Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023

Newidiadau dros amser i: PENNOD 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, PENNOD 1. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

PENNOD 1LL+CPŴER GWEINIDOGION CYMRU I DDARPARU CYMORTH

8Pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, amaethyddiaeth yng Nghymru a gweithgareddau ategol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru.

(2)Caiff y cymorth hwnnw, yn benodol, gynnwys cymorth ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn, neu mewn cysylltiad â hwy—

(a)annog cynhyrchu bwyd mewn modd sy’n amgylcheddol gynaliadwy;

(b)helpu cymunedau gwledig i ffynnu a chryfhau’r cysylltiadau rhwng busnesau amaethyddol a’u cymunedau;

(c)gwella gwytnwch busnesau amaethyddol;

(d)cynnal y Gymraeg a hyrwyddo a hwyluso ei defnydd;

(e)lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;

(f)atafaelu a storio carbon i’r graddau gorau posibl;

(g)cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau;

(h)cadw a gwella tirweddau a’r amgylchedd hanesyddol;

(i)gwella ansawdd yr aer;

(j)gwella ansawdd dŵr;

(k)cynnal a gwella mynediad y cyhoedd i gefn gwlad a’r amgylchedd hanesyddol ac ymgysylltiad y cyhoedd â hwy;

(l)lliniaru risgiau o lifogydd a sychder;

(m)cyflawni a hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid;

(n)sicrhau effeithlonrwydd adnoddau i’r graddau gorau posibl;

(o)annog busnesau amaethyddol i reoli ynni yn effeithiol (gan gynnwys drwy fabwysiadu arferion effeithlonrwydd ynni ac arbed ynni, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ar eu tir).

(3)Caniateir i gymorth o dan yr adran hon gael ei ddarparu o dan gynllun neu fel arall.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2) drwy—

(a)ychwanegu diben at y rhestr yn yr is-adran honno;

(b)dileu diben o’r rhestr;

(c)newid disgrifiad o ddiben ar y rhestr.

(5)Yn yr adran hon, mae i “nwy tŷ gwydr” yr un ystyr ag yn Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3).

(6)Yn y Bennod hon—

(a)mae cyfeiriadau at gymorth (ac eithrio yn achos cyfeiriadau at ddarparu cymorth o dan gynllun trydydd parti o fewn adran 9(8)) yn gyfeiriadau at gymorth o dan yr adran hon;

(b)mae cyfeiriadau at gymorth ariannol yn gyfeiriadau at gymorth o dan yr adran hon sy’n cael ei ddarparu’n ariannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

9Darpariaeth bellach ynghylch cymorth o dan adran 8 LL+C

(1)Caniateir darparu cymorth yn ariannol neu fel arall.

(2)Caniateir darparu cymorth ariannol drwy grant, benthyciad neu warant, neu ar unrhyw ffurf arall.

(3)Caniateir darparu cymorth yn ddarostyngedig i fodloni meini prawf o ran cymhwysedd.

(4)Pan fo cymorth yn cael ei ddarparu mewn cysylltiad â’r defnydd o dir, caniateir i’r meini prawf cymhwysedd (ymysg pethau eraill) bennu gofynion yn ymwneud ag—

(a)hectarau neu nodweddion y tir;

(b)i ba raddau y mae rhaid i’r tir gael ei ddefnyddio ar gyfer neu mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth neu weithgareddau ategol;

(c)y person y darperir cymorth iddo (er enghraifft drwy gyfeirio at ddefnydd neu ddefnydd fwriadedig y person o’r tir).

(5)Caniateir darparu cymorth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)Caniateir i’r amodau (ymysg pethau eraill) gynnwys darpariaeth i gymorth ariannol gael ei ad-dalu neu ar gyfer gwneud iawn amdano fel arall (gyda llog neu beidio).

(7)Caniateir darparu cymorth i wneuthurwr neu weithredwr cynllun trydydd parti mewn cysylltiad â sefydlu neu weithredu’r cynllun hwnnw (gan gynnwys mewn cysylltiad â darparu cymorth o dan y cynllun hwnnw).

(8)

(9)Caiff Gweinidogion Cymru ddirprwyo i unrhyw berson arall swyddogaethau sy’n ymwneud â darparu cymorth.

