Pwerau sy’n arferadwy mewn cysylltiad â swyddogion a rheolaeth landlord cymdeithasol cofrestredig
Adran 8 - Penodi rheolwr ar landlord cymdeithasol cofrestredig
52.Mae adran 8 yn diwygio’r trothwy lle y gall Gweinidogion Cymru benodi rheolwr ar landlord cymdeithasol cofrestredig o dan baragraff 15F o Atodlen 1. Y trothwy oedd bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bu camymddwyn neu gamreoli o ran materion y landlord cymdeithasol cofrestredig, a’r trothwy yn awr yw eu bod wedi eu bodloni bod y landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano.
53.O ganlyniad, mae’r sefyllfa fel a ganlyn:
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano, gall Gweinidogion Cymru benodi unigolyn i fod yn rheolwr ar y landlord cymdeithasol cofrestredig, neu ei gwneud yn ofynnol i’r landlord cymdeithasol cofrestredig benodi unigolyn i fod yn rheolwr.
Caiff y penodiad neu’r gofyniad ymwneud â rheoli’r landlord cymdeithasol cofrestredig yn gyffredinol, neu â rheoli materion penodedig.
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r methiant yn ymwneud yn unig â’r landlord cymdeithasol cofrestredig yn darparu tai yn Lloegr.