Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Newidiadau dros amser i: PENNOD 3

 Help about opening options

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) pennod yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, PENNOD 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

PENNOD 3LL+CGWEITHREDU CWRICWLWM

CyffredinolLL+C

26Cyflwyniad a dehongliLL+C

(1)Maeʼr Bennod hon yn gwneud darpariaeth ynghylch gweithredu cwricwlwm i unrhyw un o’r canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;

(c)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(2)Mae Pennod 4 yn nodi eithriadau iʼr dyletswyddau gweithredu cwricwlwm yn y Bennod hon.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon ac ym Mhennod 4 at ysgol yn gyfeiriadau—

(a)at ysgol a gynhelir, neu

(b)at ysgol feithrin a gynhelir.

(4)Yn y Bennod hon ac ym Mhennod 4—

(a)mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer;

(c)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os diwygir y cwricwlwm hwnnw o dan adran 12, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir);

(d)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan ddarparwr yr addysg (ac os diwygir y cwricwlwm hwnnw o dan adran 16, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 26 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

I3A. 26 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)

Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelirLL+C

27Dyletswydd i sicrhau gweithrediad y cwricwlwm mabwysiedigLL+C

(1)Rhaid i bennaeth ysgol sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu i ddisgyblion yr ysgol yn unol ag adrannau 28, 29 a 30.

(2)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu i ddisgyblion yr ysgol yn unol ag adrannau 28, 29 a 30.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I5A. 27 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

I6A. 27 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)

28Gofynion gweithredu cyffredinolLL+C

Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—

(a)syʼn galluogi pob disgybl i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I8A. 28 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

I9A. 28 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)

29Gofynion gweithredu pellach ar gyfer disgyblion 3 i 14 oedLL+C

(1)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig yn unol ag is-adran (2) i ddisgyblion nad ydynt eto wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y maeʼr rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi.

(2)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl—

(a)syʼn cwmpasuʼr meysydd dysgu a phrofiad (gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd hynny), a

(b)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(3)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)—

(a)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr disgybl, a

(b)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gyd-fynd â Rhan 2 o Atodlen 1, ac eithrio pan fo is-adran (4) yn gymwys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r addysgu a dysgu i ddisgyblion mewn dosbarth y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ynddo yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I11A. 29 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.

I12A. 29 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)

Rhagolygol

30Gofynion gweithredu pellach ar gyfer disgyblion 14 i 16 oedLL+C

(1)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig yn unol ag is-adran (2) i ddisgyblion sydd wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi.

(2)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—

(a)syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob disgybl syʼn cwmpasuʼr elfennau mandadol o fewn y meysydd dysgu a phrofiad, a

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu arall i bob disgybl ym mhob maes dysgu a phrofiad.

(3)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2) ddatblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(4)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2) gynnwys—

(a)addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth a wneir yn y cwricwlwm, iʼr graddau y maeʼn gymwys iʼr disgybl, yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 25, a

(b)yr addysgu a dysgu a ddewisir gan y disgybl yn rhinwedd adran 24.

(5)Am eithriad iʼr ddyletswydd i sicrhau’r addysgu a dysgu a ddewisir gan y disgybl, gweler adran 31.

(6)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir o dan is-adran (2)—

(a)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr disgybl, a

(b)mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gyd-fynd â Rhan 2 o Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

Rhagolygol

31Pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgyblLL+C

(1)Maeʼr adran hon yn gymwys i’r addysgu a dysgu a ddewisir gan ddisgybl yn rhinwedd adran 24.

(2)Os yw pennaeth ysgol a gynhelir wedi ei fodloni bod sail berthnasol yn gymwys, caiff y pennaeth benderfynu nad yw’r ddyletswydd i sicrhau’r addysgu a dysgu yn gymwys.

(3)Yn achos penderfyniad a wneir cyn iʼr disgybl ddechrauʼr flwyddyn ysgol berthnasol, y seiliau perthnasol yw—

(a)nad ywʼr addysgu a dysgu yn addas iʼr disgybl, oherwydd lefel cyrhaeddiad addysgol y disgybl;

(b)nad ywʼn rhesymol ymarferol sicrhau’r addysgu a dysgu iʼr disgybl, oherwydd dewisiadau eraill a wneir gan y disgybl yn rhinwedd adran 24;

(c)y byddaiʼr amser syʼn debygol o gael ei dreulio yn teithio iʼr man lle y maeʼr addysgu yn debygol o gael ei ddarparu yn niweidiol i addysg y disgybl;

(d)yr eid i wariant anghymesur pe baiʼr addysgu a dysgu yn cael ei sicrhau iʼr disgybl;

(e)y rhoddid iechyd neu ddiogelwch y disgybl neu berson arall mewn perygl yn annerbyniol pe baiʼr addysgu a dysgu yn cael ei sicrhau iʼr disgybl.

(4)Yn achos penderfyniad a wneir ar ôl iʼr disgybl ddechrauʼr flwyddyn ysgol berthnasol, y seiliau perthnasol yw—

(a)yr eid i wariant anghymesur pe baiʼr addysgu a dysgu yn parhau i gael ei sicrhau iʼr disgybl;

(b)y rhoddid iechyd neu ddiogelwch y disgybl neu berson arall mewn perygl yn annerbyniol pe baiʼr addysgu a dysgu yn parhau i gael ei sicrhau iʼr disgybl.

(5)Yn is-adrannau (3) a (4), y “blwyddyn ysgol berthnasol” ywʼr flwyddyn ysgol y bydd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn nosbarth y disgybl yn cyrraedd 15 oed ynddi.

(6)Caiff rheoliadau ddiwygio is-adrannau (3) a (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

Rhagolygol

32Pŵer i ddatgymhwyso dyletswydd i weithredu dewis disgybl: atodolLL+C

(1)Rhaid i bennaeth syʼn gwneud penderfyniad o dan adran 31 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adran (2)—

(a)i’r disgybl y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef, a

(b)i riant y disgybl.

(2)Yr wybodaeth yw—

(a)y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud,

(b)effaith y penderfyniad,

(c)rhesymauʼr pennaeth dros wneud y penderfyniad,

(d)gwybodaeth am yr addysgu a dysgu a sicrheir iʼr disgybl yn lleʼr addysgu a dysgu y maeʼr penderfyniad wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef, ac

(e)gwybodaeth am yr hawl i ofyn am adolygiad, neu wneud apêl, o dan adran 33.

(3)Rhaid rhoiʼr wybodaeth yn ysgrifenedig.

(4)Nid ywʼr ddyletswydd yn is-adran (1)(a) yn gymwys os ywʼr pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall—

(a)yr wybodaeth a roddid, neu

(b)yr hyn y maeʼn ei olygu i arfer yr hawliau a roddir gan adran 33.

(5)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â phenderfyniadau o dan adran 31.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

Rhagolygol

33Adolygiadau ac apelau syʼn ymwneud â dewis disgyblLL+C

(1)Caiff disgybl neu riant y rhoddir gwybodaeth iddo am benderfyniad a wneir gan bennaeth o dan adran 31—

(a)ei gwneud yn ofynnol iʼr pennaeth adolyguʼr penderfyniad, a

(b)os nad yw wedi ei fodloni ar benderfyniad y pennaeth ar yr adolygiad, apelio i gorff llywodraethuʼr ysgol yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

(2)Yn sgil adolygiad—

(a)caiff y pennaeth gadarnhau, amrywio neu ddirymuʼr penderfyniad, a

(b)rhaid iʼr pennaeth roi hysbysiad ysgrifenedig oʼr penderfyniad hwnnw—

(i)iʼr disgybl,

(ii)i riant y disgybl a

(iii)iʼr corff llywodraethu.

(3)Ond nid yw is-adran (2)(b)(i) yn gymwys os yw’r pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall—

(a)yr wybodaeth a roddid, neu

(b)yr hyn y mae’n ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan is-adran (1)(b).

(4)Yn sgil apêl—

(a)caiff y corff llywodraethu gadarnhau penderfyniad y pennaeth ar yr adolygiad neu gyfarwyddoʼr pennaeth i gymryd y camau gweithredu y maeʼn ystyried eu bod yn briodol, a

(b)rhaid iʼr corff llywodraethu roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—

(i)iʼr disgybl,

(ii)i riant y disgybl, a

(iii)iʼr pennaeth.

(5)Ond nid yw is-adran (4)(b)(i) yn gymwys os yw’r corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(6)Rhaid iʼr pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4)(a).

(7)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol o fewn is-adran (8) gyhoeddi gwybodaeth syʼn nodi gweithdrefn ar gyfer adolygiadau ac apelau o dan yr adran hon.

(8)Mae ysgol o fewn yr is-adran hon os yw’r cwricwlwm mabwysiedig yn gymwys i ddisgyblion sydd wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelirLL+C

34Dyletswydd i sicrhau gweithrediad y cwricwlwm mabwysiedigLL+C

(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu i blant yn unol ag adrannau 35 a 36.

(2)Rhaid i awdurdod lleol syʼn sicrhau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu yn unol ag adrannau 35 a 36 i blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I18A. 34 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I19A. 34 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

35Gofynion gweithredu cyffredinolLL+C

Rhaid gweithredu’r cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd—

(a)syʼn galluogi pob plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,

(b)syʼn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob plentyn,

(c)syʼn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob plentyn,

(d)syʼn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob plentyn (os oes rhai), ac

(e)syʼn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I21A. 35 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I22A. 35 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

36Gofynion syʼn ymwneud â meysydd dysgu a phrofiad a sgiliau trawsgwricwlaiddLL+C

(1)Rhaid gweithreduʼr cwricwlwm mabwysiedig mewn ffordd syʼn sicrhau addysgu a dysgu i bob plentyn—

(a)syʼn cwmpasuʼr meysydd dysgu a phrofiad (gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd hynny), a

(b)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.

(2)Rhaid iʼr addysgu a dysgu a sicrheir i blentyn o dan is-adran (1), mewn cysylltiad ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, fod yn addas ar gyfer cyfnod datblyguʼr plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I24A. 36 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.

I25A. 36 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill