Paragraff 24 o Atodlen 1
62.Gwneir diwygiadau i’r trothwy lle y gall Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion o dan baragraff 24 o Atodlen 1. Y trothwy oedd bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bu camymddwyn neu gamreoli o ran materion y landlord cymdeithasol cofrestredig, ond yn awr y trothwy yw eu bod wedi eu bodloni bod y landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano.
63.O ganlyniad, mae’r sefyllfa o dan baragraff 24 fel a ganlyn:
Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn pan fônt wedi eu bodloni, yn dilyn ymchwiliad neu archwiliad (o dan baragraff 20 neu 22), bod landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano.
Y gorchmynion y caniateir eu gwneud yw gorchmynion sy’n diswyddo, neu’n atal dros dro am hyd at chwe mis, unrhyw swyddog, cyflogai neu asiant i’r landlord cymdeithasol cofrestredig y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru iddo fod yn gyfrifol am y methiant; gorchmynion sy’n cyfarwyddo unrhyw fanc neu berson arall sy’n dal arian neu warannau ar ran y landlord cymdeithasol cofrestredig i beidio ag ymadael â’r arian neu’r gwarannau heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru; neu orchmynion sy’n cyfyngu ar y trafodion y caniateir i’r landlord cymdeithasol cofrestredig ymrwymo iddynt, neu natur neu swm y taliadau y caniateir iddo eu gwneud, heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.