(10)Caiff swyddogaethau a ddirprwyir o dan is-adran (9) gynnwys—

(a)rhoi canllawiau;

(b)arfer disgresiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 9 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

10Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch cyhoeddi gwybodaeth am gymorth LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer, neu mewn cysylltiad â, chyhoeddi gwybodaeth benodedig am gymorth sy’n cael ei ddarparu neu sydd wedi ei ddarparu.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) osod gofyniad ar unrhyw berson (gan gynnwys ar Weinidogion Cymru).

(3)Mae’r wybodaeth y caniateir ei phennu yn cynnwys gwybodaeth am—

(a)derbynnydd unrhyw gymorth a ddarperir;

(b)swm unrhyw gymorth a ddarperir;

(c)dibenion unrhyw gymorth a ddarperir.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 10 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

11Cynlluniau cymorth amlflwydd LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cynllun, a elwir yn “cynllun cymorth amlflwydd”, sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch y defnydd y disgwylir ei wneud o’r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan adran 8 yn ystod y cyfnod y mae’r cynllun yn gymwys iddo.

(2)Rhaid i gynllun cymorth amlflwydd—

(a)pennu’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef;

(b)nodi sut y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu darparu cymorth yn ystod y cyfnod er mwyn cyfrannu orau at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy (yn unol ag adran 2);

(c)pan fwriedir darparu cymorth yn ystod y cyfnod o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3), disgrifio pob cynllun—

(i)sy’n weithredol, neu

(ii)y mae Gweinidogion Cymru yn disgwyl y bydd yn dod yn weithredol yn ystod y cyfnod;

(d)disgrifio unrhyw gymorth y bwriedir iddo gael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ac eithrio o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3).

(3)Y cyfnod y bydd y cynllun cyntaf yn gymwys mewn perthynas ag ef yw’r cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â 1 Ionawr 2025.

(4)Ni chaiff y cyfnod y bydd cynlluniau dilynol yn gymwys mewn perthynas ag ef fod yn fyrrach na phum mlynedd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw cynllun yn dod i ben heb i gynllun newydd fod yn ei le.

(6)Rhaid i gynllun sy’n cael ei lunio o dan yr adran hon gael ei osod gerbron Senedd Cymru, a’i gyhoeddi, gan Weinidogion Cymru—

(a)yn achos y cynllun cyntaf, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol cyn dechrau’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef, a

(b)yn achos pob cynllun dilynol, o leiaf 12 mis cyn dechrau’r cyfnod y mae’n gymwys mewn perthynas ag ef.

(7)Os yw, cyn diwedd y cyfnod y mae cynllun yn gymwys mewn perthynas ag ef, unrhyw wybodaeth a nodir neu a ddisgrifir yn y cynllun yn unol â pharagraffau (b), (c) neu (d) o is-adran (2) yn peidio â bod yn gywir neu’n gyflawn, rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygio’r cynllun cyn gynted ag y bo’n ymarferol gwneud hynny.

(8)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r cynllun, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)cyhoeddi’r cynllun diwygiedig, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 11 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

12Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch gwirio cymhwysedd ar gyfer cymorth, etc. LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer, neu mewn cysylltiad â—

(a)gwirio a yw’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth wedi eu bodloni;

(b)y canlyniadau, pan fo cymorth wedi ei ddarparu heb i feini prawf cymhwysedd fod wedi eu bodloni;

(c)gorfodi cydymffurfedd ag unrhyw amodau y darperir neu y darparwyd cymorth yn ddarostyngedig iddynt;

(d)monitro i ba raddau y mae pwrpas y cymorth wedi ei gyflawni;

(e)ymchwilio i droseddau a amheuir mewn cysylltiad â cheisiadau am gymorth neu ddarparu cymorth.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), ymysg pethau eraill, gynnwys darpariaeth—

(a)ynghylch darparu gwybodaeth;

(b)sy’n rhoi pwerau mynediad;

(c)sy’n rhoi pwerau arolygu, chwilio ac ymafael;

(d)ynghylch y broses o bennu a yw meini prawf cymhwysedd neu amodau wedi eu bodloni mewn cysylltiad â darparu’r cymorth;

(e)ynghylch cadw cofnodion;

(f)ynghylch adennill neu wneud iawn am yr holl gymorth ariannol neu unrhyw ran ohono (gyda llog neu hebddo);

(g)ynghylch dal cymorth yn ôl, yn gyfan gwbl neu’n rhannol;

(h)ynghylch camau i’w cymryd, gan berson y darperir neu y darparwyd cymorth iddo, er mwyn unioni unrhyw amod a dorrwyd sy’n gymwys i’r cymorth hwnnw;

(i)ynghylch cosbau ariannol (gan gynnwys cosbau a gyfrifir drwy gyfeirio at swm unrhyw gymorth ariannol);

(j)ar gyfer adennill symiau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chosbau ariannol, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer llog, gosod symiau yn erbyn symiau eraill, a sicrwydd ar gyfer taliad;

(k)sy’n gwahardd person rhag cael cymorth, neu gymorth o ddisgrifiad a bennir, am gyfnod a bennir neu hyd nes i amodau a bennir gael eu bodloni;

(l)ynghylch apelau;

(m)sy’n rhoi swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn) i berson.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi mynediad i annedd breifat heb warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (2)(i) yn cynnwys darpariaeth ar gyfer talu llog ar unrhyw swm y gellir ei adennill o ba ddiwrnod bynnag (pa un ai y diwrnod y darparwyd y cymorth o dan sylw, neu ddiwrnod arall) y darperir ar ei gyfer yn y rheoliadau, neu a bennir o dan y rheoliadau.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “a bennir” yw wedi ei bennu mewn, neu wedi ei benderfynu o dan, reoliadau o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 12 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

13Adroddiad blynyddol ynghylch cymorth a ddarparwyd o dan adran 8 LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon (“adroddiad blynyddol”), mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, ynghylch y cymorth a ddarparwyd yn ystod y cyfnod.

(2)Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)cyfanswm unrhyw gymorth ariannol a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd;

(b)pan fo cymorth wedi ei ddarparu yn ystod y cyfnod drwy gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3)—

(i)cyfanswm unrhyw gymorth ariannol a ddarparwyd o dan y cynllun yn ystod y cyfnod;

(ii)disgrifiad o unrhyw gymorth arall a ddarparwyd o dan y cynllun yn ystod y cyfnod;

(c)disgrifiad o unrhyw gymorth ac eithrio cymorth ariannol a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd, ond nid o dan gynllun fel a grybwyllir yn adran 8(3).

(3)Caiff yr adroddiad blynyddol hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—

(a)cyhoeddi’r adroddiad blynyddol sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd hwnnw, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(5)Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—

(a)yn achos yr adroddiad blynyddol cyntaf, y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym, ac sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2025;

(b)yn achos adroddiadau blynyddol dilynol, blynyddoedd ariannol olynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 13 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

14Adroddiad Effaith LL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad o dan yr adran hon (“Adroddiad Effaith”) mewn perthynas â phob cyfnod adrodd.

(2)Rhaid i’r Adroddiad Effaith nodi’r dibenion y darparwyd cymorth ar eu cyfer yn ystod y cyfnod adrodd.

(3)Rhaid i’r Adroddiad Effaith hefyd nodi asesiad Gweinidogion Cymru o effaith ac effeithiolrwydd y cymorth hwnnw, gan gynnwys eu hasesiad o’r canlynol—

(a)ym mha fodd, ac i ba raddau, y gwnaeth y cymorth gyflawni’r dibenion a fwriadwyd, a

(b)ym mha fodd, ac i ba raddau, y gwnaeth darparu’r cymorth gyfrannu at gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy.

(4)Caiff yr Adroddiad Effaith hefyd asesu ac adrodd ar unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol at ddibenion asesu effaith ac effeithiolrwydd cymorth a ddarparwyd yn ystod y cyfnod adrodd.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddim hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob cyfnod adrodd—

(a)cyhoeddi’r Adroddiad Effaith sy’n ymwneud â’r cyfnod adrodd hwnnw, a

(b)ei osod gerbron Senedd Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr y “cyfnod adrodd” yw—

(a)yn achos yr Adroddiad Effaith cyntaf, y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 8 yn dod i rym, ac sy’n dod i ben â 31 Rhagfyr 2029;

(b)yn achos Adroddiadau Effaith dilynol, cyfnodau olynol o bum mlynedd.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (6) drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 14 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

15Camau i’w cymryd wrth lunio adroddiad o dan adran 14 LL+C

Wrth lunio adroddiad o dan adran 14, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)y dibenion a bennir yn adran 8(2);

(b)pob adroddiad a gyhoeddir o dan adran 13 mewn cysylltiad â’r cyfnod adrodd y mae’r adroddiad o dan adran 14 yn ymwneud ag ef;

(c)yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd o dan adran 14;

(d)unrhyw faterion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 15 mewn grym ar 17.10.2023, gweler a. 56(2)(b)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill