Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Part 2 Chapter 1:

  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/373 by S.I. 2021/735 art. 2
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/373 by S.I. 2021/938 art. 2
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/381 by S.I. 2021/516 art. 2
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/381 by S.I. 2021/516 art. 3
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/381 by S.I. 2021/735 art. 3
  • specified provision(s) amendment to earlier commencing S.I. 2021/383 by S.I. 2021/735 art. 4
  • specified provision(s) coming into force by S.I. 2021/381 art. 2 3 (This commencement not applied to legislation.gov.uk. S.I. 2021/381 revoked (12.8.2021) by S.I. 2021/938, art. 3)
  • specified provision(s) coming into force by S.I. 2021/383 art. 2 3 (This commencement not applied to legislation.gov.uk. S.I. 2021/383 revoked (12.8.20210) by S.I. 2021/938, art. 4)

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

PENNOD 1LL+CTERMAU ALLWEDDOL, Y COD A CHYFRANOGIAD

Termau allweddolLL+C

2Anghenion dysgu ychwanegolLL+C

(1)Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw’r anhawster dysgu neu’r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

(2)Mae gan blentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol neu berson sy’n hŷn na’r oedran hwnnw anhawster dysgu neu anabledd—

(a)os yw’n cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran, neu

(b)os oes ganddo anabledd at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15) sy’n ei atal neu’n ei lesteirio rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach.

(3)Mae gan blentyn sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol anhawster dysgu neu anabledd os yw’r plentyn yn debygol o fod o fewn is-adran (2) pan fydd o’r oedran ysgol gorfodol, neu y byddai’n debygol o fod felly pe na bai darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei gwneud.

(4)Os yw’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd person yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sy’n cael neu sydd wedi cael ei defnyddio gartref, nid yw hynny’n unig yn golygu bod gan y person anhawster dysgu neu anabledd.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 2 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I3A. 2 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I4A. 2 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I5A. 2 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I6A. 2 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(a), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I7A. 2 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I8A. 2 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(a), 3

I9A. 2 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I10A. 2 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(a)

I11A. 2 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I12A. 2 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(a), 4

I13A. 2 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I14A. 2 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

3Darpariaeth ddysgu ychwanegolLL+C

(1)Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i berson sy’n dair oed neu’n hŷn yw darpariaeth addysgol neu ddarpariaeth hyfforddiant sy’n ychwanegol at yr hyn, neu sy’n wahanol i’r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o’r un oedran—

(a)mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru,

(b)mewn sefydliadau prif ffrwd yn y sector addysg bellach yng Nghymru, neu

(c)mewn mannau yng Nghymru lle y darperir addysg feithrin.

(2)Ystyr “darpariaeth ddysgu ychwanegol” i blentyn sy’n iau na thair oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath.

(3)Yn is-adran (1), ystyr “addysg feithrin” yw addysg sy’n addas i blentyn sydd wedi cyrraedd tair oed ond sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol.

(4)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon i roi cyfeiriadau at oedran gwahanol yn lle’r cyfeiriadau at dair oed.

(5)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I16A. 3 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I17A. 3 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I18A. 3 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(a), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I19A. 3 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I20A. 3 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I21A. 3 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I22A. 3 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I23A. 3 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(a), 4

I24A. 3 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I25A. 3 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I26A. 3 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(a), 3

I27A. 3 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(a)

I28A. 3 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-22)

Cod ymarferLL+C

4Cod anghenion dysgu ychwanegolLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ar anghenion dysgu ychwanegol (“y cod”) a chânt ei ddiwygio o bryd i’w gilydd.

(2)Caiff y cod gynnwys canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac ynghylch unrhyw fater arall sy’n gysylltiedig â nodi a diwallu anghenion dysgu ychwanegol.

(3)Rhaid i’r personau a ganlyn, wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yn y cod—

(a)awdurdod lleol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(c)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)perchennog Academi;

(e)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(f)person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(g)Bwrdd Iechyd Lleol;

(h)ymddiriedolaeth GIG;

[F1(i)GIG Lloegr;]

[F2(j)bwrdd gofal integredig;]

(k)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(l)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(4)Gweler adran 153 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) am ddarpariaeth ynghylch awdurdodau lleol yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr penodol addysg feithrin roi sylw i ganllawiau sydd wedi eu cynnwys yn y cod.

(5)Caiff y cod osod gofynion—

(a)ar awdurdod lleol mewn cysylltiad â threfniadau y mae rhaid iddo eu gwneud o dan adrannau 9 (cyngor a gwybodaeth), 68 (osgoi a datrys anghytundebau) a 69 (gwasanaethau eirioli annibynnol);

(b)ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol mewn cysylltiad â—

(i)penderfyniadau ynghylch a oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol,

(ii)llunio, cynnwys, ffurf, adolygu a diwygio cynlluniau datblygu unigol, neu

(iii)peidio â chynnal cynlluniau datblygu unigol;

(c)ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth at ddibenion y Rhan hon.

(6)Rhaid i’r cod gynnwys y gofynion a ganlyn ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol—

(a)gofyniad o dan is-adran (5)(b)(i) i’r hysbysiad o benderfyniad nad oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol gael ei roi yn unol ag adran 11(4), 13(3), 18(3) neu 40(4) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;

(b)gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i lunio cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono yn unol ag adran 22 neu 40(5) cyn diwedd cyfnod o amser a bennir yn y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau i’r gofyniad a bennir yn y cod;

(c)gofyniad o dan is-adran (5)(b)(ii) i ddefnyddio’r ffurf safonol briodol a nodir yn y cod ar gyfer cynllun datblygu unigol; a rhaid i’r cod gynnwys un neu ragor o ffurfiau safonol at y diben hwn.

(7)Caiff y cod wneud—

(a)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol, a

(b)darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed,

mewn perthynas â gofyniad a osodir o dan is-adran (5) neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 7(4) neu 8(4).

(8)Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (3) a dyletswydd a osodir o dan is-adran (5) hefyd yn gymwys i berson sy’n arfer swyddogaeth at ddiben cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3).

(9)Nid yw’r pŵer i osod gofynion o dan is-adran (5)(c) yn cynnwys y pŵer i osod gofynion mewn cysylltiad â datgelu data personol i berson nad yw’n destun y data, ac eithrio mewn achosion pan fo’r person yn rhiant i blentyn ac mai’r plentyn yw testun y data; F3...

[F4(9A)Yn is-adran (9)—

  • mae i “data personol” yr un ystyr ag a roddir i “personal data” yn Rhannau 5 i 7 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3(2) a (14) o'r Ddeddf honno);

  • mae i “testun y data” yr ystyr a roddir i “data subject” gan adran 3(5) o'r Ddeddf honno.]

(10)Rhaid i Dribiwnlys Addysg Cymru roi sylw i unrhyw ddarpariaeth yn y cod yr ymddengys iddo ei bod yn berthnasol i gwestiwn sy’n codi ar apêl o dan y Rhan hon.

(11)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cod sydd mewn grym am y tro ar eu gwefan.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn a. 4(9) wedi eu hepgor (25.5.2018) yn rhinwedd Data Protection Act 2018 (c. 12), a. 212(1), Atod. 19 para. 226(3)(a) (ynghyd ag aau. 117, 209, 210); O.S. 2018/625, rhl. 2(1)(g)

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I30A. 4 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(2)(a)

I31A. 4 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I32A. 4 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I33A. 4 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(a), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I34A. 4 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I35A. 4 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I36A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(a)

I37A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I38A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I39A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(a), 3

I40A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I41A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I42A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(a) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I43A. 4 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(a), 4

5Y weithdrefn ar gyfer gwneud y codLL+C

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 4, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ar ddrafft o’r cod—

(a)pob awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru;

(c)corff llywodraethu pob sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru;

(d)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(e)Comisiynydd Plant Cymru;

(f)Comisiynydd y Gymraeg;

(g)y pwyllgor perthnasol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru y mae ei gylch gorchwyl yn cynnwys addysg plant a phobl ifanc;

(h)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt) rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi cod oni bai bod drafft ohono wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu cymeradwyo drafft o’r cod—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod ar ffurf y drafft, a

(b)daw’r cod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(5)Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)(b)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y cod i rym.

(6)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god yn cynnwys cod diwygiedig.

(7)Caniateir i’r gofyniad i ymgynghori a osodir gan is-adran (1) gael ei fodloni drwy gynnal ymgynghoriad cyn y daw’r Rhan hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I45A. 5 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(a)

Cyfranogiad, confensiynau’r Cenhedloedd Unedig a mynediad at wybodaethLL+C

6Dyletswydd i gynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl ifancLL+C

Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw—

(a)i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r plentyn a’i riant neu’r person ifanc,

(b)i bwysigrwydd bod y plentyn a’i riant neu’r person ifanc yn cymryd rhan mor llawn â phosibl mewn penderfyniadau sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaeth o dan sylw, ac

(c)i bwysigrwydd bod yr wybodaeth a’r gefnogaeth angenrheidiol yn cael eu darparu i’r plentyn ac i riant y plentyn neu i’r person ifanc er mwyn eu galluogi neu ei alluogi i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I47A. 6 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I48A. 6 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I49A. 6 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I50A. 6 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I51A. 6 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(b), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I52A. 6 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I53A. 6 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(b), 3

I54A. 6 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(b), 4

I55A. 6 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(b)

I56A. 6 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I57A. 6 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I58A. 6 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I59A. 6 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

7Dyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r PlentynLL+C

(1)Rhaid i gorff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc roi sylw dyladwy i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a fabwysiadwyd ac a agorwyd i’w lofnodi, ei gadarnhau a’i dderbyn gan benderfyniad 44/25 y Cynulliad Cyffredinol ar 20 Tachwedd 1989 (“y Confensiwn”).

(2)At ddibenion is-adran (1), mae Rhan 1 o’r Confensiwn i gael ei drin fel pe bai’n cael effaith—

(a)fel y’i nodir am y tro yn Rhan 1 o’r Atodlen i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2), ond

(b)yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad fel y'u nodir am y tro yn Rhan 3 o'r Atodlen honno.

(3)Nid yw is-adran (1) yn gwneud ystyriaeth benodol o’r Confensiwn yn ofynnol ar bob achlysur y caiff swyddogaeth ei harfer.

(4)Caiff cod a ddyroddir o dan adran 4 wneud darpariaeth sy’n nodi’r hyn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1); ac mae is-adran (1) i gael ei dehongli yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

(5)Yn is-adran (1), ystyr “corff perthnasol” yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I61A. 7 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(2)(b)

I62A. 7 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I63A. 7 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I64A. 7 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(b), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I65A. 7 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2)

I66A. 7 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3)

I67A. 7 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I68A. 7 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(b), 4

I69A. 7 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I70A. 7 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I71A. 7 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(b)

I72A. 7 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I73A. 7 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I74A. 7 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(b), 3

8Dyletswydd i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag AnableddauLL+C

(1)Rhaid i gorff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc anabl roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a’i brotocol dewisol a fabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2006 gan benderfyniad A/RES/61/106 y Cynulliad Cyffredinol ac a agorwyd i’w lofnodi ar 30 Mawrth 2007 (“y Confensiwn”).

(2)Mae’r Confensiwn i’w drin fel petai iddo effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddatganiad neu neilltuad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl ei gadarnhau, ac eithrio pan fo’r datganiad neu’r neilltuad wedi ei dynnu’n ôl wedi hynny.

(3)Nid yw is-adran (1) yn gwneud ystyriaeth benodol o’r Confensiwn yn ofynnol ar bob achlysur y caiff swyddogaeth ei harfer.

(4)Caiff cod a ddyroddir o dan adran 4 wneud darpariaeth sy’n nodi’r hyn sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1); ac mae is-adran (1) i gael ei dehongli yn unol ag unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

(5)Yn is-adran (1), ystyr “corff perthnasol” yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I75A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I76A. 8 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(2)(b)

I77A. 8 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I78A. 8 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I79A. 8 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I80A. 8 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(b), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I81A. 8 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I82A. 8 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

I83A. 8 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(b), 3

I84A. 8 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I85A. 8 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(b), 4

I86A. 8 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(b)

I87A. 8 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I88A. 8 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I89A. 8 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-25)

9Cyngor a gwybodaethLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor i bobl ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan y Rhan hon.

(2)Wrth wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i awdurdod lleol roi sylw i’r egwyddor bod rhaid i wybodaeth a chyngor a ddarperir o dan y trefniadau gael eu darparu mewn modd diduedd.

(3)Rhaid i awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau a wneir o dan yr adran hon, adrannau 68 (osgoi a datrys anghytundebau) a 69 (gwasanaethau eirioli annibynnol) yn hysbys i—

(a)plant a phobl ifanc yn ei ardal,

(b)rhieni plant yn ei ardal,

(c)plant y mae’n gofalu amdanynt sydd y tu allan i’w ardal,

(d)cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yn ei ardal,

(e)cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach yn ei ardal,

(f)cyfeillion achos plant yn ei ardal, ac

(g)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(4)Pan fo corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi ei hysbysu am drefniadau o dan is-adran (3), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau yn hysbys i—

(a)disgyblion yr ysgol a’u rhieni, a

(b)cyfeillion achos y disgyblion.

(5)Pan fo corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach wedi ei hysbysu am drefniadau o dan is-adran (3), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i wneud y trefniadau yn hysbys i fyfyrwyr y sefydliad.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I90A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I91A. 9 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I92A. 9 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I93A. 9 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)

I94A. 9 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(b), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I95A. 9 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)

I96A. 9 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(b), 4

I97A. 9 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-25)

I98A. 9 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I99A. 9 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I100A. 9 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(b)

I101A. 9 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(b), 3

I102A. 9 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 4-22)

I103A. 9 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(b) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill