Gwarediadau tir
Trosolwg
74.Cyn y diwygiadau a wneir gan y Ddeddf, roedd yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i warediadau tir o dan adran 9 o Ddeddf 1996, adran 171D o Ddeddf Tai 1985, ac adrannau 81 a 133 o Ddeddf Tai 1988. Mae adrannau 13 a 14 o’r Ddeddf yn dileu’r gofynion hynny ac yn gosod dyletswydd i hysbysu Gweinidogion Cymru.
75.Bydd adran 9 o Ddeddf 1996 (fel y’i diwygiwyd gan adran 14 o’r Ddeddf) yn gymwys i unrhyw warediad gan landlord cymdeithasol cofrestredig, sy’n golygu bod rhaid i’r landlord cymdeithasol cofrestredig hysbysu Gweinidogion Cymru am warediad a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt.
Adran 13 - Gwaredu tir: cydsyniad
76.Mae adran 13 yn diwygio adran 171D o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) ac yn diddymu adran 81, ac yn diwygio adran 133 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50)
Adran 171D> o Ddeddf Tai 1985
77.Mae adran 171D o Ddeddf Tai 1985 yn ymwneud â’r hawl i brynu a gadwyd. Mae’n bosibl bod tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a oedd yn denantiaid diogel awdurdod lleol, ac a ddaeth yn denantiaid sicr am i berchnogaeth eu cartrefi gael ei throsglwyddo i landlord cymdeithasol cofrestredig, yn meddu ar yr hyn a elwir yn hawl i brynu a gadwyd.
78.Diwygir adran 171D o Ddeddf Tai 1985 i ddileu’r gofyniad i landlord cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i’r landlord cymdeithasol cofrestredig waredu tŷ annedd sy’n ddarostyngedig i’r hawl i brynu neu’r hawl i brynu a gadwyd, oni bai bod y gwarediad i berson neu bersonau sy’n arfer yr hawliau hynny.
Adran 81 o Ddeddf Tai 1988
79.Mae adran 81 o Ddeddf Tai 1988 yn ymwneud â gwarediadau dilynol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig pan oedd y gwarediad gwreiddiol yn warediad gan ymddiriedolaeth gweithredu tai.
80.O dan adran 81 o Ddeddf Tai 1988, os oedd ymddiriedolaeth gweithredu tai yn dymuno gwaredu tŷ a oedd yn ddarostyngedig i denantiaeth ddiogel neu denantiaeth ragarweiniol i landlord cymdeithasol cofrestredig, roedd rhaid i’r trawsgludiad gynnwys gofyniad ei bod yn ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion Cymru (os oedd y tir yng Nghymru) neu’r Ysgrifennydd Gwladol (os oedd y tir yn Lloegr) pe bai’r landlord cymdeithasol cofrestredig yn dymuno gwaredu’r tŷ wedi hynny.
81.Mae adran 81 yn cael ei diddymu ac effaith hynny yw na fydd yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol cyn iddynt waredu tŷ o’r math y cyfeirir ato yn y paragraff uchod.
Adran 133 o Ddeddf Tai 1988
82.Mae adran 133 o Ddeddf Tai 1988 yn ymwneud â gwarediadau dilynol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig pan oedd y gwarediad gwreiddiol yn warediad gan awdurdod lleol.
83.O dan adran 133 o Ddeddf Tai 1988, os oedd landlord cymdeithasol cofrestredig wedi caffael tir neu dŷ gan awdurdod lleol o dan adran 32 neu 43 o Ddeddf Tai 1985, ac nad oedd y cydsyniad oedd yn ymwneud â’r gwarediad gwreiddiol yn darparu fel arall, roedd rhaid cael cydsyniad Gweinidogion Cymru (os oedd y tir yng Nghymru) neu’r Ysgrifennydd Gwladol (os oedd y tir yn Lloegr) pe digwyddai bod y landlord cymdeithasol cofrestredig yn dymuno gwaredu’r tŷ wedi hynny.
84.Gwneir diwygiadau i adran 133 o Ddeddf Tai 1988 i ddileu’r gofyniad i landlord cymdeithasol cofrestredig gael cydsyniad Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol cyn gwaredu tir neu dŷ o’r math y cyfeirir ato yn y paragraff uchod.
Adran 14 – Gwaredu tir: hysbysu
85.Mae adran 14 yn diwygio adran 9 o Ddeddf 1996 mewn perthynas â gwaredu tir gan landlord cymdeithasol cofrestredig er mwyn dileu’r gofyniad i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru wrth waredu tir, ac yn lle hynny gosodir gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru am unrhyw warediad o’r fath.
86.O ganlyniad, mae’r sefyllfa fel a ganlyn:
O dan adran 8 o Ddeddf 1996, gall landlord cymdeithasol cofrestredig waredu tir y mae’n ei ddal fel y gwêl yn dda. Ond os yw landlord cymdeithasol cofrestredig yn dymuno gwaredu tir, rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt.
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cyfarwyddydau ynghylch sut y dylid eu hysbysu. Caiff cyfarwyddyd ymwneud â sut a phryd y mae’n rhaid rhoi hysbysiad, neu’r hyn y mae’n rhaid iddo ei gynnwys, neu caiff bennu terfyn amser ar gyfer rhoi hysbysiad.
Gall Gweinidogion Cymru bennu i ba landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y mae cyfarwyddyd yn gymwys ac i ba warediadau neu fathau o warediadau y mae’n gymwys. Gall cyfarwyddyd hefyd hepgor gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru neu ddirymu neu amrywio cyfarwyddyd blaenorol.
Rhaid i landlord cymdeithasol cofrestredig gydymffurfio â chyfarwyddyd sy’n gymwys iddo.
Adran 15 – Cronfa enillion o warediadau
87.Mae adran 15 yn hepgor adrannau 24 i 26 o Ddeddf Tai 1996.
88.Caiff adrannau 24 i 26 eu diddymu er mwyn dileu’r gofyniad i ddangos enillion o warediadau ar wahân mewn cyfrifon, a dileu gallu Gweinidogion Cymru i benderfynu sut y dylid defnyddio enillion o’r fath.