Adran 13 – Canfasio blynyddol
21.Mae adran 13 yn gwneud diwygiadau i’r broses ganfasio aelwydydd flynyddol mewn perthynas ag etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru fel y’i nodir yn Neddf 1983 a Rheoliadau 2001.
22.Mae adran 13(1) yn addasu’r gofyniad i swyddogion cofrestru wneud ymholiadau o dŷ i dŷ at ddibenion cynnal cofrestr etholwyr llywodraeth leol fel nad yw’n gymwys i unrhyw berson o dan 16 oed.
23.Mae adran 13(2)(a) yn diwygio Rheoliadau 2001 fel bod y ffurflen ganfasio flynyddol ar gyfer etholwyr llywodraeth leol yn gofyn am enw llawn, dyddiad geni a chenedligrwydd pob person 14 a 15 oed sy’n gymwys i gofrestru yn y cyfeiriad. Mae’r ddarpariaeth yn caniatáu i’r swyddog cofrestru, at ddibenion etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd, gynnwys y bobl a fydd yn 16 oed erbyn etholiad nesaf y Senedd ar y gofrestr etholwyr llywodraeth leol.
24.Mae adran 13(2)(b) yn atal swyddogion cofrestru rhag darparu dyddiad geni unrhyw berson o dan 16 oed ar ffurflenni canfasio wedi’u hargraffu ymlaen llaw.