o dan amgylchiadau amrywiol.
Nodir rhestr o’r amgylchiadau hyn ym mharagraff 4(2) o Atodlen 1. Nid oes newid i’r rhestr, ac eithrio i baragraff 4(2)(g), sydd wedi ei ddiwygio ac sy’n caniatáu i swyddog gael ei ddiswyddo os na ellir dod o hyd i’r swyddog neu os nad yw’n gweithredu, a bod ei absenoldeb neu ei fethiant i weithredu yn llesteirio cydymffurfedd y landlord cymdeithasol cofrestredig â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano.
Paragraffau 6 i 8 o Atodlen 1
44.Mae paragraffau 6, 7 ac 8 o Atodlen 1 yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru benodi personau i fod yn swyddog landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n elusennau cofrestredig, yn gwmnïau, neu’n gymdeithasau cofrestredig, yn y drefn honno.
45.Gwneir diwygiadau i baragraffau 6, 7 ac 8 o Atodlen 1 i ddiwygio’r trothwy mewn cysylltiad ag un o’r seiliau y gall Gweinidogion Cymru benodi person i fod yn swyddog landlord cymdeithasol cofrestredig oddi tanynt.
46.O ganlyniad, y sefyllfa yw y gall Gweinidogion Cymru benodi person i fod yn swyddog landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n elusen gofrestredig, yn gwmni neu’n gymdeithas gofrestredig yn lle person y maent wedi ei ddiswyddo, neu pan na fo unrhyw swyddogion, neu pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod y penodiad yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y landlord cymdeithasol cofrestredig yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano.