Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018

Atodlen 1

94.Cyflwynir Atodlen 1 gan adran 16.

95.Mae’r Atodlen hon yn cyflwyno Pennod 1A newydd i Ran 1 o Ddeddf 1996. Mae pennod 1A yn cynnwys adrannau 7A i 7J.

96.Mae’r Bennod hon yn cyfyngu ar ddylanwad awdurdod lleol dros fwrdd landlord cymdeithasol cofrestredig, er enghraifft, o ran neilltuo lleoedd iddynt ar fyrddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a’r hawl i feto dros faterion penodol, ac yn dileu ei hawliau pleidleisio fel aelod.

97.Mae adran 7A yn diffinio’r termau allweddol at ddibenion Pennod 1A.

98.O dan adran 7B, ni chaniateir gwneud unrhyw benodiad i fwrdd landlord cymdeithasol cofrestredig a fyddai’n golygu bod dros 24% o aelodau bwrdd y landlord cymdeithasol cofrestredig yn benodeion llywodraeth leol. Nid oes unrhyw effaith i unrhyw benodiad a wneir i’r bwrdd a fyddai, oni bai am adran 7B, yn golygu bod dros 24% o aelodau’r bwrdd yn benodeion llywodraeth leol.

99.Gwneir darpariaeth yn ogystal sy’n golygu, i’r graddau bod unrhyw ddarpariaeth yng nghyfansoddiad neu reolau landlord cymdeithasol cofrestredig yn gwrthdaro â’r gofyniad hwn, na fydd y ddarpariaeth honno yn cael unrhyw effaith. Gweler hefyd adran 7I mewn cysylltiad â darpariaethau mewn cytundebau nad ydynt i gael unrhyw effaith.

100.Mae adran 7C yn nodi’r weithdrefn y mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol i’w dilyn i leihau nifer y penodeion awdurdod lleol ar fwrdd landlord cymdeithasol cofrestredig er mwyn sicrhau nad yw dros 24% o aelodau bwrdd y landlord cymdeithasol cofrestredig yn benodeion awdurdod lleol (y terfyn o 24%). Os oes angen i landlord cymdeithasol cofrestredig ddiswyddo aelod o’i fwrdd i gydymffurfio â’r terfyn o 24%, mae ganddo bedwar mis i wneud hynny o’r dyddiad y mae adran 7C yn dod i rym. Fodd bynnag, mae is-adran (3) o adran 7C yn darparu na all y landlord cymdeithasol cofrestredig ddiswyddo aelod hyd ddau fis ar ôl i adran 7C ddod i rym. Diben y cyfyngiad hwn yw rhoi cyfle i’r awdurdod lleol a benododd yr aelodau enwebu pa un neu ragor o’i benodeion sydd i’w diswyddo o dan adran 7C (gweler y paragraff nesaf).

101.Gall awdurdod lleol enwebu pa rai o blith y penodeion awdurdod lleol sydd i’w diswyddo er mwyn cydymffurfio â’r terfyn o 24%, ond rhaid iddynt wneud hynny o fewn dau fis i’r adeg y daw adran 7C i rym. Os yw awdurdod lleol yn enwebu penodeion i gael eu diswyddo, rhaid i’r penodeion hynny gael eu diswyddo gan y landlord cymdeithasol cofrestredig, a chaiff y landlord cymdeithasol cofrestredig eu diswyddo heb orfod aros am ddau fis o’r dyddiad y daw adran 7C i rym. Os nad yw awdurdod lleol yn enwebu unrhyw un i’w ddiswyddo cyn diwedd y cyfnod o ddau fis, bydd gan landlord cymdeithasol cofrestredig ddau fis pellach i ddiswyddo penodeion o’r fath er mwyn cydymffurfio â’r terfyn o 24%. Os na cheir enwebiad gan awdurdod lleol, dylid dethol y penodeion sydd i’w diswyddo drwy bleidlais fwyafrifol o blith aelodau’r bwrdd nad ydynt yn benodeion awdurdod lleol (gweler adran 7D).

102.O dan adran 7E, os yw cyfansoddiad neu reolau landlord cymdeithasol cofrestredig yn datgan bod rhaid i o leiaf un penodai llywodraeth leol neu ragor fod yn bresennol er mwyn cael cworwm mewn cyfarfod, nid yw’r ddarpariaeth honno yn cael unrhyw effaith. Gweler hefyd adran 7I mewn cysylltiad â darpariaethau mewn cytundebau nad ydynt i gael unrhyw effaith.

103.O dan adran 7F, os ceir darpariaeth yng nghyfansoddiad neu reolau landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n ei gwneud yn ofynnol cael dros 75% o’r pleidleisiau a fwriwyd i basio penderfyniad, bydd y ddarpariaeth honno’n cael effaith fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol cael 75% yn unig o’r pleidleisiau a fwriwyd i basio’r penderfyniad. Gweler hefyd adran 7I mewn cysylltiad â darpariaethau mewn cytundebau nad ydynt i gael unrhyw effaith.

104.O dan adran 7G, os ceir darpariaeth yng nghyfansoddiad neu reolau landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad yr awdurdod lleol neu benodai’r awdurdod lleol cyn y gellir newid rheolau neu gyfansoddiad y landlord cymdeithasol cofrestredig, neu ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer feto i awdurdod lleol neu benodai awdurdod lleol, nid yw’r ddarpariaeth honno yn cael unrhyw effaith. Gweler hefyd adran 7I mewn cysylltiad â darpariaethau mewn cytundebau nad ydynt i gael unrhyw effaith.

105.O dan adran 7H, os ceir darpariaeth yn rheolau neu gyfansoddiad landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n rhoi’r hawl i awdurdod lleol bleidleisio ar benderfyniadau’r landlord cymdeithasol cofrestredig yn rhinwedd aelodaeth yr awdurdod lleol o’r landlord cymdeithasol cofrestredig, nid yw’r ddarpariaeth honno yn cael unrhyw effaith. Mae hyn yn dileu hawliau pleidleisio awdurdodau lleol fel aelodau o landlord cymdeithasol cofrestredig. Gweler hefyd adran 7I mewn cysylltiad â darpariaethau mewn cytundebau nad ydynt i gael unrhyw effaith.

106.O dan adran 7I, ni fydd darpariaeth mewn cytundeb rhwng landlord cymdeithasol cofrestredig a pherson arall a fyddai, pe bai’n cael ei chynnwys yn rheolau neu gyfansoddiad landlord cymdeithasol cofrestredig, yn cael ei thrin fel pe na bai’n cael unrhyw effaith oherwydd y Bennod hon, yn cael unrhyw effaith. Bydd hyn yn cwmpasu, er enghraifft, unrhyw gytundebau contractiol yr ymrwymwyd iddynt rhwng awdurdod lleol a landlord cymdeithasol cofrestredig o ganlyniad i drosglwyddo stoc.

107.Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, drwy orchymyn, nad yw unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau ym Mhennod 1A, neu nad yw yr un ohonynt, yn gymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n is-gyrff a reolir yn llwyr gan awdurdod lleol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources