Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Newidiadau dros amser i: RHAN 8

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, RHAN 8. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 8LL+CMATERION ERAILL

DilysrwyddLL+C

31Nid effeithir ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir gan SAC (gan gynnwys unrhyw beth a wneir gan ei haelodau anweithredol, yr aelodau sy’n gyflogeion, unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor, a chan unrhyw gyflogai i SAC) gan—

(a)swydd wag, neu

(b)penodiad diffygiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I2Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 4.7.2013 gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xvii)

Dirprwyo swyddogaethauLL+C

32(1)Caiff SAC ddirprwyo ei swyddogaethau i—

(a)unrhyw un o’i haelodau, cyflogeion neu bwyllgorau, neu

(b)i berson sy’n darparu gwasanaethau i SAC.

(2)Caiff pwyllgor ddirprwyo swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau a ddirprwywyd iddo) i is-bwyllgor.

(3)Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn atal SAC na’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) rhag gweithredu’r swyddogaeth ei hun.

(4)Nid yw dirprwyo swyddogaeth yn effeithio ar gyfrifoldeb SAC neu’r pwyllgor (yn ôl y digwydd) am y swyddogaeth.

(5)Ni chaniateir dirprwyo swyddogaethau o dan y darpariaethau canlynol—

(a)adran 20(1)(a) (amcangyfrif incwm a gwariant SAC am bob blwyddyn ariannol);

(b)adran 25(1) (paratoi cynllun blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol gyda’r Archwilydd Cyffredinol);

(c)paragraff 27 o Ran 7 o’r Atodlen hon (gwneud rheolau at y diben o reoleiddio gweithdrefn SAC);

(d)paragraff 34(2) o Ran 8 o’r Atodlen hon (argymell person i archwilio cyfrifon SAC, etc);

(e)paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 2 (paratoi adroddiad neu adroddiad interim, ar y cyd, bob blwyddyn ariannol ar arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a SAC);

(f)paragraff 5 o Ran 3 o Atodlen 2 (dynodi person arall, dros dro, i arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I4Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 4.7.2013 at ddibenion penodedig gan O.S. 2013/1466, ergl. 2(u)(xviii)

I5Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 1.4.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Cyfrifon SACLL+C

33(1)Yr Archwilydd Cyffredinol fydd y swyddog cyfrifyddu ar gyfer SAC.

(2)Rhaid i’r swyddog cyfrifyddu, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, yn unol â chyfarwyddiau a roddir gan y Trysorlys—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)paratoi datganiad o gyfrifon.

(3)Rhaid i ddatganiad o gyfrifon roi barn wir a theg ar—

(a)cyflwr materion SAC ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a

(b)incwm a gwariant SAC yn ystod y flwyddyn ariannol.

(4)Mae’r cyfarwyddiadau y caiff y Trysorlys eu rhoi yn cynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) gyfarwyddiadau yn ymwneud â’r canlynol—

(a)y materion a’r trafodion ariannol y mae’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon i ymwneud â hwy;

(b)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cyfrifon a’r modd y mae’r cyfrifon i’w cyflwyno;

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r cyfrifon i’w paratoi yn unol â hwy;

(d)yr wybodaeth ychwanegol (os oes gwybodaeth felly) sydd i ddod gyda’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon.

(5)Caiff y cyfarwyddiadau y caniateir i’r Trysorlys eu rhoi hefyd gynnwys cyfarwyddiadau i baratoi cyfrifon sy’n ymwneud â materion a thrafodion ariannol personau ac eithrio SAC.

(6)Mae gan swyddog cyfrifyddu SAC, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid SAC, gyfrifoldebau eraill a bennir o bryd i’w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I7Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Archwilio SAC etcLL+C

34(1)Y Cynulliad Cenedlaethol sydd i benodi person yn archwilydd cyfrifon SAC, ac i bennu telerau penodi’r person hwnnw.

(2)Caiff SAC argymell person at ddibenion is-baragraff (1).

(3)Dim ond os yw’r person yn archwilydd cymwysedig fel y’i ddiffinnir yn adran 19 y mae person yn gymwys i’w benodi.

(4)Os yw person a benodir yn archwilydd yn peidio â bod yn archwilydd cymwysedig, mae’r person yn peidio â bod yn archwilydd.

(5)Rhaid i’r person a benodir yn archwilydd roi sylw i’r safonau a’r egwyddorion y byddai disgwyl i ddarparwr proffesiynol arbenigol o wasanaethau cyfrifyddu neu archwilio eu dilyn.

(6)Rhaid i SAC dalu tâl cydnabyddiaeth i’r archwilydd fel y darperir ar ei gyfer gan delerau penodi’r archwilydd, neu o dan y telerau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I9Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

35(1)O ran datganiad o gyfrifon a baratoir o dan baragraff 33, rhaid iddo—

(a)cael ei lofnodi gan swyddog cyfrifyddu SAC, a

(b)cael ei gyflwyno gan gadeirydd SAC i’r archwilydd a benodwyd o dan baragraff 34,

heb fod yn hwyrach na 5 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.

(2)Rhaid i’r archwilydd—

(a)ymchwilio i unrhyw ddatganiad o gyfrifon a dderbynnir ganddo o dan is-baragraff (1) a’i ardystio, a

(b)gosod y datganiad o gyfrifon fel y’i hardystiwyd ganddo ynghyd â’i adroddiad arno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(3)Rhaid i’r archwilydd, yn benodol, fod yn fodlon, ar ôl ymchwilio i ddatganiad o gyfrifon a gyflwynir iddo—

(a)bod y gwariant yr aed iddo ac y mae a wnelo’r datganiad ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sydd yn ei lywodraethu;

(b)nad yw arian y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef, a gafodd SAC at ddiben penodol neu at ddibenion penodol, wedi ei wario ond at y diben hwnnw neu’r dibenion hynny;

(c)bod y datganiad o gyfrifon yn cydymffurfio â gofynion unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r cyfrifon neu’r datganiad o gyfrifon;

(d)bod arferion priodol wedi eu dilyn wrth baratoi’r datganiad o gyfrifon.

(4)Mae gan yr archwilydd yr hawl, ar bob adeg resymol, i gael gafael ar bob dogfen yr ymddengys i’r archwilydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion archwilio’r cyfrifon.

(5)Caiff yr archwilydd—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal, neu’n atebol am ddogfen o’r fath, ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniad y mae’n rhesymol yn credu ei fod neu ei bod yn angenrheidiol at y dibenion hynny;

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu cyfrifon i’r archwilydd, ar adegau a bennir ganddo, o ran y trafodion hynny (gan y person perthnasol) a bennir gan yr archwilydd.

(6)Ystyr “person perthnasol” yw—

(a)yr Archwilydd Cyffredinol,

(b)SAC, neu

(c)unrhyw berson y mae’r cyfrifon yn ymwneud â’i faterion a’i drafodion ariannol o ganlyniad i baragraff 33(5).

(7)Caiff yr archwilydd—

(a)cynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi defnyddio adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol;

(b)cynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y modd y mae SAC wedi defnyddio adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau SAC;

(c)gosod adroddiad o ganlyniadau unrhyw ymchwiliadau o’r fath gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(8)At ddibenion cynnal ymchwiliadau o’r fath—

(a)mae gan yr archwilydd hawl i gael gafael, ar bob adeg resymol, ar bob dogfen ym meddiant neu o dan reolaeth yr Archwilydd Cyffredinol neu SAC, y mae ar yr archwilydd angen rhesymol amdano at y dibenion hynny;

(b)caiff yr archwilydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal, neu’n atebol am, unrhyw un o’r dogfennau hynny, ddarparu unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniad y mae’n rhesymol yn credu ei fod neu ei bod yn angenrheidiol at y dibenion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I11Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Tystiolaeth ddogfennolLL+C

36(1)Mae gosod sêl SAC i’w ddilysu â llofnod—

(a)aelod o SAC, neu

(b)cyflogai i SAC a awdurdodwyd (naill ai’n gyffredinol neu’n benodol) ar gyfer y diben hwnnw gan SAC.

(2)Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei chyflawni’n briodol o dan sêl SAC, neu yr honnir ei bod wedi ei llofnodi ar ei rhan—

(a)i gael ei derbyn yn dystiolaeth, a

(b)oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid cymryd ei bod wedi’i chyflawni neu ei llofnodi felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 35(2)

I13Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 1.4.2014 gan O.S. 2013/1466, ergl. 3(1)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill