Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i

Rhan 2.Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3.Mae'r Rhan hon yn gwneud darpariaeth i newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i “Senedd Cymru” neu “Welsh Parliament” ac i wneud newidiadau cysylltiedig eraill. Bydd Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu galw'n Ddeddfau Senedd Cymru neu'n Acts of Senedd Cymru. Bydd Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu galw’n Aelodau’r Senedd neu’n Members of the Senedd. Bydd cyrff a phersonau cysylltiedig, megis Comisiwn y Cynulliad, Clerc y Cynulliad, y Bwrdd Taliadau a’r Comisiynydd Safonau, hefyd yn cael eu hailenwi.

4.Mae’r Rhan hon hefyd yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth arall, yn benodol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”), Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (“Mesur 2009”), a Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (“Mesur 2010”). Mae adran 150A(2) o Ddeddf 2006 yn sicrhau y bydd cyfeiriadau at y Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad neu un o Ddeddfau’r Cynulliad mewn deddfwriaeth arall yn adlewyrchu’r enw newydd pan gaiff ei newid.

Adran 2 – Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru neu’n Welsh Parliament

5.Mae adran 2 yn disodli'r cyfeiriad yn adran 1 o Ddeddf 2006 at “National Assembly for Wales” gyda “Senedd Cymru or the Welsh Parliament” (y cyfeirir ati yng ngweddill Deddf 2006 fel “y Senedd”). Mae paragraff 2(3)(a) o Atodlen 1 i’r Ddeddf yn gwneud diwygiad arall i adran 1 o Ddeddf 2006 o ganlyniad i hyn i'w gwneud yn glir y bydd senedd (yn hytrach na Chynulliad) i Gymru. Fel y nodwyd, bydd Deddf 2006 yn cyfeirio at y senedd fel “the Senedd”.

Adran 3 – Ailenwi Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Ddeddfau Senedd Cymru

6.Mae adran 107 o Ddeddf 2006 yn rhoi pŵer i’r Cynulliad basio deddfwriaeth mewn perthynas â Chymru o’r enw “Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru” neu “Acts of the National Assembly for Wales” y cyfeirir atynt yn Neddf 2006 fel “Acts of the Assembly”. Mae adran 3 yn diwygio adran 107(1) o Ddeddf 2006 fel bod deddfwriaeth sylfaenol a gaiff ei phasio gan y Cynulliad yn dilyn yr adran hon yn dod i rym i'w galw'n “Acts of Senedd Cymru or Deddfau Senedd Cymru” y cyfeirir ati yn Neddf 2006 fel “Acts of the Senedd”).

Adran 4 – Galw Aelodau yn Aelodau'r Senedd

7.Mae adran 4 yn darparu y bydd Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu galw’n Aelodau’r Senedd neu’n Members of the Senedd.

Adran 5 – Ailenwi Clerc y Cynulliad yn Glerc y Senedd

8.Mae adran 5 yn diwygio adran 26(2) o Ddeddf 2006 i ddarparu y bydd Clerc y Cynulliad yn cael ei alw'n Glerc y Senedd neu'n Clerk of the Senedd.

Adran 6 – Ailenwi Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Gomisiwn y Senedd

9.Mae adran 6 yn disodli’r cyfeiriad yn adran 27(1) o Ddeddf 2006 at “National Assembly for Wales Commission” gyda “Senedd Commission or Comisiwn y Senedd”.

Adran 7 – Ailenwi Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Gomisiynydd Safonau y Senedd

10.Mae adran 7 yn disodli'r cyfeiriad at “Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru” yn adran 1(1) o Fesur 2009 (mccc 4) (“Mesur 2009”) gyda “Comisiynydd Safonau y Senedd”.

Adran 8 – Ailenwi Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

11.Mae adran 8 yn disodli'r cyfeiriad at “Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru” yn adran 1(1) o Fesur 2010 gyda'r “bwrdd i’w alw’n Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd”. Mae paragraff 2(4) o Atodlen 1 hefyd yn disodli'r cyfeiriad at “National Assembly for Wales Remuneration Board” yn adran 20(8) o Ddeddf 2006 gydag “Independent Remuneration Board of the Senedd”.

Adran 9 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

12.Mae adran 9 yn cyflwyno Atodlen 1 sy'n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy'n ymwneud â Rhan 2 o'r Ddeddf i ddeddfwriaeth arall.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources