Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Newidiadau dros amser i: RHAN 4

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, RHAN 4. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 4LL+CASESU A CHYNNYDD

56Dyletswydd i wneud darpariaeth ynghylch trefniadau asesuLL+C

(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch trefniadau asesu.

(2)Trefniadau asesu yw trefniadau ar gyfer asesu, mewn perthynas âʼr cwricwlwm perthnasol—

(a)y cynnydd a wnaed gan ddisgyblion a phlant,

(b)y camau nesaf yn eu cynnydd, ac

(c)yr addysgu a dysgu y mae ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol wneud a gweithredu trefniadau asesu;

(b)pennu pa bryd a sut y maeʼr trefniadau hynny iʼw gwneud aʼu gweithredu;

(c)pennuʼr trefniadau asesu, neuʼr meini prawf y mae rhaid i’r trefniadau eu bodloni;

(d)ei gwneud yn ofynnol gwerthuso effeithiolrwydd trefniadau asesu;

(e)gwneud darpariaeth ynghylch sut y maeʼr gwerthusiad hwnnw iʼw gynnal;

(f)ei gwneud yn ofynnol cadw trefniadau asesu o dan adolygiad, aʼu diwygio;

(g)ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol ddarparu gwybodaeth, fel yʼi pennir yn y rheoliadau, ynghylch trefniadau asesu a wneir neu a weithredir gan y person hwnnw, ac ynghylch y materion a ddisgrifir yn is-adran (2).

(4)Yn yr adran hon, ystyr “person perthnasol” yw—

(a)pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir;

(c)darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(d)yr athro neuʼr athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion;

(e)pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion;

(f)person syʼn darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(5)Yn yr adran hon, ystyr “cwricwlwm perthnasol”—

(a)mewn perthynas ag ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, ywʼr cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 12, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);

(b)mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, ywʼr cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan y person y darperir yr addysg ganddo (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 16, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);

(c)mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, ywʼr cwricwlwm ar gyfer yr uned y cyfeirir ato yn adran 50 (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 51, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);

(d)mewn perthynas ag addysg a ddarperir ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996, ywʼr cwricwlwm i’r plentyn y cyfeirir ato yn adran 53.

(6)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)pennuʼr trefniadau asesu sydd iʼw gwneud aʼu gweithredu drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir o bryd iʼw gilydd gan unrhyw berson;

(b)gwneud darpariaeth i drefniadau asesu gael eu gweithredu yn unol â dogfen a gyhoeddir o bryd iʼw gilydd gan unrhyw berson.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 56 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(c)

I3A. 56(1) mewn grym ar 11.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/12, ergl. 2(a)

I4A. 56(1) mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/12, ergl. 3(a)

I5A. 56(2)-(6) mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/12, ergl. 3(a)

57Hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnyddLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo person perthnasol (neu bersonau perthnasol o ddisgrifiad penodedig) i gymryd camau penodedig gyda golwg ar hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnydd yng nghyd-destun cwricwlwm perthnasol.

(2)Rhaid i berson perthnasol y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan yr adran hon gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

(3)Yn yr adran hon—

(a)mae i “cwricwlwm perthnasol” a “person perthnasol” yr ystyr a roddir yn adran 56, a

(b)ystyr “penodedig” yw penodedig mewn cyfarwyddyd o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I7A. 57 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(c)

I8A. 57(1) mewn grym ar 11.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/12, ergl. 2(b)

I9A. 57(1) mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/12, ergl. 3(b)

I10A. 57(2)(3) mewn grym ar 1.9.2022 gan O.S. 2022/12, ergl. 3(b)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill