Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) 2020

Adran 1 – Indemniadau mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau iechyd

4.Mae is-adran (2) o adran 1 o’r Ddeddf yn mewnosod y diffiniad o gynllun indemniad cydfuddiannol (“mutual indemnity scheme”) yn is-adran (1) o adran 30 o Ddeddf 2006. Mae cynnwys y term diffiniedig yn gwahaniaethu’r cynlluniau hynny a wneir yn unol ag is-adran (1), pan fo sawl corff gwasanaeth iechyd yn talu eu treuliau ac yn bodloni eu hatebolrwyddau drwy gyfuno adnoddau mewn cronfa ar y cyd, oddi wrth y cynlluniau hynny a wneir o dan yr is-adran newydd (8) a elwir yn gynlluniau indemniad uniongyrchol (“direct indemnity schemes”).

5.Mae is-adran (3) o adran 1 o’r Ddeddf yn ychwanegu at y cyrff a gaiff wneud darpariaeth o fewn cynllun indemniad o dan adran 30. Y cyntaf o’r cyrff newydd hyn yw person sy’n darparu neu sydd wedi darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol. Byddai hyn yn cynnwys Ymarferwyr Cyffredinol. Yr ail ychwanegiad yw corff, neu berson arall, sy’n darparu neu sy’n trefnu i ddarparu gwasanaethau iechyd, neu a ddarparodd neu a drefnodd i ddarparu gwasanaethau iechyd (ac eithrio corff sydd eisoes wedi ei restru yn is-adran (2)) o dan drefniant â Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu Awdurdod Iechyd Arbennig. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, berson sy’n darparu gwasanaethau o dan gontract â Bwrdd Iechyd Lleol.

6.Mae is-adran (5) o adran 1 o’r Ddeddf yn mewnosod enwau’r cyrff y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo i gymryd rhan mewn cynllun indemniad cydfuddiannol yn unol â’u pŵer yn is-adran (4) o adran 30 o Ddeddf 2006. Mae’n ofynnol egluro hyn o ganlyniad i’r rhestr hwy o gyrff sydd wedi ei chynnwys yn is-adran (2) o adran 30.

7.Mae is-adran (8) o adran 1 o’r Ddeddf yn mewnosod is-adrannau newydd (8) i (11) yn adran 30 o Ddeddf 2006.

8.Mae’r is-adran newydd (8) o adran 30 yn creu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i sefydlu cynllun statudol y cânt indemnio’r personau neu’r cyrff yn is-adran (2) odano. Mae’r Ddeddf yn enwi’r rhain yn gynlluniau indemniad uniongyrchol (“direct indemnity schemes”).

9.Mae’r is-adran newydd (9) yn darparu rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o’r hyn y caiff rheoliadau sy’n sefydlu cynllun indemniad uniongyrchol ei ragnodi, gan gynnwys, er enghraifft, pwy sy’n berson cymwys, a pha atebolrwyddau neu dreuliau y caniateir eu hindemnio drwy gynllun o’r fath.

10.Mae’r is-adran newydd (10) o adran 30 yn ei gwneud yn glir nad oes dim yn adran 30 sy’n atal Gweinidogion Cymru rhag arfer eu pwerau i ddarparu indemniadau i unrhyw berson ac eithrio’r rheini sydd wedi eu rhestru yn is-adran (2), neu rhag darparu mathau gwahanol o indemniadau i’r cyrff hynny sydd wedi eu rhestru yn is-adran (2).

11.Mae is-adran newydd (11) yn darparu diffiniad o swyddogaethau (“functions”).

12.Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud nifer o fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i adran 30 o ganlyniad i’r darpariaethau o sylwedd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources