- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, ATODLEN 3 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 10 Mai 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):
(a gyflwynir gan adran 31)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2Atod. 3 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2
Llywodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru.
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llywodraeth leol, tân a’r heddlu
Awdurdod lleol yng Nghymru.
Bwrdd ar y cyd y mae ei awdurdodau cyfansoddol oll yn awdurdodau lleol yng Nghymru.
Awdurdod tân ac achub yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo.
Comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
F1...
[F2Cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.]
Yr Amgylchedd
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd.
Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru.
Corff Adnoddau Naturiol Cymru.
Asiantaeth yr Amgylchedd.
Y Comisiynwyr Coedwigaeth.
Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Iechyd a gofal cymdeithasol
Gofal Cymdeithasol Cymru.
F3...
Bwrdd Iechyd Lleol.
Ymddiriedolaeth GIG sy’n rheoli ysbyty neu sefydliad neu gyfleuster arall yng Nghymru.
Awdurdod Iechyd Arbennig nad yw’n cyflawni swyddogaethau yn Lloegr yn unig neu’n bennaf.
F4...
Darparwr annibynnol yng Nghymru.
Darparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru.
Person â swyddogaethau a roddir gan reoliadau a wneir o dan adran 113(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43).
Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.
[F5Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.]
Tai
Landlord cymdeithasol yng Nghymru.
Addysg a hyfforddiant
Swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales.
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Panel apêl derbyn a gyfansoddwyd yn unol â rheoliadau o dan adran 94(5) neu 95(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).
Corff llywodraethu unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol i’r graddau y mae’n gweithredu mewn cysylltiad â derbyn disgyblion i’r ysgol neu fel arall yn cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).
Panel apêl gwahardd a gyfansoddwyd yn unol â rheoliadau o dan adran 52 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32).
Cymwysterau Cymru.
Y celfyddydau a hamdden
Cyngor Celfyddydau Cymru.
Cyngor Chwaraeon Cymru.
Trethi
Awdurdod Cyllid Cymru.
Amrywiol
Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu.
Byrddau Cadwraethwyr Coity Walia.
Comisiynydd y Gymraeg.
Awdurdodau harbwr yng Nghymru (ac mae i “awdurdod harbwr” yr ystyr a roddir i “harbour authority” yn adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p.21)) ac awdurdodau porthladd yng Nghymru (ac ystyr “awdurdod porthladd” yw awdurdod harbwr, neu os nad oes awdurdod o’r fath, y person sydd â rheolaeth am weithrediad y porthladd)—
a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer y diwydiant pysgota, ar gyfer hamdden neu ar gyfer cyfathrebu rhwng lleoedd yng Nghymru neu sy’n ofynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer y diwydiant pysgota, ar gyfer hamdden neu ar gyfer cyfathrebu rhwng lleoedd yng Nghymru (neu ar gyfer dau neu ragor o’r dibenion hyn);
i’r graddau y mae’n gweithredu mewn cysylltiad â diogelu iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid neu’r amgylchedd.
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Bwrdd Cadwraethwyr Towyn Trewan.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 3 wedi eu hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(1)(e), Atod. 9 para. 48
F2Geiriau yn Atod. 3 wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021 (O.S. 2021/345), rhlau. 1(2), 2(2)
F3Atod. 3 entry wedi ei hepgor (1.4.2023) yn rhinwedd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (asc 1), a. 29(2), Atod. 3 para. 17(3)(a); O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)
F4Atod. 3 entry wedi ei hepgor (1.4.2023) yn rhinwedd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (asc 1), a. 29(2), Atod. 3 para. 17(3)(b); O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)
F5Atod. 3 entry wedi ei fewnosod (1.4.2023) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (asc 1), a. 29(2), Atod. 3 para. 17(3)(c); O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: